RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 4ARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL

F1105Cynnal archwiliadau o dan adran 103 F2, 103A neu 103B : defnyddio offer a deunyddiau

(1)

Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag unrhyw offer neu ddeunyddiau sydd eu hangen at ddiben archwiliad o dan adran F3103, 103A neu 103B i’r fangre sy’n cael ei harchwilio.

(2)

Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag offer neu ddeunyddiau i’r fangre—

(a)

ar adeg y mae meddiannydd y fangre yn cytuno iddi, neu

(b)

ar unrhyw adeg resymol, os bodlonir y naill neu’r llall o’r amodau a ganlyn—

(i)

y dyroddwyd hysbysiad o dan adran 103(3)(b)(i) a bod yr hysbysiad yn pennu bod yr offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre, neu

(ii)

bod gan ACC sail dros gredu y byddai dyroddi hysbysiad o’r fath yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

(3)

Os dygir offer neu ddeunyddiau i’r fangre—

(a)

heb gytundeb y meddiannydd, neu

(b)

heb i hysbysiad gael ei ddyroddi yn unol ag is-adran (2)(b)(i),

rhaid i ACC ddarparu hysbysiad ar yr adeg y mae’r offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre.

(4)

Rhaid i’r hysbysiad—

(a)

os yw meddiannydd y fangre yno, gael ei roi i’r meddiannydd;

(b)

os nad yw’r meddiannydd yno ond bod yno berson yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfrifol am y fangre, gael ei roi i’r person hwnnw;

(c)

mewn unrhyw achos arall, gael ei adael mewn lle amlwg yn y fangre.

(5)

Rhaid i’r hysbysiad ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(6)

Os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, neu’r defnydd o offer neu ddeunyddiau, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.

F4(7)

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).