RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 4ARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL
F1104Cynnal archwiliadau o dan adran 103 F2, 103A neu 103B : darpariaeth bellach
(1)
Wrth gynnal archwiliad o dan adran 103, F3103A neu 103B, mae gan ACC y pwerau a ganlyn.
(2)
Wrth fynd i’r fangre F4..., caiff ACC—
(a)
os oes ganddo sail dros gredu y caiff ei rwystro’n ddifrifol wrth gynnal yr archwiliad, gael cwnstabl yno gydag ef, a
(b)
cael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.
(3)
Caiff ACC wneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae’n ystyried bod ei angen o dan yr amgylchiadau.
(4)
Caiff ACC roi cyfarwyddyd bod y fangre, neu unrhyw ran ohoni, neu unrhyw beth sydd ynddi, i’w gadael neu i’w adael yn union fel y mae (naill ai yn gyffredinol neu o ran agweddau penodol) cyhyd ag y bo angen at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o’r fath.
(5)
Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, gymryd samplau o ddeunydd o’r fangre.
(6)
Mae’r pŵer i gymryd samplau yn cynnwys pŵer—
(a)
i dyllu tyllau arbrofol neu i wneud gwaith arall yn y fangre, a
(b)
i osod, i gadw neu i gynnal cyfarpar monitro a chyfarpar arall yn y fangre.
(7)
Rhaid cael gwared ag unrhyw sampl a gymerir o dan is-adran (5) mewn unrhyw fodd a bennir gan ACC.