RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 4ARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL
I1I2103Pŵer i archwilio mangre busnes
1
Os oes gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio mangre busnes person at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person, caiff ACC fynd i’r fangre ac archwilio—
a
y fangre;
b
asedau busnes sydd yn y fangre;
c
dogfennau busnes sydd yn y fangre (ond gweler adran 110).
2
Ond ni chaiff ACC gynnal archwiliad o’r fath onid yw wedi cael—
a
cytundeb meddiannydd y fangre, neu
b
cymeradwyaeth y tribiwnlys.
3
Caniateir cynnal archwiliad—
a
ar adeg a gytunwyd â meddiannydd y fangre, neu
b
os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad—
i
ar adeg resymol a bennir mewn hysbysiad a ddyroddwyd i’r meddiannydd o leiaf 7 niwrnod cyn yr adeg honno, neu
ii
ar unrhyw adeg resymol os yw’r tribiwnlys, pan fydd yn cymeradwyo’r archwiliad, yn fodlon bod gan ACC sail dros gredu y byddai hysbysu’r meddiannydd yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.
4
Os yw ACC yn ceisio cynnal archwiliad heb—
a
cytundeb y meddiannydd, neu
b
dyroddi hysbysiad o dan is-adran (3)(b)(i),
rhaid i ACC ddarparu hysbysiad ar yr adeg y bydd yr archwiliad i gychwyn.
5
Rhaid i hysbysiad a ddarperir o dan is-adran (4)—
a
os yw meddiannydd y fangre yno, gael ei roi i’r meddiannydd;
b
os nad yw’r meddiannydd yno ond bod yno berson yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfrifol am y fangre, gael ei roi i’r person hwnnw;
c
mewn unrhyw achos arall, gael ei adael mewn lle amlwg yn y fangre.
6
Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan is-adran (3)(b)(i), neu a ddarperir o dan is-adran (4), ddatgan—
a
bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, a
b
canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.
7
Nid yw’r pwerau o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i unrhyw ran o’r fangre, nac i archwilio unrhyw ran ohoni, a ddefnyddir fel annedd yn unig.
F18
Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.