Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

101Diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig rhwng cynghorwyr cyfreithiol a chleientiaidLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson—

(a)darparu gwybodaeth freintiedig, na

(b)cyflwyno unrhyw ran freintiedig o ddogfen.

(2)Mae gwybodaeth neu ddogfen yn freintiedig pe gellid cynnal hawliad ar gyfer braint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi mewn achos cyfreithiol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i’r tribiwnlys ddatrys unrhyw anghydfod o ran a yw unrhyw wybodaeth neu ddogfen yn freintiedig.

(4)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ar gyfer cadw dogfen tra dyfernir ei statws.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 101(1)(2) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

I3A. 101(3)(4) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2