RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 3CYFYNGIADAU AR BWERAU PENNOD 2

101Diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig rhwng cynghorwyr cyfreithiol a chleientiaid

(1)

Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson—

(a)

darparu gwybodaeth freintiedig, na

(b)

cyflwyno unrhyw ran freintiedig o ddogfen.

(2)

Mae gwybodaeth neu ddogfen yn freintiedig pe gellid cynnal hawliad ar gyfer braint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi mewn achos cyfreithiol.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i’r tribiwnlys ddatrys unrhyw anghydfod o ran a yw unrhyw wybodaeth neu ddogfen yn freintiedig.

(4)

Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ar gyfer cadw dogfen tra dyfernir ei statws.