RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 3CYFYNGIADAU AR BWERAU PENNOD 2

100Hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth

(1)

Pan fo person wedi dychwelyd ffurflen dreth ar gyfer cyfnod treth, ni chaniateir dyroddi hysbysiad trethdalwr at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person hwnnw ar gyfer y cyfnod hwnnw.

(2)

Pan fo person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â thrafodiad, ni chaniateir dyroddi hysbysiad trethdalwr at ddiben gwirio sefyllfa dreth person mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw.

(3)

Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys pan fo (neu i’r graddau y mae) naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni.

(4)

Amod 1 yw bod hysbysiad ymholiad wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad ag—

(a)

y ffurflen dreth, neu

(b)

hawliad (neu ddiwygiad i hawliad) a wnaed gan y person mewn perthynas â’r cyfnod treth neu’r trafodiad y mae’r ffurflen yn ymwneud ag ef,

ac nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau.

(5)

Amod 2 yw bod gan ACC reswm i amau, mewn perthynas â’r person—

(a)

ei bod yn bosibl nad yw swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad wedi ei asesu,

(b)

ei bod yn bosibl bod asesiad o dreth ddatganoledig ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, F1...

(c)

ei bod yn bosibl bod F2rhyddhad rhag treth ddatganoledig a roddwyd neu a hawliwyd ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad yn ormodol neu wedi dod yn ormodol,

F3(d)

ei bod yn bosibl bod swm o gredyd treth nad oes gan y person hawlogaeth iddo wedi ei hawlio, neu

(e)

ei bod yn bosibl bod hawliad am gredyd treth yn ormodol neu wedi mynd yn ormodol.

(6)

Pan fo unrhyw bartner mewn partneriaeth wedi dychwelyd ffurflen dreth, mae’r adran hon yn cael effaith fel pe bai pob un o’r partneriaid wedi dychwelyd y ffurflen honno.

(7)

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at berson sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn cyfeirio at y person hwnnw yn y rhinwedd y dychwelwyd y ffurflen dreth yn unig.