Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

PENNOD 4AMRYWIOL AC ATODOL

Canlyniadau adolygiadau ac apelau

182Talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i benderfyniad sy’n ymwneud â chosb y gallai person fod yn agored iddi.

(2)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad mewn cysylltiad â’r penderfyniad, nid yw adran 154 yn gymwys i unrhyw swm o gosb y mae anghydfod yn ei gylch (“swm y mae anghydfod yn ei gylch”).

(3)Pan fo’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person o dan adran 176(5) neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)Pan fo’r person yn gwneud apêl mewn cysylltiad â’r penderfyniad—

(a)nid yw adran 154 yn gymwys i unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, a

(b)nid yw is-adran (3) yn gymwys.

(5)Pan fo’r apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r person dalu—

(a)unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, os nad yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, neu

(b)os yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch y daeth yr adolygiad i’r casgliad ei fod yn daladwy,

cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod tynnu’n ôl.

(6)Pan ddyfernir yn derfynol, o ganlyniad i’r apêl, fod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

183Penderfynu ar adolygiadau ac apelau mewn cysylltiad â hysbysiadau gwybodaeth

(1)Pan fo casgliadau adolygiad o dan adran 176 yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu ofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd) o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.

(2)Pan fo’r tribiwnlys yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd)—

(a)o fewn y cyfnod a bennir gan y tribiwnlys, neu

(b)os nad yw’r tribiwnlys yn pennu cyfnod, o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.

Cytundebau setlo

184Setlo anghydfodau drwy gytundeb

(1)Ystyr “cytundeb setlo” yw cytundeb rhwng person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo (“person perthnasol”) ac ACC fod y penderfyniad—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w amrywio, neu

(c)i’w ganslo.

(2)Pan fo person perthnasol ac ACC yn ymrwymo i gytundeb setlo, mae’r canlyniadau i fod yr un fath â phe bai’r tribiwnlys, ar yr adeg yr ymrwymwyd i’r cytundeb, wedi dyfarnu ar apêl yn erbyn y penderfyniad apeliadwy yn y modd a nodir yn y cytundeb.

(3)Ond nid yw cytundeb setlo i’w drin fel un o benderfyniadau’r tribiwnlys at ddibenion adrannau 9 i 13 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (adolygiad o benderfyniadau ac apelau yn erbyn penderfyniadau).

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r person perthnasol, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r diwrnod yr ymrwymwyd i’r cytundeb setlo, yn rhoi hysbysiad i ACC fod y person yn dymuno tynnu’n ôl o’r cytundeb.

(5)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i gytundeb setlo nad yw mewn ysgrifen onid yw’r ffaith yr ymrwymwyd i’r cytundeb, a’r telerau y cytunwyd arnynt, yn cael eu cadarnhau drwy hysbysiad a ddyroddir i’r person perthnasol gan ACC.

(6)Pan ddyroddir hysbysiad yn unol ag is-adran (5), mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (2) a (4) at yr adeg yr ymrwymir i’r cytundeb setlo i’w trin fel cyfeiriadau at yr adeg y dyroddir yr hysbysiad.

(7)Ni chaiff person perthnasol ac ACC ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â phenderfyniad apeliadwy os yw apêl yn erbyn y penderfyniad wedi ei dyfarnu yn derfynol.