RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU

PENNOD 1RHAGARWEINIOL

Trosolwg

171Trosolwg o’r Rhan

1

Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o benderfyniadau penodol gan ACC, ac apelau yn eu herbyn, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

a

y penderfyniadau sy’n benderfyniadau apeliadwy,

b

yr hawl i ofyn i ACC adolygu penderfyniadau apeliadwy,

c

y ddyletswydd ar ACC i gynnal adolygiadau ar gais,

d

effaith casgliadau adolygiad,

e

yr hawl i apelio i’r tribiwnlys yn erbyn penderfyniadau apeliadwy, boed hynny yn dilyn adolygiad neu fel arall, ac

f

y ddyletswydd ar y tribiwnlys i ddyfarnu ar yr apelau hynny.

2

Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer setlo anghydfodau sy’n ymwneud â phenderfyniadau apeliadwy drwy gytundeb.

Penderfyniadau apeliadwy

172Penderfyniadau apeliadwy

1

Caiff person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo—

a

gofyn am adolygiad o’r penderfyniad (yn ddarostyngedig i is-adran (4)), a

b

apelio yn erbyn y penderfyniad,

yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Rhan hon.

2

Mae’r penderfyniadau a ganlyn gan ACC yn benderfyniadau apeliadwy—

a

penderfyniad sy’n effeithio ar ba un a yw treth ddatganoledig i’w chodi ar berson;

b

penderfyniad sy’n effeithio ar y swm o dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar berson;

c

penderfyniad sy’n effeithio ar y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu swm o dreth ddatganoledig;

d

penderfyniad ynglŷn â chosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

e

penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath.

3

Ond nid yw’r penderfyniadau a ganlyn yn benderfyniadau apeliadwy—

a

penderfyniad i ddyroddi hysbysiad ymholiad o dan adran 43 neu 74;

b

penderfyniad i ddyroddi—

i

hysbysiad trethdalwr, neu

ii

hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo;

c

penderfyniad i gynnwys gofyniad penodol mewn—

i

hysbysiad trethdalwr, neu

ii

hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo.

4

Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth, ni chaiff person ofyn am adolygiad o benderfyniad ACC i ddyroddi’r hysbysiad.

5

Pan ganiateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, caniateir gofyn amdano neu ei wneud ar y seiliau a ganlyn yn unig—

a

ei bod yn afresymol ei gwneud yn ofynnol i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad;

b

bod darpariaeth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro’r hysbysiad rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen;

c

yn achos hysbysiad adnabod a ddyroddir o dan adran 92 neu hysbysiad cyswllt dyledwr a ddyroddir o dan adran 93, nad yw amod 4 o’r adran honno wedi ei fodloni.

6

Yn achos penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath, y person y mae’r penderfyniad yn gymwys iddo at ddibenion is-adran (1) yw’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo.

7

Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—

a

addasu’r adran hon er mwyn—

i

ychwanegu penderfyniad at is-adran (2) neu (3);

ii

amrywio’r disgrifiad o benderfyniad yn y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;

iii

tynnu ymaith benderfyniad o’r naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;

b

diwygio’r Rhan hon er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch ar ba seiliau y caniateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad apeliadwy.