xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo—
(a)gofyn am adolygiad o’r penderfyniad (yn ddarostyngedig i is-adran (4)), a
(b)apelio yn erbyn y penderfyniad,
yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Rhan hon.
(2) Mae’r penderfyniadau a ganlyn gan ACC yn benderfyniadau apeliadwy—
(a)penderfyniad sy’n effeithio ar ba un a yw treth ddatganoledig i’w chodi ar berson;
(b)penderfyniad sy’n effeithio ar y swm o dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar berson;
(c)penderfyniad sy’n effeithio ar y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu swm o dreth ddatganoledig;
(d)penderfyniad ynglŷn â chosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;
(e)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath;
[F1(f)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 14 o Atodlen 16 i DTTT (adennill rhyddhad grŵp: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);
(g)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 9 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno (adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);]
[F2(h)penderfyniad sy’n ymwneud â’r dull sydd i’w ddefnyddio gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig i bennu pwysau deunydd at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]
[F3(i)penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]
[F4(j)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]
[F5(k)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi grŵp o gyrff corfforaethol at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]
[F6(l)penderfyniad sy’n ymwneud â chredyd treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi.]
[F7(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.]
(3)Ond nid yw’r penderfyniadau a ganlyn yn benderfyniadau apeliadwy—
(a)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad ymholiad o dan adran 43 neu 74;
(b)penderfyniad i ddyroddi—
(i)hysbysiad trethdalwr, neu
(ii)hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo;
(c)penderfyniad i gynnwys gofyniad penodol mewn—
(i)hysbysiad trethdalwr, neu
(ii)hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo.
(4)Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth, ni chaiff person ofyn am adolygiad o benderfyniad ACC i ddyroddi’r hysbysiad.
(5)Pan ganiateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, caniateir gofyn amdano neu ei wneud ar y seiliau a ganlyn yn unig—
(a)ei bod yn afresymol ei gwneud yn ofynnol i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad;
(b)bod darpariaeth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro’r hysbysiad rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen;
(c)yn achos hysbysiad adnabod a ddyroddir o dan adran 92 neu hysbysiad cyswllt dyledwr a ddyroddir o dan adran 93, nad yw amod 4 o’r adran honno wedi ei fodloni.
(6)Yn achos penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath, y person y mae’r penderfyniad yn gymwys iddo at ddibenion is-adran (1) yw’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—
(a)addasu’r adran hon er mwyn—
(i)ychwanegu penderfyniad at is-adran (2) neu (3);
(ii)amrywio’r disgrifiad o benderfyniad yn y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;
(iii)tynnu ymaith benderfyniad o’r naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;
(b)diwygio’r Rhan hon er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch ar ba seiliau y caniateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad apeliadwy.
Diwygiadau Testunol
F1A. 172(2)(f)(g) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 62; O.S. 2018/34, ergl. 3
F2A. 172(2)(h) wedi ei fewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 24, 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 2(d)
F3A. 172(2)(i) wedi ei fewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 38, 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 2(l)
F4A. 172(2)(j) wedi ei fewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 58, 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 2(r)
F5A. 172(2)(k) wedi ei fewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 80, 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 2(w)
F6A. 172(2)(l) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 43
F7A. 172(2A) wedi ei fewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 16; O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 172 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 172 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)