xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CADOLYGIADAU AC APELAU

PENNOD 1LL+CRHAGARWEINIOL

TrosolwgLL+C

171Trosolwg o’r RhanLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o benderfyniadau penodol gan ACC, ac apelau yn eu herbyn, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y penderfyniadau sy’n benderfyniadau apeliadwy,

(b)yr hawl i ofyn i ACC adolygu penderfyniadau apeliadwy,

(c)y ddyletswydd ar ACC i gynnal adolygiadau ar gais,

(d)effaith casgliadau adolygiad,

(e)yr hawl i apelio i’r tribiwnlys yn erbyn penderfyniadau apeliadwy, boed hynny yn dilyn adolygiad neu fel arall, ac

(f)y ddyletswydd ar y tribiwnlys i ddyfarnu ar yr apelau hynny.

(2)Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer setlo anghydfodau sy’n ymwneud â phenderfyniadau apeliadwy drwy gytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 171 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(b)

Penderfyniadau apeliadwyLL+C

172Penderfyniadau apeliadwyLL+C

(1)Caiff person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo—

(a)gofyn am adolygiad o’r penderfyniad (yn ddarostyngedig i is-adran (4)), a

(b)apelio yn erbyn y penderfyniad,

yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Rhan hon.

(2) Mae’r penderfyniadau a ganlyn gan ACC yn benderfyniadau apeliadwy—

(a)penderfyniad sy’n effeithio ar ba un a yw treth ddatganoledig i’w chodi ar berson;

(b)penderfyniad sy’n effeithio ar y swm o dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar berson;

(c)penderfyniad sy’n effeithio ar y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu swm o dreth ddatganoledig;

(d)penderfyniad ynglŷn â chosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

(e)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath.

[F1(h)penderfyniad sy’n ymwneud â’r dull sydd i’w ddefnyddio gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig i bennu pwysau deunydd at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F2(i)penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F3(j)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F4(k)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi grŵp o gyrff corfforaethol at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi.]

[F5(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.]

(3)Ond nid yw’r penderfyniadau a ganlyn yn benderfyniadau apeliadwy—

(a)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad ymholiad o dan adran 43 neu 74;

(b)penderfyniad i ddyroddi—

(i)hysbysiad trethdalwr, neu

(ii)hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo;

(c)penderfyniad i gynnwys gofyniad penodol mewn—

(i)hysbysiad trethdalwr, neu

(ii)hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo.

(4)Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth, ni chaiff person ofyn am adolygiad o benderfyniad ACC i ddyroddi’r hysbysiad.

(5)Pan ganiateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, caniateir gofyn amdano neu ei wneud ar y seiliau a ganlyn yn unig—

(a)ei bod yn afresymol ei gwneud yn ofynnol i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad;

(b)bod darpariaeth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro’r hysbysiad rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen;

(c)yn achos hysbysiad adnabod a ddyroddir o dan adran 92 neu hysbysiad cyswllt dyledwr a ddyroddir o dan adran 93, nad yw amod 4 o’r adran honno wedi ei fodloni.

(6)Yn achos penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath, y person y mae’r penderfyniad yn gymwys iddo at ddibenion is-adran (1) yw’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)addasu’r adran hon er mwyn—

(i)ychwanegu penderfyniad at is-adran (2) neu (3);

(ii)amrywio’r disgrifiad o benderfyniad yn y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;

(iii)tynnu ymaith benderfyniad o’r naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;

(b)diwygio’r Rhan hon er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch ar ba seiliau y caniateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad apeliadwy.

PENNOD 2LL+CADOLYGIADAU

173Gofyn am adolygiadLL+C

(1)Rhaid gwneud cais i adolygu penderfyniad apeliadwy drwy roi hysbysiad (“hysbysiad am gais”) i ACC.

(2)Rhaid i hysbysiad am gais nodi’r sail ar gyfer yr adolygiad.

(3)Ond ni chaiff person roi hysbysiad am gais os yw is-adran (4), (5) neu (6) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os penderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo yw’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno i ACC ei adolygu, a

(b)os nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau hyd yma.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person wedi apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad ac nad yw’r apêl wedi ei thynnu’n ôl.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r person wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno i ACC ei adolygu, a

(b)pan na fo’r person wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4).

(7)Nid yw’r adran hon yn rhwystro ymdrin â phenderfyniad apeliadwy yn unol ag adran 184.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I5A. 173 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

174Terfyn amser ar gyfer gofyn am adolygiadLL+C

(1)Pan roddir hysbysiad am gais i ACC cyn diwedd y cyfnod perthnasol, rhaid i ACC adolygu’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), y cyfnod perthnasol yw—

(a)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad cau sy’n hysbysu’r person fod yr ymholiad wedi ei gwblhau;

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad o unrhyw fath arall, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad sy’n hysbysu’r person am y penderfyniad.

(3)Pan fo’r person—

(a)wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn cysylltiad â’r penderfyniad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, ond

(b)wedi rhoi hysbysiad wedi hynny ei fod yn tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4),

y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad tynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I7A. 174 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

175Cais hwyr am adolygiadLL+C

(1)Pan fo person yn rhoi hysbysiad am gais i ACC ar ôl y cyfnod perthnasol—

(a)caiff ACC adolygu’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a

(b)rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—

(i)bod gan y person esgus rhesymol dros beidio â’i roi yn ystod y cyfnod perthnasol, a

(ii)ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol.

(2)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person yn datgan a fydd yn adolygu’r penderfyniad ai peidio.

(3)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn datgan na fydd yn adolygu’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gynnal yr adolygiad.

(4)Caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd o’r fath, a rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—

(a)bod gan y ceisydd esgus rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad am y cais i ACC yn ystod y cyfnod perthnasol,

(b)ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol, ac yna

(c)ei fod wedi gwneud cais i’r tribiwnlys heb oedi afresymol.

(5)Yn yr adran hon, mae i “y cyfnod perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 174.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I9A. 175 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

176Cynnal adolygiadLL+C

(1)Mae natur a chwmpas yr adolygiad i fod fel ag y maent yn ymddangos yn briodol i ACC o dan yr amgylchiadau.

(2)At ddiben is-adran (1), rhaid i ACC, yn benodol, roi sylw i gamau a gymerwyd cyn dechrau’r adolygiad—

(a)gan ACC wrth ddod i’r penderfyniad, a

(b)gan unrhyw berson wrth geisio datrys anghytundeb ynghylch y penderfyniad.

(3)Rhaid i’r adolygiad ystyried unrhyw sylwadau a wneir neu a wnaed gan y person a roddodd yr hysbysiad am gais ar adeg sy’n rhoi cyfle rhesymol i ACC eu hystyried.

(4)Caiff yr adolygiad ddod i’r casgliad bod penderfyniad ACC—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w amrywio, neu

(c)i’w ganslo.

(5)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad i’r person a roddodd yr hysbysiad am gais—

(a)o fewn y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y derbyniodd ACC yr hysbysiad am gais, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod arall y bydd ACC a’r person yn cytuno arno.

(6)Pan fo’r tribiwnlys yn cyfarwyddo ACC i gynnal adolygiad, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad—

(a)o fewn y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys y cyfarwyddyd, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod arall y bydd ACC a’r person yn cytuno arno.

(7)Os yw ACC yn methu â dyroddi hysbysiad yn unol ag is-adran (5) neu (6)—

(a)bernir bod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad bod penderfyniad ACC i’w gadarnhau, a

(b)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r person a roddodd yr hysbysiad am gais.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 176 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I11A. 176 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

177Effaith casgliadau adolygiadLL+C

(1)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 176(5), (6) neu (7) mewn perthynas ag adolygiad—

(a)mae’r casgliadau yn yr hysbysiad i’w trin fel pe bai’r tribiwnlys wedi dyfarnu apêl yn erbyn y penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn y modd a nodir yn y casgliadau, ond

(b)nid yw’r casgliadau i’w trin fel penderfyniad gan y tribiwnlys at ddibenion adrannau 9 i 13 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (adolygu penderfyniadau ac apelau yn erbyn penderfyniadau).

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r canlynol yn berthnasol, neu i’r graddau y mae’r canlynol yn berthnasol—

(a)bod ACC a’r person yn ymrwymo wedi hynny i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)bod y tribiwnlys yn dyfarnu wedi hynny ar apêl yn erbyn y penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I13A. 177 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

PENNOD 3LL+CAPELAU

178Gwneud apêlLL+C

(1)Rhaid gwneud apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy i’r tribiwnlys.

(2)Ond ni chaiff person wneud apêl i’r tribiwnlys os yw is-adran (3), (4) neu (5) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os penderfyniad ACC i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo yw’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a

(b)os nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau hyd yma.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r person wedi rhoi hysbysiad am gais i ACC o dan adran 173 am adolygiad o’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a

(b)pan nad yw’r cyfnod y mae’n rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad oddi fewn iddo o dan adran 176(5) wedi dod i ben hyd yma.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r person wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a

(b)pan na fo’r person wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4).

(6)Nid yw’r adran hon yn rhwystro ymdrin â phenderfyniad apeliadwy yn unol ag adran 184.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I15A. 178 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

179Terfyn amser ar gyfer gwneud apêlLL+C

(1)Rhaid i apêl gael ei gwneud i’r tribiwnlys cyn diwedd y cyfnod perthnasol.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), y cyfnod perthnasol yw—

(a)pan fo’r apêl yn ymwneud â phenderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth yr apelai o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad cau sy’n hysbysu’r apelai fod yr ymholiad wedi ei gwblhau;

(b)pan fo’r apêl yn ymwneud â phenderfyniad o unrhyw fath arall, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad sy’n hysbysu’r apelai am y penderfyniad.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), pan fo ACC wedi adolygu’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef, y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r apelai o dan adran 176(5), (6) neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad.

(4)Pan fo’r apelai wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ond ei fod wedi rhoi hysbysiad wedi hynny ei fod yn tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4), y cyfnod perthnasol yw—

(a)y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad tynnu’n ôl, neu

(b)os yw’n hwyrach, y cyfnod perthnasol sy’n gymwys o dan is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I17A. 179 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

180Gwneud apêl yn hwyrLL+C

(1)Caniateir gwneud apêl i’r tribiwnlys ar ôl y cyfnod perthnasol os yw’r tribiwnlys yn rhoi caniatâd.

(2)Yn yr adran hon, mae i “y cyfnod perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 179.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I19A. 180 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

181Dyfarnu ar apêlLL+C

(1)Os gwneir apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy i’r tribiwnlys yn unol ag adran 179 neu 180 (ac nad yw’n cael ei thynnu’n ôl), rhaid i’r tribiwnlys ddyfarnu’r apêl.

(2)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu bod y penderfyniad apeliadwy—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w amrywio, neu

(c)i’w ganslo.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I21A. 181 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

PENNOD 4LL+CAMRYWIOL AC ATODOL

Canlyniadau adolygiadau ac apelauLL+C

182Talu cosbau yn achos adolygiad neu apêlLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i benderfyniad sy’n ymwneud â chosb y gallai person fod yn agored iddi.

(2)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad mewn cysylltiad â’r penderfyniad, nid yw adran 154 yn gymwys i unrhyw swm o gosb y mae anghydfod yn ei gylch (“swm y mae anghydfod yn ei gylch”).

(3)Pan fo’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person o dan adran 176(5) [F6, (6)] neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)Pan fo’r person yn gwneud apêl mewn cysylltiad â’r penderfyniad—

(a)nid yw adran 154 yn gymwys i unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, a

(b)nid yw is-adran (3) yn gymwys.

(5)Pan fo’r apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r person dalu—

(a)unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, os nad yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, neu

(b)os yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch y daeth yr adolygiad i’r casgliad ei fod yn daladwy,

cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod tynnu’n ôl.

(6)Pan ddyfernir yn derfynol, o ganlyniad i’r apêl, fod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I23A. 182 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

183Penderfynu ar adolygiadau ac apelau mewn cysylltiad â hysbysiadau gwybodaethLL+C

(1)Pan fo casgliadau adolygiad o dan adran 176 yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu ofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd) o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.

(2)Pan fo’r tribiwnlys yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd)—

(a)o fewn y cyfnod a bennir gan y tribiwnlys, neu

(b)os nad yw’r tribiwnlys yn pennu cyfnod, o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 183 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I25A. 183 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

Cytundebau setloLL+C

184Setlo anghydfodau drwy gytundebLL+C

(1)Ystyr “cytundeb setlo” yw cytundeb rhwng person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo (“person perthnasol”) ac ACC fod y penderfyniad—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w amrywio, neu

(c)i’w ganslo.

(2)Pan fo person perthnasol ac ACC yn ymrwymo i gytundeb setlo, mae’r canlyniadau i fod yr un fath â phe bai’r tribiwnlys, ar yr adeg yr ymrwymwyd i’r cytundeb, wedi dyfarnu ar apêl yn erbyn y penderfyniad apeliadwy yn y modd a nodir yn y cytundeb.

(3)Ond nid yw cytundeb setlo i’w drin fel un o benderfyniadau’r tribiwnlys at ddibenion adrannau 9 i 13 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (adolygiad o benderfyniadau ac apelau yn erbyn penderfyniadau).

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r person perthnasol, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r diwrnod yr ymrwymwyd i’r cytundeb setlo, yn rhoi hysbysiad i ACC fod y person yn dymuno tynnu’n ôl o’r cytundeb.

(5)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i gytundeb setlo nad yw mewn ysgrifen onid yw’r ffaith yr ymrwymwyd i’r cytundeb, a’r telerau y cytunwyd arnynt, yn cael eu cadarnhau drwy hysbysiad a ddyroddir i’r person perthnasol gan ACC.

(6)Pan ddyroddir hysbysiad yn unol ag is-adran (5), mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (2) a (4) at yr adeg yr ymrwymir i’r cytundeb setlo i’w trin fel cyfeiriadau at yr adeg y dyroddir yr hysbysiad.

(7)Ni chaiff person perthnasol ac ACC ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â phenderfyniad apeliadwy os yw apêl yn erbyn y penderfyniad wedi ei dyfarnu yn derfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 184 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I27A. 184 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)