RHAN 7TALU A GORFODI
Talu
I1164Ystyr “swm perthnasol”
Yn y Rhan hon, ystyr “swm perthnasol” yw—
a
treth ddatganoledig;
b
llog ar dreth ddatganoledig;
c
cosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;
d
llog ar gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig.
I2165Symiau perthnasol yn daladwy i ACC
Mae unrhyw swm perthnasol sy’n dod yn daladwy (boed o dan ddeddfiad neu o dan setliad contract) yn daladwy i ACC.
I3166Derbynebau am daliad
Pan delir swm perthnasol i ACC, rhaid i ACC roi derbynneb os gofynnir iddo wneud hynny.
I4I5167Ffioedd talu
1
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod rhaid i berson sy’n talu swm perthnasol i ACC gan ddefnyddio dull talu a ragnodir gan y rheoliadau, hefyd dalu ffi a ragnodir gan y rheoliadau neu a bennir yn unol â hwy.
2
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y mae’n rhaid talu’r ffi.