xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CTALU A GORFODI

TaluLL+C

164Ystyr “swm perthnasol”LL+C

Yn y Rhan hon, ystyr “swm perthnasol” yw—

(a)treth ddatganoledig;

(b)llog ar dreth ddatganoledig;

(c)cosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

(d)llog ar gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig.

Valid from 25/01/2018

165Symiau perthnasol yn daladwy i ACCLL+C

Mae unrhyw swm perthnasol sy’n dod yn daladwy (boed o dan ddeddfiad neu o dan setliad contract) yn daladwy i ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

Valid from 25/01/2018

166Derbynebau am daliadLL+C

Pan delir swm perthnasol i ACC, rhaid i ACC roi derbynneb os gofynnir iddo wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

167Ffioedd taluLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod rhaid i berson sy’n talu swm perthnasol i ACC gan ddefnyddio dull talu a ragnodir gan y rheoliadau, hefyd dalu ffi a ragnodir gan y rheoliadau neu a bennir yn unol â hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y mae’n rhaid talu’r ffi.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I5A. 167 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Valid from 25/01/2018

Ardystio dyledLL+C

168Tystysgrifau dyledLL+C

(1)Mae tystysgrif gan ACC nad yw swm perthnasol wedi ei dalu i ACC yn dystiolaeth ddigonol nad yw’r swm wedi ei dalu oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(2)Mae dogfen yr honnir ei bod yn dystysgrif o’r fath i’w thrin fel pe bai’n dystysgrif o’r fath oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

AdennillLL+C

169Achos yn llys yr ynadonLL+C

(1)Pan fo swm perthnasol yn daladwy gan berson ac nad yw’n fwy na £2,000, mae i’w adennill fel dyled sifil drwy broses ynadol.

(2)Caniateir cynnwys pob un neu unrhyw un neu ragor o’r symiau sydd i’w hadennill o dan yr adran hon sy’n daladwy gan unrhyw un person o fewn yr un gŵyn, wŷs, neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gosod gerbron ynad heddwch neu ei dyroddi ganddo.

(3)Mae pob dogfen o’r fath i’w thrin, mewn cysylltiad â phob swm, fel dogfen ar wahân ac nid yw ei hannilysrwydd mewn cysylltiad ag un swm yn effeithio ar ei dilysrwydd mewn cysylltiad ag unrhyw swm arall.

(4)O ran swm perthnasol sy’n dreth ddatganoledig neu’n gosb, caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig neu’r gosb arno neu’n gynharach.

(5)O ran swm perthnasol sy’n llog ar dreth ddatganoledig neu ar gosb, caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig neu’r gosb arno neu’n gynharach.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu’r swm a bennir yn is-adran (1) drwy reoliadau.

Valid from 25/01/2018

170Gorfodi drwy atafaelu nwyddauLL+C

(1)Os nad yw person yn talu swm perthnasol i ACC sy’n daladwy gan y person, caiff ACC ddilyn y weithdrefn yn Atodlen 12 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (atafaelu nwyddau) er mwyn adennill y swm hwnnw.

(2)Yn adran 63(3) o’r Ddeddf honno (asiantau gorfodi), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)a person authorised to use the procedure in Schedule 12 by the Welsh Revenue Authority (or by a person to whom the Welsh Revenue Authority has delegated the function of authorising the use of the procedure);.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)