xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CLLOG

PENNOD 1LL+CLLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY I ACC

F1...LL+C

Diwygiadau Testunol

F1A. 157 croes-bennawd wedi ei hepgor (25.1.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 57; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(ii)

[F2157Llog taliadau hwyr ar drethi datganoledigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o dreth ddatganoledig—

(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth fel—

(i)y dreth sydd i’w chodi, neu

(ii)os yw’r ffurflen dreth yn ffurflen dreth bellach a wneir gan y prynwr mewn trafodiad tir, y dreth trafodiadau tir (neu’r dreth trafodiadau tir ychwanegol) sy’n daladwy;

(b)sy’n daladwy—

(i)o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen dreth o dan adran 41, 45 neu 50;

(ii)o ganlyniad i gywiriad i ffurflen dreth o dan adran 42;

(iii)yn unol ag asesiad a wnaed yn ychwanegol at ffurflen dreth o dan adran 54 neu 55, neu

(c)sy’n daladwy yn unol ag—

(i)dyfarniad o dan adran 52, neu

(ii)asesiad o dan adran 54 neu 55,

a wnaed yn lle ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd.

[F3(1A)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i swm o dreth gwarediadau tirlenwi a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o DTGT.]

(2)Os na chaiff y swm ei dalu cyn dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—

(a)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(a) neu (b), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;

(b)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(c), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd;

[F4(c)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1A), y dyddiad sy’n union ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn adran 51 o DTGT.]

(4)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.]

[F2157ALlog taliadau hwyr ar gosbauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o gosb [F5sy’n ymwneud â threth ddatganoledig].

(2)Os na thelir y swm ar y dyddiad y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod canlynol, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.]

[F6157B.Llog taliadau hwyr ar symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd trethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.

(2)Os na thelir y swm ar y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—

(a)os hawliwyd y credyd treth o dan sylw mewn ffurflen dreth, y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;

(b)os hawliwyd y credyd treth o dan sylw drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd swm sy’n hafal â’r swm i berson mewn cysylltiad â’r hawliad.

(4)Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

(5)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr at ddibenion yr adran hon yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.]

[F2158Llog taliadau hwyr: atodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 157 [F7, 157A a 157B].

(2)Nid yw llog taliadau hwyr yn daladwy ar log taliadau hwyr.

(3)Caiff dyddiad dechrau llog taliadau hwyr fod yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn ystyr adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).

(4)Mae’r dyddiad talu, mewn perthynas â swm, yn cynnwys y dyddiad y caiff y swm ei osod yn erbyn swm sy’n daladwy gan ACC.

(5)Mae i “cyfradd llog taliadau hwyr” yr ystyr a roddir gan adran 163(1).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 158 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

I4A. 158 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

F8...LL+C

Diwygiadau Testunol

F8A. 159 ac croes-bennawd wedi ei hepgor (25.1.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 59; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(ii)

F8159Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr: diwygiadau i asesiadau etc.LL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

160Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr: marwolaeth trethdalwrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw [F9person—

(i)y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

(ii)y mae’n ofynnol iddo dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,]

yn marw cyn y daw’r swm yn daladwy, a

(b)os nad yw’r ysgutor neu’r gweinyddwr yn gallu talu’r swm cyn cael profiant neu lythyrau gweinyddu neu ddogfen arall ag iddi effaith gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth heblaw Cymru a Lloegr mewn perthynas ag ystad yr ymadawedig.

(2)Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm hwnnw yw’r hwyraf o’r canlynol⁠—

(a)y dyddiad a fyddai wedi bod yn ddyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr oni bai am yr adran hon, a

(b)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â grant profiant neu lythyrau gweinyddu neu ddogfen arall ag iddi effaith gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth heblaw Cymru a Lloegr mewn perthynas ag ystad yr ymadawedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 160 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(g)