RHAN 5LL+CCOSBAU

PENNOD 4LL+CCOSBAU SY’N YMWNEUD Â CHADW COFNODION A THREFNIADAU TALU’N ÔL

Cosb am fethu â chadw cofnodion mewn cysylltiad â ffurflenni neu hawliadau treth a’u storio’n ddiogelLL+C

143Cosb am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 [F1, 38A] neu 69 yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.

(2)Ond nid oes unrhyw gosb i’w thalu os yw ACC yn fodlon bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 143 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

144Esgus rhesymol am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Os yw person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 [F2, 38A] neu 69 yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant, nid oes unrhyw rwymedigaeth i gosb o dan adran 143 mewn perthynas â’r methiant.

(2)At ddibenion is-adran (1)—

(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

(c)os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 144 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

145Asesu cosbau o dan adran 143LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 143, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.

(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 143 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person wedi methu â chydymffurfio ag adran 38 [F3, 38A] neu 69.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 145 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3