xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn y Bennod hon, mae i “refeniw posibl a gollir” yr ystyr a roddir gan adrannau 135 i 138.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 134 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—
(a)anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu
(b)methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,
yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig [F1neu gredyd treth] o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.
(2)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F2...
(b)swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, [F3ac
(c)swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 135(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 32(2)
F2Gair yn a. 135(2) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 32(3)(a)
F3A. 135(2)(c) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 32(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 135 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb, a bod y cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 135 mewn cysylltiad â phob anghywirdeb yn dibynnu ar y drefn y cânt eu cywiro, dylid cymryd bod anghywirdebau diofal yn cael eu cywiro cyn anghywirdebau bwriadol.
(2)Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad ag un neu ragor o danddatganiadau mewn un neu ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â chyfnod treth [F4, trafodiad neu hawliad am gredyd treth], rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiadau mewn unrhyw ddogfen a roddwyd gan y person sy’n ymwneud â’r un cyfnod treth [F5, trafodiad neu hawliad am gredyd treth].
(3)Yn is-adran (2)—
(a)ystyr “tanddatganiad” yw anghywirdeb sy’n bodloni amod 1 yn adran 129, a
(b)ystyr “gorddatganiad” yw anghywirdeb nad yw’n bodloni’r amod hwnnw.
(4)At ddibenion is-adran (2), mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn a ganlyn—
(a)tanddatganiadau nad yw’r person yn agored i gosb mewn cysylltiad â hwy,
(b)tanddatganiadau diofal, ac
(c)tanddatganiadau bwriadol.
(5)Wrth gyfrifo, at ddibenion cosb o dan adran 129, refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddwyd gan berson neu ar ran person, ni ddylid ystyried y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan berson i’w wrthbwyso, neu y caniateir ei wrthbwyso, gan ordaliad posibl gan berson arall (ac eithrio i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol bod rhwymedigaeth person i dreth ddatganoledig yn cael ei haddasu drwy gyfeirio at rwymedigaeth person arall i dreth ddatganoledig).
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn a. 136(2) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 33(a)
F5Geiriau yn a. 136(2) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 33(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 136 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig a bod y golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, cyfrifir y refeniw posibl a gollir yn unol ag adran 135.
(2)Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig ac nad yw’r golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, y refeniw posibl a gollir yw—
(a)y refeniw posibl a gollir wedi ei gyfrifo yn unol ag adran 135 mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r golled a ddefnyddiwyd i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, ynghyd â
(b)10% o unrhyw ran nas defnyddiwyd.
(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r canlynol fel ei gilydd—
(a)achos pan na fyddai unrhyw golled wedi ei chofnodi oni bai am yr anghywirdeb, a
(b)achos pan fyddai swm gwahanol o golled wedi ei gofnodi (ond yn yr achos hwnnw nid yw is-adrannau (1) a (2) ond yn gymwys i’r gwahaniaeth rhwng y swm a gofnodwyd a’r gwir swm).
(4)Mae’r refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â cholled yn ddim pan na fo unrhyw obaith rhesymol, oherwydd natur y golled neu amgylchiadau’r person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno, y defnyddir y golled i gefnogi hawliad i ostwng rhwymedigaeth unrhyw berson i’r dreth honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I8A. 137 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan fo anghywirdeb wedi arwain at ddatgan swm o dreth ddatganoledig yn hwyrach nag y dylid (“y dreth oediedig”), y refeniw posibl a gollir yw—
(a)5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi;
(b)canran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.
(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys i achos y mae adran 137 yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I10A. 138 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3