RHAN 5COSBAU
PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU
Refeniw posibl a gollir
I1I6134Ystyr “refeniw posibl a gollir”
Yn y Bennod hon, mae i “refeniw posibl a gollir” yr ystyr a roddir gan adrannau 135 i 138.
I2I9135Refeniw posibl a gollir: y rheol arferol
1
Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—
a
anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu
b
methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,
yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig F1neu gredyd treth o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.
2
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—
a
swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F3...
b
swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, F2ac
c
swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.
I3I8136Refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosog
1
Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb, a bod y cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 135 mewn cysylltiad â phob anghywirdeb yn dibynnu ar y drefn y cânt eu cywiro, dylid cymryd bod anghywirdebau diofal yn cael eu cywiro cyn anghywirdebau bwriadol.
2
Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad ag un neu ragor o danddatganiadau mewn un neu ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â chyfnod treth F4, trafodiad neu hawliad am gredyd treth, rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiadau mewn unrhyw ddogfen a roddwyd gan y person sy’n ymwneud â’r un cyfnod treth F5, trafodiad neu hawliad am gredyd treth.
3
Yn is-adran (2)—
a
ystyr “tanddatganiad” yw anghywirdeb sy’n bodloni amod 1 yn adran 129, a
b
ystyr “gorddatganiad” yw anghywirdeb nad yw’n bodloni’r amod hwnnw.
4
At ddibenion is-adran (2), mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn a ganlyn—
a
tanddatganiadau nad yw’r person yn agored i gosb mewn cysylltiad â hwy,
b
tanddatganiadau diofal, ac
c
tanddatganiadau bwriadol.
5
Wrth gyfrifo, at ddibenion cosb o dan adran 129, refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddwyd gan berson neu ar ran person, ni ddylid ystyried y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan berson i’w wrthbwyso, neu y caniateir ei wrthbwyso, gan ordaliad posibl gan berson arall (ac eithrio i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol bod rhwymedigaeth person i dreth ddatganoledig yn cael ei haddasu drwy gyfeirio at rwymedigaeth person arall i dreth ddatganoledig).
I4I7137Refeniw posibl a gollir: colledion
1
Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig a bod y golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, cyfrifir y refeniw posibl a gollir yn unol ag adran 135.
2
Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig ac nad yw’r golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, y refeniw posibl a gollir yw—
a
y refeniw posibl a gollir wedi ei gyfrifo yn unol ag adran 135 mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r golled a ddefnyddiwyd i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, ynghyd â
b
10% o unrhyw ran nas defnyddiwyd.
3
Mae is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r canlynol fel ei gilydd—
a
achos pan na fyddai unrhyw golled wedi ei chofnodi oni bai am yr anghywirdeb, a
b
achos pan fyddai swm gwahanol o golled wedi ei gofnodi (ond yn yr achos hwnnw nid yw is-adrannau (1) a (2) ond yn gymwys i’r gwahaniaeth rhwng y swm a gofnodwyd a’r gwir swm).
4
Mae’r refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â cholled yn ddim pan na fo unrhyw obaith rhesymol, oherwydd natur y golled neu amgylchiadau’r person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno, y defnyddir y golled i gefnogi hawliad i ostwng rhwymedigaeth unrhyw berson i’r dreth honno.
I5I10138Refeniw posibl a gollir: treth oediedig
1
Pan fo anghywirdeb wedi arwain at ddatgan swm o dreth ddatganoledig yn hwyrach nag y dylid (“y dreth oediedig”), y refeniw posibl a gollir yw—
a
5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi;
b
canran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.
2
Nid yw’r adran hon yn gymwys i achos y mae adran 137 yn gymwys iddo.