xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CCOSBAU

PENNOD 2LL+CCOSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH [F1NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH]

Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen drethLL+C

118Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynnyLL+C

[F2(1)] Mae person [F3y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb o £100 os yw’r person yn methu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny.

[F4(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 118 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F5118ACosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwiLL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—

(a)yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond

(b)y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).]

119Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 6 mis wedi’r dyddiad ffeilioLL+C

(1)Mae person [F6y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.

(2)Y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a

(b)£300.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 119 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

120Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis wedi’r dyddiad ffeilioLL+C

(1)Mae person [F7y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.

(2)Pan fo’r person, drwy fethu â dychwelyd y ffurflen dreth, yn atal yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo ACC i asesu rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, y gosb [F8yw—

(a) £300, neu

(b) swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.]

(3)Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn is-adran (2), y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol⁠—

(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a

(b)£300.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 120 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

121Gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgeluLL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, [F9118A,] 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).

(2)Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—

(a)dweud wrth ACC amdani,

(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac

(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.

(3)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—

(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a

(b)ansawdd y datgeliad.

(4)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—

(a)yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a

(b)fel arall, “wedi ei gymell”.

(5)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 121 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Cosb am fethu â thalu trethLL+C

[F10122[F10Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd]LL+C

(1)Mae person yn agored i gosb os yw’r person wedi methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.

[F11(2)Y gosb—

(a)mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;

(b)mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.]

[F12(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).]

(3)Yn yr adran hon ac yn [F13adrannau 122ZA a 122A], y dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o dreth ddatganoledig a bennir yng ngholofn 3 o Dabl A1 yw’r dyddiad a bennir yng ngholofn 4.

TABL A1
EitemY dreth ddatganoledigSwm y drethY dyddiad cosbi
1Treth trafodiadau tirSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai bod y swm o fewn eitem 8 neu 9).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
2Treth gwarediadau tirlenwiSwm [F14sy’n daladwy o ganlyniad i] ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
3Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
4Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai bod y swm o fewn eitem 7).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
5Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
6Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
7Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais drethiannol (gweler Rhan 3A) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi ei dychwelyd mewn gwirionedd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
8Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig.
9Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir o fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir.
10Treth gwarediadau tirlenwiSwm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 48 neu 49 o DTGT.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm.
11Unrhyw dreth ddatganoledigSwm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r cyfnod gohirio yn dod i ben (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio).

(4)Yn yr adran hon, mae i “swm gohiriedig” yr un ystyr ag yn adran 58(6)(a) DTTT.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru addasu Tabl A1 drwy reoliadau.]

[F15122ZACosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn prydLL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—

(a)swm B, a

(b)sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).]

[F10122ACosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 [F16neu 122ZA] mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.

(2)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.

(3)Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

(4)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.

(5)Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.]

F17123Gohirio cosb am fethu â thalu treth pan fo cytundeb cyfredol i ohirio taliadLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F18Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd trethLL+C

Diwygiadau Testunol

123A.Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth mewn prydLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.

(2)Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.

(3)Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

(4)Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.]

Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinolLL+C

F19124Cydarwaith cosbauLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2LL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

(2)Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—

(a)y gallu i dalu, na

(b)y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

[F20(2A)Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.]

(3)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)dileu cosb yn llwyr,

(b)gohirio cosb, ac

(c)cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.

(4)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I12A. 125 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

126Esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth [F21neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth] LL+C

(1)Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adrannau 118 i 120 mewn perthynas â’r methiant.

(2)Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â thalu treth ddatganoledig, nid yw’r person yn agored i gosb o dan [F22adrannau 122 i 122A] mewn perthynas â’r methiant.

[F23(2A)Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.]

(3)At ddibenion is-adrannau (1) [F24, (2) a (2A)]

(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

(c)os oedd gan berson esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

127Asesu cosbau o dan Bennod 2LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb,

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac

(c)datgan yn yr hysbysiad y cyfnod [F25, y trafodiad neu’r swm] yr aseswyd y gosb mewn perthynas ag ef.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad ar gyfer treth ddatganoledig.

(3)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth.

(4)Os yw—

(a)asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 yn seiliedig ar swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth, a

(b)ACC yn darganfod bod y rhwymedigaeth honno yn ormodol,

caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

(5)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 [F26, 122ZA] [F27neu 122A] os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig a oedd yn daladwy.

(6)Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 [F28, 122ZA] [F29neu 122A] yn seiliedig ar swm o dreth sy’n daladwy y mae ACC yn darganfod ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

[F30(6A)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.

(6B)Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.]

(7)O ran diwygiad a wneir o dan is-adran (4) [F31, (6) neu (6B)]

(a)nid yw’n effeithio ar ba bryd y mae’n rhaid talu’r gosb, a

(b)caniateir ei wneud ar ôl y diwrnod olaf y gellid bod wedi gwneud yr asesiad o dan sylw o dan adran 128.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I16A. 127 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2LL+C

(1)Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon F32... ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.

(2)Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—

(a)yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, F33...

(b)yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi [F34, neu

(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.]

(3)Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—

(i)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu

(ii)os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;

(b)yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—

(i)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu

(ii)os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.

[F35(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.]

(4)Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran [F36122(3)].

[F37(4A)Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).]

(5)Yn is-adran (3) F38..., ystyr “cyfnod apelio” [F39yw]

(a)os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

(b)os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I18A. 128 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3