xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CPWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 1LL+CRHAGARWEINIOL

TrosolwgLL+C

82Trosolwg o’r RhanLL+C

Mae’r Rhan hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Pennod 2 yn nodi pwerau ymchwilio ACC mewn perthynas â gwybodaeth a dogfennau,

(b)mae Pennod 3 yn nodi cyfyngiadau ar y pwerau sydd ym Mhennod 2,

(c)mae Pennod 4 yn nodi pwerau ymchwilio ACC mewn perthynas â mangreoedd ac eiddo arall,

(d)mae Pennod 5 yn nodi pwerau ymchwilio pellach,

(e)mae Pennod 6 yn nodi troseddau mewn perthynas â hysbysiadau gwybodaeth, ac

(f)mae Pennod 7 yn ymwneud ag adolygiadau ac apelau yn erbyn cymeradwyaeth benodol gan y tribiwnlys i hysbysiadau gwybodaeth ac archwiliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 82 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(b)

DehongliLL+C

83Hysbysiadau gwybodaethLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “hysbysiad gwybodaeth” yw—

(a)hysbysiad trethdalwr o dan adran 86,

(b)hysbysiad trydydd parti o dan adran 87,

(c)hysbysiad trydydd parti anhysbys o dan adran 89,

(d)hysbysiad adnabod o dan adran 92, neu

(e)hysbysiad cyswllt dyledwr o dan adran 93.

(2)Caiff hysbysiad gwybodaeth naill ai bennu neu ddisgrifio’r wybodaeth neu’r dogfennau sydd i’w darparu neu eu cyflwyno.

(3)Os dyroddir hysbysiad gwybodaeth gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I3A. 83 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

84Ystyr “sefyllfa dreth”LL+C

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “sefyllfa dreth”, mewn perthynas â pherson, yw sefyllfa’r person o ran unrhyw dreth ddatganoledig, gan gynnwys sefyllfa’r person o ran—

(a)rhwymedigaeth yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, i dalu unrhyw dreth ddatganoledig,

(b)cosbau [F1credydau treth], llog (gan gynnwys llog ar gosbau [F2a symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth]) a symiau eraill a dalwyd, neu sy’n daladwy neu a all fod yn daladwy, gan y person neu i’r person mewn cysylltiad ag unrhyw dreth ddatganoledig, ac

(c)hawliadau neu hysbysiadau a wnaed neu a roddwyd, neu y gellir eu gwneud neu eu rhoi, mewn cysylltiad â rhwymedigaeth y person i dalu unrhyw dreth ddatganoledig [F3neu unrhyw swm mewn cysylltiad â chredyd treth],

ac mae cyfeiriadau at sefyllfa person o ran treth ddatganoledig benodol (sut bynnag y’u mynegir) i’w dehongli yn unol â hynny.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at sefyllfa dreth—

(a)unigolyn sydd wedi marw, a

(b)corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig sydd wedi peidio â bod.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cyfeirio at sefyllfa dreth y person unrhyw bryd neu o ran unrhyw gyfnod, oni nodir i’r gwrthwyneb.

(4)Mae cyfeiriadau at wirio sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at gynnal ymchwiliad neu at wneud ymholiad o unrhyw fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I5A. 84 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

[F484A.Ystyr “niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig”LL+C

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn cynnwys niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu unrhyw swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.]

85Ystyr “rhedeg busnes”LL+C

(1)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at redeg busnes yn cynnwys—

(a)cyflawni unrhyw weithgaredd at ddibenion creu incwm o dir (ble bynnag y’i lleolir),

(b)dilyn proffesiwn,

(c)gweithgareddau elusen, a

(d)gweithgareddau awdurdod lleol neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—

(a)cyflawni gweithgaredd penodedig, neu

(b)cyflawni unrhyw weithgaredd, neu weithgaredd penodedig, gan berson penodedig,

i’w drin fel pe bai’n gyfystyr â rhedeg busnes, neu nad yw i’w drin felly, at ddibenion y Rhan hon.

(3)Yn y Ddeddf hon, mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan [F5baragraff 2A o Atodlen 18 i DTTT].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I7A. 85 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 2LL+CPWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL

86Hysbysiadau trethdalwrLL+C

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trethdalwr”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y trethdalwr”) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

(a)os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr,

(b)os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, ac

(c)os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen.

(2)Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad trethdalwr heb gymeradwyaeth y tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I9A. 86 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

87Hysbysiadau trydydd partiLL+C

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trydydd parti”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

(a)os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth person arall (“y trethdalwr”) y gŵyr ACC pwy ydyw,

(b)os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, ac

(c)os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen.

(2)Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad trydydd parti heb—

(a)cytundeb y trethdalwr, neu

(b)cymeradwyaeth y tribiwnlys.

(3)O ran y trethdalwr y mae hysbysiad trydydd parti yn ymwneud ag ef—

(a)rhaid iddo gael ei enwi yn yr hysbysiad, a

(b)rhaid i ACC ddyroddi copi o’r hysbysiad iddo.

(4)Ond pan fo’n cymeradwyo hysbysiad trydydd parti, caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso un o ofynion is-adran (3), neu’r ddau ohonynt, os yw’n fodlon bod gan ACC sail dros gredu y gallai enwi’r trethdalwr neu, yn ôl y digwydd, ddyroddi copi o’r hysbysiad i’r trethdalwr, niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I11A. 87 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

88Cymeradwyaeth y tribiwnlys i hysbysiadau trethdalwr a hysbysiadau trydydd partiLL+C

(1)Caiff ACC wneud cais i’r tribiwnlys am gymeradwyaeth i ddyroddi hysbysiad trethdalwr neu hysbysiad trydydd parti i berson (“y derbynnydd”) heb i hysbysiad am y cais gael ei anfon at y derbynnydd.

(2)Os nad anfonir hysbysiad am y cais am gymeradwyaeth at y derbynnydd, ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trethdalwr neu’r hysbysiad trydydd parti oni fo’n fodlon—

(a)bod—

(i)yn achos hysbysiad trethdalwr, gofynion adran 86(1), neu

(ii)yn achos hysbysiad trydydd parti, gofynion adran 87(1),

wedi eu bodloni, a

(b)y gallai anfon hysbysiad am y cais am gymeradwyaeth at y derbynnydd fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

(3)Os hysbyswyd y derbynnydd am y cais am gymeradwyaeth, ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trethdalwr neu’r hysbysiad trydydd parti oni fo’r amodau canlynol wedi eu bodloni—

(a)bod y tribiwnlys yn fodlon bod—

(i)yn achos hysbysiad trethdalwr, gofynion adran 86(1), neu

(ii)yn achos hysbysiad trydydd parti, gofynion adran 87(1),

wedi eu bodloni,

(b)bod y derbynnydd wedi cael gwybod bod yr wybodaeth neu’r dogfennau y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad trethdalwr neu’r hysbysiad trydydd parti yn ofynnol ac wedi cael cyfle rhesymol i wneud sylwadau i ACC,

(c)bod crynodeb o unrhyw sylwadau a wnaed wedi eu darparu i’r tribiwnlys, a

(d)yn achos hysbysiad trydydd parti, bod crynodeb o’r rhesymau pam fod yr wybodaeth neu’r dogfennau yn ofynnol gan ACC wedi ei ddarparu i’r trethdalwr.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso gofynion paragraff (b) neu (d) o is-adran (3) i’r graddau y mae’n fodlon y gallai cymryd y camau a bennir yn y paragraff niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

(5)Wrth gymeradwyo dyroddi hysbysiad trethdalwr neu hysbysiad trydydd parti, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad ag y bo’n briodol yn ei farn.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I13A. 88 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

89Pŵer i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol am bersonau na wyddys pwy ydyntLL+C

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trydydd parti anhysbys”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y derbynnydd”) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

(a)os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth⁠—

(i)person na ŵyr ACC pwy ydyw, neu

(ii)dosbarth o bersonau na ŵyr ACC pwy ydynt fel unigolion,

(b)os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen,

(c)os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, a

(d)os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.

(2)Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth heb hysbysiad.

(3)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trydydd parti anhysbys oni fo’n fodlon—

(a)bod gofynion is-adran (1)(a) i (c) wedi eu bodloni,

(b)nad yw’r wybodaeth neu’r ddogfen y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi ar gael yn rhwydd i ACC o ffynhonnell arall,

(c)bod sail dros gredu y gallai’r person y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu unrhyw ddosbarth o bersonau y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef fod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r gyfraith yn ymwneud â threth ddatganoledig, neu y gallent fethu â chydymffurfio â hi neu â hwy, a

(d)ei bod yn debygol bod unrhyw fethiant o’r fath wedi arwain, neu y gallai arwain, at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

(4)Wrth gymeradwyo dyroddi hysbysiad trydydd parti anhysbys, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad ag y bo’n briodol yn ei farn.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I15A. 89 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

90Gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol mewn perthynas â grŵp o ymgymeriadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ymgymeriad yn rhiant-ymgymeriad mewn perthynas ag [F6is-ymgymeriad] .

(2)Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i unrhyw berson at ddiben gwirio sefyllfa dreth rhiant-ymgymeriad ac unrhyw un neu ragor o’i is-ymgymeriadau—

(a)mae’r cyfeiriadau at y trethdalwr yn adrannau 87(2)(a), (3) a (4) ac 88(3)(d) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y rhiant-ymgymeriad, a

(b)mae adran 87(3) i’w thrin fel pe bai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad ddatgan ei ddiben.

(3)Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i riant-ymgymeriad at ddiben gwirio sefyllfa dreth mwy nag un is-ymgymeriad—

(a)rhaid i’r hysbysiad ddatgan ei ddiben,

(b)nid yw adrannau 87(2)(a) a (3) ac 88(3)(d) yn gymwys, ac

(c)mae adran 100 (hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth) yn gymwys fel pe bai’r hysbysiad trydydd parti yn hysbysiad trethdalwr a ddyroddir i bob is-ymgymeriad (neu, os yw’r hysbysiad trydydd parti yn enwi’r is-ymgymeriadau y mae’n ymwneud â hwy, i bob un o’r is-ymgymeriadau hynny).

(4)Yn yr adran hon, mae i “rhiant-ymgymeriad”, “is-ymgymeriad” ac “ymgymeriad” yr ystyron a roddir i “parent undertaking”, “subsidiary undertaking” ac “undertaking” yn [F7adrannau 1161 a 1162 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46) ac Atodlen 7 iddi, ond o ran cymhwyso’r adran hon i dreth trafodiadau tir, mae adran 1161(1)(b) o’r Ddeddf 2006 honno yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “carrying on a trade or business, with or without a view to profit” wedi eu hepgor.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I17A. 90 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

91Gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ymwneud â phartneriaeth yn ofynnolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo busnes yn cael ei redeg gan ddau neu ragor o bersonau mewn partneriaeth.

(2)Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i rywun heblaw un o’r partneriaid at ddiben gwirio sefyllfa dreth mwy nag un o’r partneriaid (yn y rhinwedd honno)—

(a)mae adran 87(3) i’w thrin fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i ACC—

(i)datgan y diben hwnnw,

(ii)enwi’r trethdalwr drwy roi enw yr adwaenir y bartneriaeth wrtho neu y mae wedi ei gofrestru oddi tano at unrhyw ddiben, a

(iii)dyroddi copi o’r hysbysiad i un o’r partneriaid o leiaf,

(b)mae adran 87(4) i’w thrin fel pe bai’n caniatáu i’r tribiwnlys ddatgymhwyso unrhyw un neu bob un o’r gofynion a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran hon, ac

(c)mae’r cyfeiriadau at y trethdalwr yn adrannau 87(2)(a) ac 88(3)(d) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at un o’r partneriaid o leiaf.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I19A. 91 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

92Pŵer i gael gwybodaeth er mwyn gallu cadarnhau pwy yw personLL+C

(1)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad adnabod”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth berthnasol am berson arall (“y trethdalwr”) oni fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.

(2)Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth heb hysbysiad.

(3)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad adnabod oni fo’n fodlon bod amodau 1 i 6 wedi eu bodloni.

(4)Amod 1 yw bod angen yr wybodaeth ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr.

(5)Amod 2 yw ei bod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.

(6)Amod 3 yw—

(a)nad yw ACC yn gwybod pwy yw’r trethdalwr, ond

(b)bod gan ACC wybodaeth y gellir canfod pwy yw’r trethdalwr ohoni.

(7)Amod 4 yw bod gan ACC sail dros gredu—

(a)y bydd y person yn gallu canfod pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC, a

(b)bod y person wedi cael gwybodaeth berthnasol am y trethdalwr yng nghwrs rhedeg busnes.

(8)Amod 5 yw na ellir canfod yn rhwydd pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC drwy ddulliau eraill.

(9)Amod 6 yw nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.

(10)Yn yr adran hon, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw pob un neu unrhyw un o’r canlynol⁠—

(a)enw,

(b)cyfeiriad hysbys olaf, ac

(c)dyddiad geni (yn achos unigolyn).

(11)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys at ddiben gwirio sefyllfa dreth dosbarth o bersonau (ac mae cyfeiriadau at y trethdalwr i’w darllen yn unol â hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I21A. 92 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

93Pŵer i gael manylion cyswllt dyledwyrLL+C

(1)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cyswllt dyledwr”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y trydydd parti”) ddarparu manylion cyswllt person arall (“y dyledwr”) oni fo amodau 1 i 5 wedi eu bodloni.

(2)Amod 1 yw bod swm ar ffurf—

(a)treth ddatganoledig,

(b)llog ar dreth ddatganoledig,

(c)cosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F8...

(d)llog ar gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig,

[F9(e)taliad mewn cysylltiad â chredyd treth, neu

(f)llog ar daliad mewn cysylltiad â chredyd treth,]

yn daladwy gan y dyledwr i ACC o dan ddeddfiad neu setliad contract.

(3)Amod 2 yw bod angen manylion cyswllt y dyledwr ar ACC at ddiben casglu’r swm hwnnw.

(4)Amod 3 yw ei bod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti ddarparu’r manylion.

(5)Amod 4 yw—

(a)bod y trydydd parti yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig, neu

(b)bod gan ACC sail dros gredu bod y trydydd parti wedi cael y manylion yng nghwrs rhedeg busnes.

(6)Amod 5 yw nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti ddarparu’r manylion.

(7)Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad cyswllt dyledwr—

(a)os yw’r trydydd parti yn elusen ac y daeth y manylion i’w law yng nghwrs darparu gwasanaethau di-dâl, neu

(b)os nad yw’r trydydd parti yn elusen ond y daeth y manylion i’w law yng nghwrs darparu gwasanaethau ar ran elusen sy’n ddi-dâl i’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “manylion cyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw cyfeiriad y person ac unrhyw wybodaeth arall ynghylch sut y gellir cysylltu â’r person.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I23A. 93 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

94Terfyn amser ar gyfer dyroddi hysbysiad gwybodaeth a gymeradwywyd gan dribiwnlysLL+C

Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth rhaid i ACC ddyroddi’r hysbysiad—

(a)yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddwyd cymeradwyaeth y tribiwnlys, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I25A. 94 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

95Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaethLL+C

(1)Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad gwybodaeth iddo gydymffurfio â’r hysbysiad—

(a)o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad [F10(neu unrhyw gyfnod hwy y bydd ACC a’r person yn cytuno arno)], a

(b)mewn unrhyw fodd a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad.

(2)Ond os yw’r person wedi gofyn am adolygu’r hysbysiad neu ofyniad ynddo, neu wedi apelio yn erbyn y naill neu’r llall, mae is-adran (1)(a) yn peidio â bod yn gymwys i’r hysbysiad neu’r gofyniad.

(3)Pan fo hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen, rhaid ei chyflwyno—

(a)mewn lle y mae’r person ac ACC yn cytuno arno, neu

(b)mewn lle a bennir gan ACC.

(4)Ni chaiff ACC bennu lle a ddefnyddir fel annedd yn unig at ddiben is-adran (3)(b).

(5)Nid yw cyflwyno dogfen yn unol â hysbysiad gwybodaeth i’w ystyried fel torri unrhyw hawlrwym a hawlir ar y ddogfen.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I27A. 95 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

96Cyflwyno copïau o ddogfennauLL+C

(1)Oni bai bod hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen wreiddiol, caiff y person gydymffurfio â’r hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen.

(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Pan fo person yn cydymffurfio â hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen, caiff ACC, wedi hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno’r ddogfen wreiddiol—

(a)o fewn unrhyw gyfnod, a

(b)mewn unrhyw fodd,

a bennir gan ACC.

(4)Ond nid yw’n ofynnol i berson gyflwyno’r ddogfen wreiddiol os yw ACC yn gwneud cais dros 6 mis ar ôl y diwrnod y cyflwynwyd y copi o’r ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I29A. 96 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 3LL+CCYFYNGIADAU AR BWERAU PENNOD 2

97Hysbysiadau gwybodaeth: cyfyngiadau cyffredinolLL+C

(1)Nid yw hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen oni fo’r ddogfen ym meddiant y person neu o fewn pŵer y person.

(2)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen os yw’r ddogfen gyfan wedi ei chreu dros 6 mlynedd cyn y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, oni ddyroddir yr hysbysiad gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys.

(3)Ni chaniateir dyroddi hysbysiad gwybodaeth a ddyroddir at ddiben gwirio sefyllfa dreth person sydd wedi marw dros 4 blynedd ar ôl i’r person farw.

(4)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen (neu unrhyw ran o ddogfen) sy’n ymwneud â chynnal adolygiad neu apêl sydd yn yr arfaeth sy’n ymwneud ag unrhyw dreth (boed dreth ddatganoledig ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I31A. 97 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

98Amddiffyniad ar gyfer deunydd newyddiadurolLL+C

(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu na chyflwyno deunydd newyddiadurol.

(2)Ystyr “deunydd newyddiadurol” yw gwybodaeth neu ddogfen—

(a)sydd ym meddiant rhywun a’i creodd, neu y daeth i’w feddiant, at ddibenion newyddiaduraeth, neu

(b)sydd ym meddiant rhywun a’i derbyniodd gan berson arall a fwriadai i’r derbynnydd ei ddefnyddio at ddibenion newyddiaduraeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I33A. 98 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

99Amddiffyniad ar gyfer cofnodion personolLL+C

(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu na chyflwyno cofnodion personol na gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn cofnodion personol.

(2)Ond caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson—

(a)cyflwyno dogfen (neu gopi o ddogfen) sy’n gofnod personol, gan hepgor yr wybodaeth sydd (naill ai ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall) yn gwneud y ddogfen yn gofnod personol;

(b)darparu gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn dogfen sy’n gofnod personol, ac eithrio’r wybodaeth sydd (naill ai ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall) yn gwneud y ddogfen yn gofnod personol.

(3)Ystyr “cofnodion personol” yw dogfennau a chofnodion eraill sy’n ymwneud ag unigolyn (“P”) (boed fyw neu farw) y gellir adnabod pwy ydyw o’r cofnodion hynny ac sy’n ymwneud ag—

(a)iechyd corfforol neu iechyd meddwl P,

(b)cwnsela neu gymorth ysbrydol a roddwyd neu sydd i’w roi i P, neu

(c)cwnsela neu gymorth a roddwyd neu sydd i’w roi i P mewn perthynas â lles personol P gan berson sydd—

(i)oherwydd swydd neu alwedigaeth, â chyfrifoldebau o ran lles personol P, neu

(ii)oherwydd gorchymyn llys, â chyfrifoldebau o ran goruchwylio P.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I35A. 99 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

100Hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen drethLL+C

(1)Pan fo person wedi dychwelyd ffurflen dreth ar gyfer cyfnod treth, ni chaniateir dyroddi hysbysiad trethdalwr at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person hwnnw ar gyfer y cyfnod hwnnw.

(2)Pan fo person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â thrafodiad, ni chaniateir dyroddi hysbysiad trethdalwr at ddiben gwirio sefyllfa dreth person mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw.

(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys pan fo (neu i’r graddau y mae) naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni.

(4)Amod 1 yw bod hysbysiad ymholiad wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad ag—

(a)y ffurflen dreth, neu

(b)hawliad (neu ddiwygiad i hawliad) a wnaed gan y person mewn perthynas â’r cyfnod treth neu’r trafodiad y mae’r ffurflen yn ymwneud ag ef,

ac nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau.

(5)Amod 2 yw bod gan ACC reswm i amau, mewn perthynas â’r person—

(a)ei bod yn bosibl nad yw swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad wedi ei asesu,

(b)ei bod yn bosibl bod asesiad o dreth ddatganoledig ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, F11...

(c)ei bod yn bosibl bod [F12rhyddhad] rhag treth ddatganoledig a roddwyd neu a hawliwyd ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad yn ormodol neu wedi dod yn ormodol,

[F13(d)ei bod yn bosibl bod swm o gredyd treth nad oes gan y person hawlogaeth iddo wedi ei hawlio, neu

(e)ei bod yn bosibl bod hawliad am gredyd treth yn ormodol neu wedi mynd yn ormodol.]

(6)Pan fo unrhyw bartner mewn partneriaeth wedi dychwelyd ffurflen dreth, mae’r adran hon yn cael effaith fel pe bai pob un o’r partneriaid wedi dychwelyd y ffurflen honno.

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at berson sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn cyfeirio at y person hwnnw yn y rhinwedd y dychwelwyd y ffurflen dreth yn unig.

101Diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig rhwng cynghorwyr cyfreithiol a chleientiaidLL+C

(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson—

(a)darparu gwybodaeth freintiedig, na

(b)cyflwyno unrhyw ran freintiedig o ddogfen.

(2)Mae gwybodaeth neu ddogfen yn freintiedig pe gellid cynnal hawliad ar gyfer braint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi mewn achos cyfreithiol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i’r tribiwnlys ddatrys unrhyw anghydfod o ran a yw unrhyw wybodaeth neu ddogfen yn freintiedig.

(4)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ar gyfer cadw dogfen tra dyfernir ei statws.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I39A. 101(1)(2) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

I40A. 101(3)(4) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

102Diogeliad ar gyfer cynghorwyr treth ac archwilwyrLL+C

(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i gynghorwr treth—

(a)darparu gwybodaeth am ohebiaeth berthnasol, neu

(b)cyflwyno unrhyw ran o ddogfen sydd ym meddiant y cynghorwr treth ac sy’n ohebiaeth berthnasol.

(2)Yn is-adran (1)—

(3)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson a benodwyd yn archwilydd at ddiben deddfiad—

(a)darparu gwybodaeth a gedwir mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r person o dan y deddfiad hwnnw, neu

(b)cyflwyno dogfen sy’n eiddo i’r person hwnnw ac a grëwyd gan y person hwnnw neu ar ran y person hwnnw ar gyfer neu mewn cysylltiad â chyflawni’r swyddogaethau hynny.

(4)Nid yw is-adrannau (1) a (3) yn cael effaith mewn perthynas ag—

(a)gwybodaeth sy’n egluro unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae’r person y dyroddir yr hysbysiad iddo wedi cynorthwyo unrhyw gleient, fel ei gyfrifydd treth, i’w pharatoi ar gyfer ACC neu i’w chyflwyno i ACC, neu

(b)dogfen sy’n cynnwys gwybodaeth o’r fath.

(5)Yn achos hysbysiad trydydd parti anhysbys, nid yw is-adrannau (1) a (3) yn cael effaith mewn perthynas ag—

(a)gwybodaeth sy’n nodi pwy yw person y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu’n rhoi ei gyfeiriad, neu’n nodi pwy yw person sydd wedi gweithredu ar ran person o’r fath neu’n rhoi ei gyfeiriad, neu

(b)dogfen sy’n cynnwys gwybodaeth o’r fath.

(6)Mae is-adrannau (1) a (3) yn cael effaith er gwaethaf is-adrannau (4) a (5) os yw’r wybodaeth o dan sylw eisoes wedi ei darparu i ACC, neu os yw dogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth eisoes wedi ei chyflwyno iddo.

(7)Pan na fo is-adran (1) neu (3) yn cael effaith mewn perthynas â dogfen yn rhinwedd is-adran (4) neu (5), mae hysbysiad gwybodaeth sy’n gwneud cyflwyno’r ddogfen yn ofynnol yn cael effaith fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno’r rhan honno neu’r rhannau hynny o’r ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-adran (4) neu (5).

(8)Yn is-adran (3), mae “deddfiad” hefyd yn cynnwys deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfwyd neu y’i gwnaed) sy’n un o’r canlynol, neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf Senedd yr Alban,

(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (p. 30)),

(c)offeryn Albanaidd (o fewn yr ystyr a roddir i “Scottish instrument” yn Neddf Dehongli a Diwygio Deddfwriaethol (Yr Alban) 2010 (dsa 10)), neu

(d)offeryn statudol (o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” yn Neddf Dehongli (Gogledd Iwerddon) 1954 (p. 33)).

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I42A. 102 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 4LL+CARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL

103Pŵer i archwilio mangre busnesLL+C

(1)Os oes gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio mangre busnes person at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person, caiff ACC fynd i’r fangre ac archwilio—

(a)y fangre;

(b)asedau busnes sydd yn y fangre;

(c)dogfennau busnes sydd yn y fangre (ond gweler adran 110).

(2)Ond ni chaiff ACC gynnal archwiliad o’r fath onid yw wedi cael—

(a)cytundeb meddiannydd y fangre, neu

(b)cymeradwyaeth y tribiwnlys.

(3)Caniateir cynnal archwiliad—

(a)ar adeg a gytunwyd â meddiannydd y fangre, neu

(b)os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad—

(i)ar adeg resymol a bennir mewn hysbysiad a ddyroddwyd i’r meddiannydd o leiaf 7 niwrnod cyn yr adeg honno, neu

(ii)ar unrhyw adeg resymol os yw’r tribiwnlys, pan fydd yn cymeradwyo’r archwiliad, yn fodlon bod gan ACC sail dros gredu y byddai hysbysu’r meddiannydd yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

(4)Os yw ACC yn ceisio cynnal archwiliad heb—

(a)cytundeb y meddiannydd, neu

(b)dyroddi hysbysiad o dan is-adran (3)(b)(i),

rhaid i ACC ddarparu hysbysiad ar yr adeg y bydd yr archwiliad i gychwyn.

(5)Rhaid i hysbysiad a ddarperir o dan is-adran (4)—

(a)os yw meddiannydd y fangre yno, gael ei roi i’r meddiannydd;

(b)os nad yw’r meddiannydd yno ond bod yno berson yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfrifol am y fangre, gael ei roi i’r person hwnnw;

(c)mewn unrhyw achos arall, gael ei adael mewn lle amlwg yn y fangre.

(6)Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan is-adran (3)(b)(i), neu a ddarperir o dan is-adran (4), ddatgan—

(a)bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, a

(b)canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(7)Nid yw’r pwerau o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i unrhyw ran o’r fangre, nac i archwilio unrhyw ran ohoni, a ddefnyddir fel annedd yn unig.

[F14(8)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I44A. 103 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

[F15103APŵer pellach i archwilio mangre busnes: treth gwarediadau tirlenwiLL+C

(1)Os oes gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni, caiff ACC fynd i fangre busnes person ac archwilio—

(a)y fangre;

(b)asedau busnes sydd yn y fangre;

(c)dogfennau busnes perthnasol sydd yn y fangre (ond gweler adran 110).

(2)Yr amod cyntaf yw bod y person yn ymwneud neu wedi ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy.

(3)Yr ail amod yw bod yr archwiliad o’r fangre yn ofynnol at ddiben gwirio sefyllfa person arall o ran treth gwarediadau tirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan sylw.

(4)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “dogfennau busnes perthnasol” yw dogfennau busnes sy’n ymwneud â materion sy’n berthnasol i sefyllfa person o ran treth gwarediadau tirlenwi.

(6)Mae’r amgylchiadau pan fo ACC i’w drin fel pe bai ganddo sail dros gredu bod yr amod cyntaf wedi ei fodloni yn cynnwys (er enghraifft) amgylchiadau pan fo gan ACC sail dros gredu—

(a)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â chael, â chludo neu â chyflenwi unrhyw ddeunydd at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny, neu

(b)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwneud unrhyw ddeunydd yn destun unrhyw weithdrefn neu ddefnydd, neu fel arall ag ymdrin ag unrhyw ddeunydd neu wneud trefniadau mewn perthynas ag ef, at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny.

(7)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.

(8)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd;

(b)mae i “deunydd”, “gweithgarwch safle tirlenwi penodedig” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.

103BPŵer pellach i archwilio mangre: gwarediadau trethadwy a wneir yn rhywle ac eithrio safleoedd tirlenwi awdurdodedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan ACC sail dros gredu—

(a)bod gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)ei bod yn ofynnol archwilio mangre sydd o fewn is-adran (3) at un neu ragor o’r dibenion a restrir yn is-adran (4).

(2)Caiff ACC fynd i’r fangre ac archwilio—

(a)y fangre, a

(b)unrhyw beth sydd yn y fangre (gan gynnwys dogfennau).

(3)Mae mangre o fewn yr is-adran hon os oes gan ACC reswm i gredu—

(a)y gwnaed y gwarediad ynddi, neu

(b)bod meddiannydd y fangre yn bodloni, neu y gallai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(4)Y dibenion yw—

(a)penderfynu a wnaed y gwarediad yn y fangre;

(b)canfod natur neu darddiad y deunydd a waredwyd;

(c)canfod ar ba ddyddiad y gwnaed y gwarediad;

(d)penderfynu a yw’r gwarediad yn warediad trethadwy;

(e)pennu pwysau’r deunydd a waredwyd;

(f)pennu swm unrhyw dreth arfaethedig sydd i’w godi ar y gwarediad o dan DTGT;

(g)canfod person sy’n bodloni, neu a allai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(5)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(6)Yn yr adran hon—

(a)mae i “safle tirlenwi awdurdodedig”, “deunydd” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyron ag a roddir iddynt yn DTGT;

(b)mae i gyfeiriadau at berson yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth yr un ystyr ag ym Mhennod 2 o Ran 4 o DTGT.

104Cynnal archwiliadau o dan adran 103 [F16, 103A neu 103B] : darpariaeth bellachLL+C

(1)Wrth gynnal archwiliad o dan adran 103, [F17103A neu 103B,] mae gan ACC y pwerau a ganlyn.

(2)Wrth fynd i’r fangre F18..., caiff ACC

(a)os oes ganddo sail dros gredu y caiff ei rwystro’n ddifrifol wrth gynnal yr archwiliad, gael cwnstabl yno gydag ef, a

(b)cael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.

(3)Caiff ACC wneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae’n ystyried bod ei angen o dan yr amgylchiadau.

(4)Caiff ACC roi cyfarwyddyd bod y fangre, neu unrhyw ran ohoni, neu unrhyw beth sydd ynddi, i’w gadael neu i’w adael yn union fel y mae (naill ai yn gyffredinol neu o ran agweddau penodol) cyhyd ag y bo angen at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o’r fath.

(5)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, gymryd samplau o ddeunydd o’r fangre.

(6)Mae’r pŵer i gymryd samplau yn cynnwys pŵer—

(a)i dyllu tyllau arbrofol neu i wneud gwaith arall yn y fangre, a

(b)i osod, i gadw neu i gynnal cyfarpar monitro a chyfarpar arall yn y fangre.

(7)Rhaid cael gwared ag unrhyw sampl a gymerir o dan is-adran (5) mewn unrhyw fodd a bennir gan ACC.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I46A. 104 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

105Cynnal archwiliadau o dan adran 103 [F19, 103A neu 103B] : defnyddio offer a deunyddiauLL+C

(1)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag unrhyw offer neu ddeunyddiau sydd eu hangen at ddiben archwiliad o dan adran [F20103, 103A neu 103B i’r fangre] sy’n cael ei harchwilio.

(2)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag offer neu ddeunyddiau i’r fangre—

(a)ar adeg y mae meddiannydd y fangre yn cytuno iddi, neu

(b)ar unrhyw adeg resymol, os bodlonir y naill neu’r llall o’r amodau a ganlyn—

(i)y dyroddwyd hysbysiad o dan adran 103(3)(b)(i) a bod yr hysbysiad yn pennu bod yr offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre, neu

(ii)bod gan ACC sail dros gredu y byddai dyroddi hysbysiad o’r fath yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

(3)Os dygir offer neu ddeunyddiau i’r fangre—

(a)heb gytundeb y meddiannydd, neu

(b)heb i hysbysiad gael ei ddyroddi yn unol ag is-adran (2)(b)(i),

rhaid i ACC ddarparu hysbysiad ar yr adeg y mae’r offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre.

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)os yw meddiannydd y fangre yno, gael ei roi i’r meddiannydd;

(b)os nad yw’r meddiannydd yno ond bod yno berson yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfrifol am y fangre, gael ei roi i’r person hwnnw;

(c)mewn unrhyw achos arall, gael ei adael mewn lle amlwg yn y fangre.

(5)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(6)Os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, neu’r defnydd o offer neu ddeunyddiau, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.

[F21(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I48A. 105 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

106Pŵer i archwilio mangre neu eiddo er mwyn prisio etc.LL+C

(1)Caiff ACC fynd i fangre ac archwilio’r fangre ac unrhyw eiddo yn y fangre at ddiben prisio, mesur neu bennu cymeriad y fangre neu’r eiddo—

(a)os oes angen prisio, mesur neu bennu cymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson, a

(b)os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni.

(2)Amod 1 yw—

(a)bod yr archwiliad yn cael ei gynnal ar adeg a gytunwyd gan berson perthnasol, a

(b)bod hysbysiad sy’n nodi’r amser a gytunwyd ar gyfer cynnal yr archwiliad wedi ei ddyroddi i’r person perthnasol.

(3)Amod 2 yw—

(a)bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, a

(b)bod hysbysiad sy’n nodi’r amser y cynhelir yr archwiliad wedi ei ddyroddi i berson perthnasol a bennir gan y tribiwnlys o leiaf 7 niwrnod cyn yr amser hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)meddiannydd y fangre, neu

(b)os na ellir dweud pwy yw’r meddiannydd neu os yw’r fangre yn wag, person sy’n rheoli’r fangre.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)(b) neu (3)(b) ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(6)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3)(b) hefyd ddatgan bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad.

(7)Os yw ACC o’r farn bod angen hynny i gynorthwyo â’r archwiliad, caiff ACC gael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I50A. 106 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

107Dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadauLL+C

Os nad yw person sy’n cynnal archwiliad o dan adran 103 [F22, 103A, 103B] neu 106 yn gallu dangos tystiolaeth o’i awdurdod i gynnal yr archwiliad pan ofynnir iddo—

(a)gan feddiannydd y fangre, neu

(b)gan unrhyw berson arall yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am y fangre, neu’n rheoli’r fangre,

rhaid dod â’r archwiliad i ben ac ni chaniateir iddo barhau hyd oni ddangosir tystiolaeth o’r fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I52A. 107 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

108Cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangreLL+C

(1)Caiff ACC ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo—

(a)archwiliad o dan adran 103 [F23, 103A, 103B] neu 106, neu

(b)arfer pwerau o dan adran 104 neu 105 mewn perthynas ag archwiliad o dan adran 103 [F24, 103A neu 103B] y mae meddiannydd y fangre wedi cytuno iddo.

(2)Mae cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwiliad o dan adran 103 [F25, 103A neu 103B] yn cynnwys cymeradwyo arfer y pwerau o dan adran 104 neu 105 yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan y tribiwnlys wrth gymeradwyo’r archwiliad.

(3)Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth o dan is-adran (1) heb anfon hysbysiad am y cais at—

(a)y person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig, neu

(b)meddiannydd y fangre.

(4)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran [F26103, 103A neu 103B—

(a) onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni, a

(b)os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, oni fo’n fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

[F27(4A)Y gofyniad cymwys yw—

(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;

(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.]

(5)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran 106 oni fo’n fodlon bod angen yr archwiliad at ddiben gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson ac—

(a)os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, ei fod yn fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig, neu

(b)mewn unrhyw achos arall—

(i)y rhoddwyd cyfle rhesymol i’r person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig wneud sylwadau i ACC ynghylch yr archwiliad,

(ii)y rhoddwyd cyfle rhesymol i feddiannydd y fangre wneud sylwadau o’r fath, a

(iii)y darparwyd crynodeb i’r tribiwnlys o unrhyw sylwadau a wnaed.

(6)Nid yw is-adran (5)(b)(ii) yn gymwys os yw’r tribiwnlys yn fodlon na ellir dweud pwy yw meddiannydd y fangre.

(7)Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo archwiliad o dan is-adran (1)(a) neu wedi cymeradwyo arfer pŵer o dan is-adran (1)(b) rhaid i ACC gynnal yr archwiliad neu arfer y pŵer—

(a)yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys ei gymeradwyaeth, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.]

109Pŵer i farcio asedau a chofnodi gwybodaethLL+C

Mae’r pwerau o dan adrannau 103 i 106 yn cynnwys—

(a)pŵer i farcio asedau busnes, ac unrhyw beth sy’n cynnwys asedau busnes, at ddiben dangos eu bod wedi eu harchwilio, a

(b)pŵer i gael a chofnodi gwybodaeth (boed yn electronig neu fel arall) sy’n ymwneud â’r fangre, yr eiddo, yr asedau a’r dogfennau a archwiliwyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I56A. 109 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

110Cyfyngiad ar archwilio dogfennauLL+C

Ni chaiff ACC archwilio dogfen o dan y Bennod hon os (neu i’r graddau), yn rhinwedd Penodau 2 a 3, na allai hysbysiad gwybodaeth a ddyroddwyd i feddiannydd y fangre ar adeg yr archwiliad ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd gyflwyno’r ddogfen.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I58A. 110 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

111Dehongli Pennod 4LL+C

[F28(1)] Yn y Bennod hon—

[F29(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I60A. 111 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 5LL+CPWERAU YMCHWILIO PELLACH

112Pŵer i gopïo dogfennau a mynd â dogfennau ymaithLL+C

(1)Pan fo ACC yn archwilio dogfen neu pan gyflwynir dogfen gan berson, caiff ACC wneud copïau o’r ddogfen neu gymryd dyfyniadau ohoni.

(2)Pan fo ACC yn archwilio dogfen neu pan gyflwynir dogfen gan berson, caiff ACC—

(a)mynd â’r ddogfen ymaith ar adeg resymol, a

(b)cadw’r ddogfen am gyfnod rhesymol,

os ymddengys i ACC bod angen gwneud hynny.

(3)Pan fo ACC yn mynd â dogfen ymaith, rhaid i ACC ddarparu yn ddi-dâl—

(a)derbynneb ar gyfer y ddogfen, a

(b)copi o’r ddogfen,

os gofynna’r person yr oedd y ddogfen yn ei feddiant, neu a oedd â phŵer dros y ddogfen, pan gyflwynwyd neu pan archwiliwyd hi.

(4)Nid yw mynd â dogfen ymaith o dan is-adran (2)(a) i’w ystyried fel torri unrhyw hawlrwym a hawlir ar y ddogfen.

(5)Pan fo dogfen yr aed â hi ymaith o dan is-adran (2)(a) yn cael ei cholli neu ei niweidio cyn ei dychwelyd, mae ACC yn agored i ddigolledu perchennog y ddogfen am unrhyw dreuliau yr aed iddynt yn rhesymol wrth gael dogfen arall yn ei lle neu wrth ei hatgyweirio.

(6)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ddogfen yn cynnwys copi o’r ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I62A. 112 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

113Darpariaeth bellach ynghylch cofnodionLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen,

(b)caniatáu i ACC—

(i)archwilio dogfen,

(ii)gwneud neu gymryd copïau neu ddyfyniadau o ddogfen, neu

(iii)mynd â dogfen ymaith,

(c)gwneud darpariaeth ynghylch cosbau neu droseddau mewn cysylltiad â chyflwyno neu archwilio dogfennau, gan gynnwys mewn cysylltiad â’r methiant i gyflwyno dogfennau neu ganiatáu iddynt gael eu harchwilio, neu

(d)gwneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â’r gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (a) neu’r pwerau a grybwyllir ym mharagraff (b).

(2)Mae darpariaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn cael effaith fel pe bai—

(a)unrhyw gyfeiriad yn y ddarpariaeth at ddogfen yn gyfeiriad at unrhyw beth y mae gwybodaeth o unrhyw ddisgrifiad wedi ei gofnodi ynddo, a

(b)unrhyw gyfeiriad yn y ddarpariaeth at gopi o ddogfen yn gyfeiriad at unrhyw beth y mae gwybodaeth a gofnodwyd yn y ddogfen wedi ei gopïo arno, ym mha bynnag fodd a boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

(3)Caiff ACC, ar unrhyw adeg resymol, gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â dogfen berthnasol, a’u harchwilio a gwirio eu gweithrediad.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “dogfen berthnasol” yw dogfen—

(a)y bu’n ofynnol neu y gall fod yn ofynnol i berson ei chyflwyno gan neu o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu

(b)y caiff ACC—

(i)ei harchwilio,

(ii)gwneud neu gymryd copïau neu ddyfyniadau ohoni, neu

(iii)mynd â hi ymaith.

(5)Caiff ACC wneud unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol ganddo at ddibenion is-adran (3) yn ofynnol gan—

(a)y person sy’n defnyddio’r cyfrifiadur neu sydd wedi defnyddio’r cyfrifiadur, neu’r person y’i defnyddir ar ei ran neu y’i defnyddiwyd ar ei ran, neu

(b)unrhyw berson sy’n gyfrifol am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’u gweithredu.

(6)Os nad yw person sy’n arfer y pŵer o dan is-adran (3) yn gallu cyflwyno tystiolaeth o awdurdod i wneud hynny pan ofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’r fath gan—

(a)y person sy’n defnyddio’r cyfrifiadur neu sydd wedi defnyddio’r cyfrifiadur, neu’r person y’i defnyddir ar ei ran neu y’i defnyddiwyd ar ei ran, neu

(b)unrhyw berson sy’n gyfrifol am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’u gweithredu,

rhaid i’r person sy’n arfer y pŵer roi’r gorau i wneud hynny ac ni chaiff barhau hyd oni chyflwynir tystiolaeth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I64A. 113 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 6LL+CTROSEDDAU YN YMWNEUD Â HYSBYSIADAU GWYBODAETH

114Trosedd o gelu etc. ddogfennau yn dilyn hysbysiad gwybodaethLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad gwybodaeth i’r person—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno dogfen, a

(ii)sydd wedi ei gymeradwyo gan y tribiwnlys, a

(b)os yw’r person yn celu, yn difa neu fel arall yn cael gwared (neu’n trefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â’r ddogfen honno.

(2)Gall person gyflawni trosedd o dan is-adran (1) er gwaethaf y ffaith bod y person wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad gwybodaeth neu yn erbyn gofyniad ynddo.

(3)Nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) os yw’r person yn gweithredu ar ôl i’r ddogfen wreiddiol gael ei chyflwyno yn unol â’r hysbysiad gwybodaeth, oni bai bod ACC wedi hysbysu’r person bod rhaid i’r ddogfen barhau i fod ar gael i’w harchwilio (ac nad yw wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl).

(4)Pan fo copi o ddogfen wedi ei gyflwyno yn unol ag adran 96(1), nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) os yw’r person yn gweithredu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd y copi oni bai bod ACC, cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben, wedi gofyn am y ddogfen wreiddiol o dan adran 96(3).

(5)Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) ddangos bod gan y person esgus rhesymol am gelu, am ddifa neu fel arall am gael gwared (neu am drefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â’r ddogfen.

(6)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I66A. 114 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

115Trosedd o gelu etc. ddogfennau yn dilyn hysbysiadLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn celu, yn difa neu fel arall yn cael gwared (neu’n trefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â dogfen ar ôl i ACC ddweud wrth y person—

(a)y bydd dogfen, neu ei bod yn debygol o fod, yn destun hysbysiad gwybodaeth wedi ei gyfeirio at y person hwnnw (gweler adran 88(3)(b)), a

(b)bod ACC yn bwriadu ceisio cymeradwyaeth y tribiwnlys i ddyroddi’r hysbysiad gwybodaeth (gweler adran 87(2)(b)) neu ei bod yn ofynnol iddo geisio cymeradwyaeth o’r fath (gweler adrannau 86, 89(1)(d) a 92(1)).

(2)Nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) os yw’r person yn celu, yn difa neu fel arall yn cael gwared â’r ddogfen—

(a)ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dywedodd ACC wrth y person (neu y dywedodd wrth y person ddiwethaf), neu

(b)wedi i hysbysiad gwybodaeth gael ei ddyroddi sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno’r ddogfen.

(3)Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) ddangos bod gan y person esgus rhesymol am gelu, am ddifa neu fel arall am gael gwared (neu am drefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â’r ddogfen.

(4) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I68A. 115 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 7LL+CCYMERADWYAETH Y TRIBIWNLYS

116Dim adolygu nac apelio yn erbyn cymeradwyaeth y tribiwnlysLL+C

(1)Yn adran 11(5) o [F30DTLlG] (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i’r Uwch Dribiwnlys), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)any decision of the First-tier Tribunal under section 88, 89(3) or 92(3) of the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 (anaw 6) (approval for Welsh Revenue Authority to issue certain information notices),

(cb)any decision of the First-tier Tribunal under section 108 of that Act (approval for Welsh Revenue Authority to inspect premises),.

(2)Yn adran 13(8) o’r Ddeddf honno (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i’r Llys Apêl etc.), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)any decision of the Upper Tribunal under section 88, 89(3) or 92(3) of the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 (anaw 6) (approval for Welsh Revenue Authority to issue certain information notices),

(bb)any decision of the Upper Tribunal under section 108 of that Act (approval for Welsh Revenue Authority to inspect premises),.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I70A. 116 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)