xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 1LL+CTROSOLWG

37Trosolwg o’r RhanLL+C

Mae’r Rhan hon yn ymwneud ag asesu trethi datganoledig ac mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)cadw cofnodion;

(b)ffurflenni treth;

(c)ymholiadau gan ACC i ffurflenni treth;

(d)dyfarniadau gan ACC ynghylch y dreth ddatganoledig sy’n ddyledus os na ddychwelir ffurflen dreth;

(e)asesiadau ACC o’r dreth ddatganoledig sy’n ddyledus [F1ac o symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth];

(f)hawliadau am [F2ryddhad] rhag asesiad dwbl ac ar gyfer ad-dalu treth ddatganoledig;

(g)gwneud hawliadau.

PENNOD 2LL+CDYLETSWYDDAU F3... I GADW COFNODION A’U STORIO’N DDIOGEL

38[F4Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: achosion pan fo’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth]LL+C

(1)Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth—

(a)cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen er mwyn galluogi’r person i [F5ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn,]

[F6(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.]

(2)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd yr hwyraf o’r [F7dyddiad] perthnasol—

(a)a’r [F7dyddiad] y cwblheir ymholiad i’r ffurflen dreth (gweler adran 50), neu

(b)os nad oes ymholiad, a’r [F7dyddiad] pan [F8fydd cyfnod yr ymholiad yn dod i ben (gweler adran 43(1A)).]

[F9(3)Ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 6 mlynedd i ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad ffeilio, a

(b)os dychwelwyd y ffurflen dreth a’i diwygio wedi hynny o dan adran 41, y dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r diwygiad o dan yr adran honno.

(3A)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.]

(4)Caniateir pennu [F10dyddiadau] gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran [F11(3A)] .

[F12(5)Yn y Bennod hon, mae “cofnodion” yn cynnwys dogfennau ategol (er enghraifft, cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau).]

F13(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F14(7). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F15(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I3A. 38 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F1638ADyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: trafodiadau tir nad oes angen dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â hwyLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, ac eithrio trafodiad o fath a restrir yn adran 65(4) o DTTT, nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad ag ef.

(2)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir y mae’r adran hon yn gymwys iddo—

(a)cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen i alluogi’r prynwr i ddangos nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth, a

(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.

(3)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y dyddiad perthnasol.

(4)Y “dyddiad perthnasol” yw chwe mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(5)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.

(6)Caniateir pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran (5).

(7)Yn is-adran (4), mae i’r “dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith” yr un ystyr ag yn DTTT.]

39Storio gwybodaeth etc. yn ddiogelLL+C

[F17(1)] Caiff y ddyletswydd o dan adran 38 [F18neu 38A] i storio cofnodion yn ddiogel ei chyflawni—

(a)drwy eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, neu

(b)drwy storio’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ynddynt yn ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

[F19(2)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I5A. 39 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F2039APŵer i wneud rheoliadau ynghylch cofnodionLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan y Bennod hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath.]

PENNOD 3LL+CFFURFLENNI TRETH

Dyddiad ffeilioLL+C

40Ystyr “dyddiad ffeilio”LL+C

[F21Yn Neddfau Trethi Cymru], [F22

(a)ystyr “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth trafodiadau tir, yw’r diwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd y ffurflen o dan DTTT;

(b)mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, yr ystyr a roddir gan adran 39(4) o DTGT.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I7A. 40 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Diwygio a chywiro ffurflenni trethLL+C

41Trethdalwr yn diwygio ffurflen drethLL+C

(1)Caiff person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth ei diwygio drwy roi hysbysiad i ACC.

(2)Rhaid gwneud diwygiad o dan yr adran hon cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol (y cyfeirir ato yn adran 42 fel y “cyfnod diwygio”).

[F23(3)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad ffeilio.

(3A)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn rhagnodi dyddiad arall mewn rheoliadau o dan yr is-adran hon, y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad hwnnw.]

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adrannau 45(3) a 50.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I9A. 41 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

42ACC yn cywiro ffurflen drethLL+C

(1)Caiff ACC gywiro unrhyw wall neu hepgoriad amlwg mewn ffurflen dreth.

(2)O ran cywiriad o dan yr adran hon—

(a)caiff ei wneud drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth, a

(b)ystyrir ei fod yn rhoi effaith i ddiwygiad i’r ffurflen dreth.

(3)Mae’r cyfeiriad at wall yn is-adran (1) yn cynnwys, er enghraifft, gamgymeriad rhifyddol neu wall o ran egwyddor.

(4)Rhaid gwneud cywiriad o dan yr adran hon cyn diwedd y cyfnod o 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dychwelwyd y ffurflen dreth.

[F24(4A)Os yw swm neu swm ychwanegol o dreth ddatganoledig yn daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir o dan yr adran hon, rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu’r swm, neu’r swm ychwanegol, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad.]

(5)Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth yn ei wrthod—

(a)yn ystod y cyfnod diwygio, drwy ddiwygio’r ffurflen dreth [F25o dan adran 41] er mwyn gwrthod y cywiriad, neu

(b)ar ôl y cyfnod hwnnw, drwy roi hysbysiad sy’n gwrthod y cywiriad.

(6)Rhaid rhoi hysbysiad o dan is-adran (5)(b) i ACC cyn diwedd y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cywiro.

PENNOD 4LL+CYMHOLIADAU ACC

Hysbysiad a chwmpas ymholiadLL+C

43Hysbysiad ymholiadLL+C

(1)Caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth os yw’n dyroddi hysbysiad am y bwriad i wneud hynny (“hysbysiad ymholiad”) i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth cyn diwedd y cyfnod [F26ymholiad (ond gweler is-adran (1B)).]

[F27(1A)Y cyfnod ymholiad ar gyfer ffurflen dreth yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(1B)Ond caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth ar ôl i’r cyfnod ymholiad ddod i ben—

(a)os dychwelir y ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad tir,

(b)ar ôl dychwelyd y ffurflen dreth, os dychwelir ffurflen dreth bellach mewn cysylltiad â’r un trafodiad tir,

(c)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth bellach, a

(d)os yw ACC yn credu bod angen gwneud ymholiad i’r ffurflen dreth a grybwyllir ym mharagraff (a).]

(2)[F28At ddibenion is-adran (1A),] y dyddiad perthnasol yw—

(a)os dychwelwyd y ffurflen dreth ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth, neu

(b)fel arall, y dyddiad ffeilio,

ond os diwygir y ffurflen dreth o dan adran 41, y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod y gwnaed y diwygiad.

(3)Ni chaiff ffurflen dreth a fu’n destun un hysbysiad o dan yr adran hon fod yn destun un arall, ac eithrio hysbysiad a ddyroddir—

[F29(a)o ganlyniad i ddiwygio’r ffurflen dreth o dan adran 41, neu

(b)yn rhinwedd is-adran (1B)]

[F30(4)Yn is-adran (1B), ystyr “ffurflen dreth bellach” yw ffurflen dreth bellach a ddychwelir o dan DTTT.]

44Cwmpas ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad i ffurflen dreth yn cwmpasu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys yn y ffurflen dreth, neu y mae’n ofynnol ei gynnwys yn y ffurflen dreth—

(a)sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a yw’r dreth ddatganoledig y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud â hi i’w chodi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth, F31...

(b)sy’n ymwneud â swm y dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth,

[F32(c)sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a oes gan y person a ddychwelodd y ffurflen dreth hawlogaeth i gredyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth, neu

(d)sy’n ymwneud â’r swm o gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo.]

(2)Ond os dyroddir hysbysiad ymholiad o ganlyniad i ddiwygio ffurflen dreth o dan adran 41 ar ôl cwblhau ymholiad i’r ffurflen dreth, mae’r ymholiad wedi ei gyfyngu—

(a)i faterion y mae’r diwygiad yn ymwneud â hwy, a

(b)i faterion y mae’r diwygiad yn effeithio arnynt.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I15A. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiadLL+C

45Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli trethLL+C

(1)Os yw ACC yn dod i’r casgliad, yn ystod y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo—

(a)bod y swm a nodir ar y ffurflen dreth fel swm y dreth ddatganoledig [F33sydd i’w godi] yn annigonol, a

(b)ei bod yn debygol, oni bai y diwygir y ffurflen ar unwaith, y bydd treth ddatganoledig yn cael ei cholli,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth er mwyn gwneud iawn am yr annigonolrwydd drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd.

[F34(1A)Os yw ACC, yn ystod y cyfnod pan fo ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, yn dod i’r casgliad—

(a)bod swm y credyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth yn ormodol, a

(b)ei bod yn debygol, oni chaiff y ffurflen dreth ei diwygio ar unwaith, y collir treth ddatganoledig,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd fel nad yw’r swm a hawlir yn ormodol mwyach.]

(2)Os yw’r ymholiad yn un sydd wedi ei gyfyngu gan adran 44(2) i faterion sy’n deillio o ddiwygiad i’r ffurflen dreth,

[F35(a)]nid yw is-adran (1) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r annigonolrwydd i’r diwygiad [F36, a

(b)nid yw is-adran (1A) yn gymwys ond i’r graddau y mae’r swm gormodol i’w briodoli i’r diwygiad.]

(3)Os dyroddir hysbysiad o dan [F37neu (1A)], ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan 41.

(4)Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu unrhyw swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y diwygiad.

(5)At ddibenion yr adran hon ac [F38adrannau 45A a 46] y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo yw’r cyfnod cyfan—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad ymholiad ynghylch y ffurflen dreth, a

(b)sy’n dod i ben â’r diwrnod y cwblheir yr ymholiad (gweler adran 50).

[F3945ATrethdalwr yn diwygio ffurflen dreth pan fydd ymholiad yn mynd rhagddoLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn ei diwygio yn ystod y cyfnod pan fydd ymholiad i’r ffurflen dreth yn mynd rhagddo.

(2)At ddibenion adran 44 (cwmpas ymholiad), mae’r diwygiad i’w drin fel rhywbeth a gynhwysir ar y ffurflen dreth.

(3)Mae’r diwygiad yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r ymholiad yn cael ei gwblhau oni bai bod ACC yn datgan yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50—

(a)bod y diwygiad wedi ei ystyried wrth lunio’r diwygiadau sy’n ofynnol i roi effaith i gasgliadau ACC, neu

(b)mai casgliad ACC yw bod y diwygiad yn anghywir.]

Atgyfeirio yn ystod ymholiadLL+C

46Atgyfeirio cwestiynau at dribiwnlys yn ystod ymholiadLL+C

(1)Ar unrhyw adeg pan fo ymholiad yn mynd rhagddo caniateir i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth ac ACC, ar y cyd, atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â chynnwys y ffurflen dreth at y tribiwnlys.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys ddyfarnu ynghylch unrhyw gwestiwn a atgyfeirir iddo.

(3)Caniateir gwneud mwy nag un atgyfeiriad o dan yr adran hon mewn perthynas ag ymholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I19A. 46 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

47Tynnu atgyfeiriad yn ôlLL+C

Caiff ACC neu’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dynnu atgyfeiriad a wnaed o dan adran 46 yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I21A. 47 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

48Effaith atgyfeirio ar ymholiadLL+C

(1)Tra bo achos ynghylch atgyfeiriad o dan adran 46 yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ymholiad—

(a)ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mewn perthynas â’r ymholiad (gweler adran 50), a

(b)ni chaniateir gwneud cais am gyfarwyddyd i ddyroddi hysbysiad cau (gweler adran 51).

(2)Mae achos ynghylch atgyfeiriad yn mynd rhagddo—

(a)pan fo atgyfeiriad wedi ei wneud a heb ei dynnu’n ôl, a

(b)pan na fo dyfarniad terfynol wedi ei wneud ynghylch y cwestiwn a atgyfeiriwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I23A. 48 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

49Effaith dyfarniadLL+C

(1)Mae dyfarniad o dan adran 46 yn rhwymo’r partïon i’r atgyfeiriad yn yr un ffordd, ac i’r un graddau, â phenderfyniad ar fater rhagarweiniol mewn apêl.

(2)Rhaid i ACC roi ystyriaeth i’r dyfarniad—

(a)wrth ddod i gasgliadau ynghylch yr ymholiad, a

(b)wrth lunio unrhyw ddiwygiadau i’r ffurflen dreth a all fod yn ofynnol er mwyn rhoi effaith i’r casgliadau hynny.

(3)Ni chaniateir ailedrych yn ystod apêl ar y cwestiwn y dyfarnwyd yn ei gylch, ac eithrio i’r graddau y gellid ailedrych arno os dyfarnwyd yn ei gylch fel mater rhagarweiniol mewn apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I25A. 49 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Cwblhau ymholiadLL+C

50Cwblhau ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth yn datgan—

(a)bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a

(b)casgliadau’r ymholiad.

(2)Rhaid i hysbysiad cau naill ai—

(a)datgan nad yw’n ofynnol diwygio’r ffurflen dreth ym marn ACC, neu

(b)gwneud y diwygiadau i’r ffurflen dreth sy’n ofynnol er mwyn rhoi effaith i gasgliadau ACC.

(3)Pan ddyroddir hysbysiad cau sy’n gwneud diwygiadau i ffurflen dreth, ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan adran 41.

(4)Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig [F40sy’n daladwy] o ganlyniad i ddiwygiad a wnaed gan hysbysiad cau cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I27A. 50 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

51Cyfarwyddyd i gwblhau ymholiadLL+C

(1)Caiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi o fewn cyfnod penodedig.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon fod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad cau o fewn y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I29A. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 5LL+CDYFARNIADAU ACC

52Dyfarniad o’r dreth sydd i’w chodi os na ddychwelir ffurflen drethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo gan ACC reswm i gredu bod treth ddatganoledig i’w chodi ar berson,

(b)pan na fo’r person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi, ac

(c)pan fo’r dyddiad ffeilio perthnasol wedi mynd heibio.

(2)Ystyr “y dyddiad ffeilio perthnasol” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu yr oedd yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth.

(3)Caiff ACC wneud dyfarniad (“dyfarniad ACC”) ynghylch swm y dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar y person, ym marn ACC.

(4)Rhaid dyroddi hysbysiad am y dyfarniad i’r person.

(5)Rhaid i’r person dalu’r dreth ddatganoledig sy’n daladwy [F41yn unol â dyfarniad] ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y dyfarniad.

(6)Ni chaniateir gwneud dyfarniad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol.

(7)Y dyddiad perthnasol yw—

(a)y dyddiad ffeilio perthnasol, neu

(b)unrhyw ddyddiad arall y caiff Gweinidogion Cymru ei ragnodi drwy reoliadau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I31A. 52 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

53Ffurflen dreth yn disodli dyfarniadLL+C

(1)Os yw’r person yr oedd gan ACC reswm i gredu bod treth ddatganoledig i’w chodi arno yn dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r dreth ar ôl i ddyfarniad ACC gael ei wneud, mae’r ffurflen yn disodli’r dyfarniad.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i ffurflen dreth a ddychwelwyd—

(a)dros 4 blynedd ar ôl i’r pŵer i wneud dyfarniad ACC ddod yn arferadwy gyntaf, neu

(b)dros 12 mis ar ôl y diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y dyfarniad,

pa un bynnag sydd hwyraf.

(3)Pan fo—

(a)achos wedi ei gychwyn i adennill unrhyw dreth ddatganoledig a godwyd gan ddyfarniad ACC, a

(b)ffurflen dreth yn disodli’r dyfarniad cyn i’r achos ddod i ben,

caniateir parhau â’r achos fel pe bai’n achos i adennill cymaint o’r dreth ddatganoledig a godir gan y ffurflen dreth ag y mae’n ofynnol ei dalu ac nad yw wedi ei dalu eto.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I33A. 53 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 6LL+CASESIADAU ACC

Asesu treth a gollir neu ad-daliad gormodolLL+C

54Asesu treth a gollirLL+C

Os daw ACC i’r casgliad—

(a)nad aseswyd swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu fel treth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson,

(b)bod asesiad o’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, neu

(c)bod [F42rhyddhad] mewn perthynas â threth ddatganoledig wedi ei hawlio neu wedi ei roi, sy’n ormodol neu wedi dod yn ormodol,

caiff ACC asesu’r swm neu’r swm pellach y dylid ei godi yn ei farn ef er mwyn gwneud iawn am y dreth ddatganoledig a gollir.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I35A. 54 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

55Asesiad i adennill ad-daliad treth gormodolLL+C

(1)Os ad-dalwyd swm o dreth ddatganoledig i berson, ond na ddylid bod wedi ei ad-dalu iddo, caniateir asesu ac adennill y swm hwnnw fel pe bai’n dreth ddatganoledig nas talwyd.

(2)Os gwnaed yr ad-daliad gyda llog, caiff y swm a asesir ac a adenillir gynnwys swm y llog na ddylid bod wedi ei dalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I37A. 55 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F4355A.Asesiad mewn perthynas â chredyd trethLL+C

Os yw ACC yn dod i’r casgliad—

(a)mewn perthynas â swm o gredyd treth sydd wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i berson ei dalu—

(i)na ddylid fod wedi ei osod yn erbyn y swm o dreth, neu

(ii)ei fod wedi mynd yn ormodol,

(b)mewn perthynas â swm a dalwyd i berson mewn cysylltiad â chredyd treth—

(i)na ddylid fod wedi ei dalu, neu

(ii)ei fod wedi mynd yn ormodol, neu

(c)nad yw swm y mae’n ofynnol i berson ei dalu i ACC mewn cysylltiad â chredyd treth wedi ei dalu,

caiff ACC wneud asesiad o’r swm y dylid bod wedi ei dalu i ACC, ym marn ACC, er mwyn unioni’r mater.]

56Cyfeiriadau at “asesiad ACC”LL+C

Yn y Ddeddf hon, ystyr “asesiad ACC” yw asesiad o dan adran 54 [F44, 55 neu 55A].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I39A. 56 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Gwneud asesiadau ACCLL+C

57Cyfeiriadau at y “trethdalwr”LL+C

Yn adrannau 58 i 61, ystyr “trethdalwr” yw—

(a)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 54, y person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno,

(b)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 55 [F45neu 55A], y person a grybwyllir yno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I41A. 57 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

58Amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACCLL+C

(1)O ran asesiad ACC—

(a)caniateir ei wneud yn y [F46pedwar] achos a bennir yn is-adrannau [F47(2), (3) [F48, (3A) a (3B)]] yn unig, a

(b)ni chaniateir ei wneud yn yr amgylchiadau a bennir yn is-adran (4).

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 wedi ei pheri’n ddiofal neu’n fwriadol gan—

(a)y trethdalwr,

(b)person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

(c)person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

[F49(3)Yr ail achos yw—

(a)pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,

(b)pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac

(c)ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.]

[F50(3A)Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).]

[F51(3B)Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.]

(4)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC [F52yn yr achos cyntaf na’r ail achos]

(a)os gellir priodoli’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 i gamgymeriad [F53mewn ffurflen dreth] o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig, a

(b)os gwnaed y camgymeriad oherwydd bod y ffurflen dreth wedi ei dychwelyd ar y sail a oedd yn bodoli ar yr adeg y’i dychwelwyd, neu yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol bryd hynny.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I43A. 58 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

59Terfynau amser ar gyfer asesiadau ACCLL+C

(1)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol [F54mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b)] .

(2)Ond caniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 6 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F55, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n ddiofal gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

(3)A chaniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 20 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F56, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n fwriadol gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

(4)Nid yw asesiad ACC o dan adran 55 oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr ad-daliad o dan sylw.

[F57(4A)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—

(a)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a

(b)fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.]

(5)Os yw’r trethdalwr wedi marw—

(a)rhaid gwneud unrhyw asesiad ACC o’r cynrychiolwyr personol cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â dyddiad y farwolaeth, a

(b)ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn perthynas â dyddiad perthnasol dros 6 mlynedd cyn y dyddiad hwnnw.

(6)Ni ellir gwrthwynebu gwneud asesiad ACC ar y sail fod y terfyn amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio ond fel rhan o adolygiad o’r asesiad neu apêl yn ei erbyn.

(7)Yn yr adran hon—

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I45A. 59 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

60Sefyllfaoedd sydd wedi eu peri’n ddiofal neu’n fwriadolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 58 a 59.

(2)Caiff sefyllfa ei pheri’n ddiofal gan berson os yw’r person yn methu â chymryd gofal rhesymol i osgoi peri’r sefyllfa honno.

(3)Pan fo—

(a)gwybodaeth yn cael ei darparu i ACC,

(b)y person a ddarparodd yr wybodaeth, neu’r person y’i darparwyd ar ei ran, yn darganfod yn nes ymlaen bod yr wybodaeth yn anghywir, ac

(c)y person hwnnw yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC,

mae unrhyw sefyllfa sy’n cael ei pheri gan yr anghywirdeb i’w thrin fel pe bai wedi ei pheri’n ddiofal gan y person hwnnw.

(4)Mae cyfeiriadau at sefyllfa sy’n cael ei pheri’n fwriadol gan berson yn cynnwys sefyllfa sy’n cael ei pheri o ganlyniad i anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I47A. 60 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

61Y weithdrefn asesuLL+C

(1)Rhaid dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr am asesiad ACC.

(2)Rhaid talu’r swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad.

F62(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I49A. 61 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 7LL+C[F63RHYDDHAD] YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD

Asesiad dwblLL+C

62Hawlio ymwared yn achos asesiad dwblLL+C

Caiff person sy’n credu bod treth ddatganoledig wedi ei hasesu ar y person hwnnw fwy nag unwaith mewn perthynas â’r un mater wneud hawliad i ACC am ymwared rhag unrhyw dreth a godir ddwywaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I51A. 62 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Treth a ordalwyd etc.LL+C

63Hawlio [F64rhyddhad] rhag treth a ordalwyd etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo person wedi talu swm o dreth ddatganoledig ond yn credu nad oedd y dreth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

(b)pan aseswyd bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, neu pan fo dyfarniad [F65ACC] wedi ei wneud bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, ond bod y person yn credu na ddylid codi’r dreth ddatganoledig arno.

(2)Caiff y person wneud hawliad i ACC ad-dalu’r swm neu [F66ollwng y swm].

(3)Pan fo’r adran hon yn gymwys, nid yw ACC yn rhwym i roi [F67rhyddhad] ac eithrio fel y darperir yn y Rhan hon neu drwy neu o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau eraill [F68Deddfau Trethi Cymru].

(4)At ddibenion yr adran hon ac adrannau [F6963A] i 81, trinnir swm a delir gan un person ar ran person arall fel swm a dalwyd gan y person arall.

[F7063AHawlio rhyddhad mewn cysylltiad â threth trafodiadau tir: rheoliadau yn peidio â chael effaithLL+C

(1)Os yw—

(a)yn rhinwedd adran 26(2) o DTTT, y bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau a wrthodir yn gymwys i drafodiad trethadwy, a

(b)o ganlyniad, swm y dreth trafodiadau tir sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,

caiff y prynwr yn y trafodiad wneud hawliad i ACC am ollwng neu ad-dalu’r swm o dreth trafodiadau tir na fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

(2)Pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i hawliad o dan is-adran (1) rhaid iddo hefyd ollwng neu ad-dalu unrhyw gosb neu log sy’n perthyn i’r swm o dreth a ollyngir neu a ad-delir.

(3)Mae unrhyw gosb neu log yn perthyn i swm o dreth at y diben hwn i’r graddau⁠—

(a)y mae i’w phriodoli neu i’w briodoli i’r swm, a

(b)na fyddid wedi mynd iddo oni bai am gymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir i’r trafodiad o dan sylw.

(4)Rhaid i hawliad o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r hwyraf o—

(a)y dyddiad y mae’r rheoliadau a wrthodir yn peidio â chael effaith, neu

(b)dyddiad ffeilio ffurflen dreth sy’n cynnwys asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gyfrifir gan ddefnyddio’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir.

(5)Mae hawliad o dan is-adran (1) i’w drin fel pe bai’n ddiwygiad a wneir o dan adran 41 i’r asesiad o’r dreth sydd i’w chodi sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen dreth.

(6)Yn yr adran hon—

Cyfoethogi anghyfiawnLL+C

64[F71Gwrthod hawliadau am ryddhad oherwydd cyfoethogi anghyfiawn]LL+C

Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am [F72ryddhad] a wneir o dan adran 63 [F73neu 63A] pe byddai ad-dalu neu [F74ollwng y] swm yn cyfoethogi’r hawlydd yn annheg, neu i’r graddau y byddai’n gwneud hynny.

65Cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellachLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo swm a dalwyd ar ffurf treth ddatganoledig a fyddai (ar wahân i adran 64) i’w ad-dalu i unrhyw berson (“y trethdalwr”) neu [F75i’w ollwng], a

(b)pan fo holl gost neu ran o gost talu’r swm hwnnw i ACC wedi ei hysgwyddo, at ddibenion ymarferol, gan berson heblaw’r trethdalwr.

(2)Pan fo, mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo, golled neu niwed wedi dod i ran y trethdalwr, neu y gallai colled neu niwed ddod i’w ran, o ganlyniad i ragdybiaethau anghywir a wnaed yn achos y trethdalwr am y ffordd y mae unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â threth ddatganoledig yn gweithredu, mae’r golled honno i’w diystyru neu’r niwed hwnnw i’w ddiystyru, ac eithrio i raddau’r swm sydd wedi ei feintioli, wrth wneud unrhyw ddyfarniad—

(a)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai ad-dalu swm i’r trethdalwr neu [F76ollwng y swm] yn cyfoethogi’r trethdalwr, neu

(b)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai unrhyw gyfoethogiad o ran y trethdalwr yn annheg.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y swm sydd wedi ei feintioli” yw’r swm (os o gwbl) y mae’r trethdalwr yn dangos ei fod y swm a fyddai’n digolledu’r trethdalwr yn briodol am golled neu niwed y dengys y trethdalwr iddo ddod i ran y trethdalwr yn sgil gwneud y rhagdybiaethau anghywir.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddarpariaethau sy’n ymwneud â threth ddatganoledig yn gyfeiriad at unrhyw ddarpariaethau—

(a)mewn unrhyw ddeddfiad neu [F77ddeddfwriaeth uniongyrchol [F78a gymathwyd]] (boed mewn grym o hyd ai peidio) sy’n berthnasol i’r dreth ddatganoledig neu i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â hi, neu

(b)mewn unrhyw hysbysiad a gyhoeddir gan ACC o dan neu at ddibenion unrhyw ddeddfiad o’r fath.

66Cyfoethogi anghyfiawn: trefniadau talu’n ôlLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i drefniadau talu’n ôl a wneir gan unrhyw berson gael eu diystyru at ddibenion adran 64 ac eithrio pan fo’r trefniadau—

(a)yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi gan y rheoliadau, a

(b)wedi eu cefnogi gan unrhyw ymrwymiadau i gydymffurfio â darpariaethau’r trefniadau ag y bo’n ofynnol eu rhoi i ACC yn ôl y rheoliadau.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “trefniadau talu’n ôl” yw unrhyw drefniadau at ddibenion hawliad o dan adran 63 [F79neu 63A]

(a)a wneir gan unrhyw berson at ddiben sicrhau na chaiff y person ei gyfoethogi’n annheg yn sgil ad-dalu neu [F80ollwng] unrhyw swm yn unol â’r hawliad, a

(b)sy’n darparu ar gyfer talu’n ôl i bersonau sydd at ddibenion ymarferol wedi ysgwyddo holl gost neu ran o gost y taliad gwreiddiol o’r swm hwnnw i ACC.

(3)Mae’r ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi drwy reoliadau o dan yr adran hon ar gyfer ei chynnwys mewn trefniadau talu’n ôl yn cynnwys yn benodol—

(a)darpariaeth sy’n gwneud taliad yn ôl o’r math a ddarperir ar ei gyfer yn y trefniadau yn ofynnol o fewn unrhyw gyfnod ar ôl yr ad-daliad y mae’n ymwneud ag ef a bennir yn y rheoliadau;

(b)darpariaeth ar gyfer ad-dalu symiau i ACC pan na fo’r symiau hynny yn cael eu talu’n ôl yn unol â’r trefniadau;

(c)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod llog a delir gan ACC ar unrhyw swm a ad-delir ganddo i’w drin yn yr un ffordd â’r swm hwnnw at ddibenion unrhyw ofyniad o dan y trefniadau i dalu personau yn ôl neu i ad-dalu ACC;

(d)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â dilyn y trefniadau a ddisgrifir yn y rheoliadau yn cael eu cadw a’u darparu i ACC.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon osod rhwymedigaethau ar bersonau a bennir yn y rheoliadau—

(a)i wneud yr ad-daliadau i ACC y mae’n ofynnol iddynt eu gwneud yn unol ag unrhyw ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau talu’n ôl yn rhinwedd is-adran (3)(b) neu (c);

(b)i gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau o’r fath yn rhinwedd is-adran (3)(d).

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch ym mha ffurf a modd, a phryd, y mae ymrwymiadau i’w rhoi i ACC yn unol â’r rheoliadau a chaiff unrhyw ddarpariaeth o’r fath ganiatáu i ACC benderfynu ynghylch y materion hynny yn unol â’r rheoliadau.

(6)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch cosbau pan fo person yn torri rhwymedigaeth a osodir yn rhinwedd is-adran (4).

(7)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth yn benodol—

(a)ynghylch yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i gosb;

(b)ynghylch symiau cosbau;

(c)ar gyfer cosbau penodedig, cosbau dyddiol a chosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at symiau’r ad-daliadau y byddai’r person wedi bod yn agored i’w gwneud i ACC pe byddai’r rhwymedigaeth wedi ei thorri;

(d)ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau;

(e)ynghylch adolygiadau o gosbau neu apelau yn eu herbyn;

(f)ynghylch gorfodi cosbau.

(8)Ond ni chaiff y rheoliadau greu troseddau.

(9)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (6) ddiwygio unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(10)Nid yw rheoliadau a wneir felly yn gymwys i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I59A. 66 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Seiliau eraill dros wrthod hawliadauLL+C

67Achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliadLL+C

(1)Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am [F81ryddhad] a wneir o dan adran 63 os yw’r hawliad yn dod o fewn achos a ddisgrifir yn yr adran hon, neu i’r graddau y mae’n gwneud hynny.

(2)Achos 1 yw pan fo’r swm o dreth ddatganoledig a dalwyd, neu sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd—

(a)camgymeriad mewn hawliad [F82neu ddewis], neu

(b)camgymeriad o ran gwneud [F83hawliad neu ddewis, neu fethu â gwneud hawliad neu ddewis].

[F84(2A)Yn is-adran (2), ystyr “dewis” yw dewis a wneir o dan baragraff 3, 5 neu 12 o Atodlen 15 i DTTT (rhyddhadau sy’n ymwneud â thai cymdeithasol).]

(3)Achos 2 yw pan fo’r hawlydd yn gallu ceisio [F85rhyddhad] drwy gymryd camau eraill o dan y Rhan hon, neu pan fydd yn gallu gwneud hynny.

(4)Achos 3 yw—

(a)pan allai’r hawlydd fod wedi ceisio [F86rhyddhad] drwy gymryd camau o’r fath o fewn cyfnod sydd wedi dod i ben erbyn hyn, a

(b)pan wyddai’r hawlydd neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod [F86rhyddhad] o’r fath ar gael.

(5)Achos 4 yw pan wneir yr hawliad ar seiliau—

(a)sydd wedi eu rhoi gerbron y tribiwnlys yn ystod apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, neu

(b)sydd wedi eu rhoi gerbron ACC yn ystod adolygiad gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei ddyfarnu gan y tribiwnlys yn rhinwedd adran 184.

(6)Achos 5 yw pan wyddai’r hawlydd, neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, am y seiliau ar gyfer yr hawliad cyn y diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod pan ddyfarnodd y tribiwnlys ynghylch apêl berthnasol y gellid bod wedi cyflwyno’r sail fel rhan ohoni (neu’r dyddiad y mae i’w thrin fel pe bai wedi ei dyfarnu felly);

(b)y diwrnod pan dynnodd yr hawlydd apêl berthnasol i’r tribiwnlys yn ôl;

(c)diwedd y cyfnod pan oedd gan yr hawlydd hawl i wneud apêl berthnasol i’r tribiwnlys.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “apêl berthnasol” yw apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu.

(8)Achos 6 yw pan dalwyd y swm o dan sylw neu pan fo’n agored i’w dalu—

(a)o ganlyniad i achos sy’n gorfodi talu’r swm hwnnw a ddygwyd yn erbyn yr hawlydd gan ACC, neu

(b)yn unol â chytundeb rhwng yr hawlydd ac ACC sy’n setlo achos o’r fath.

(9)Achos 7 yw—

(a)pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo rhwymedigaeth yr hawlydd i dreth ddatganoledig, a

(b)pan wnaed y camgymeriad oherwydd bod rhwymedigaeth wedi ei chyfrifo yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd.

(10)Nid yw achos 7 yn gymwys pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn dreth ddatganoledig sydd wedi ei chodi’n groes i gyfraith yr UE.

(11)At ddibenion is-adran (10), caiff swm o dreth ddatganoledig ei chodi’n groes i gyfraith yr UEF87...—

(a)[F88os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i’r darpariaethau] sy’n ymwneud â rhydd symudiad nwyddau, personau, gwasanaethau a chyfalaf yn Nheitlau II a IV o Ran 3 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, [F89a]

[F90(b)os yw’r hawliau a roddir gan y darpariaethau hynny, ar yr adeg y codir y dreth, yn cael eu cydnabod ac ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno.]

[F91(12)Achos 8 yw—

(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a

(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I61A. 67 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 8LL+CGWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.

68Gwneud hawliadauLL+C

(1)Rhaid gwneud hawliad o dan adran 62 [F92, 63 neu 63A] ar unrhyw ffurf a bennir gan ACC.

(2)Rhaid i’r ffurflen hawlio ddarparu ar gyfer datganiad i’r perwyl bod yr holl fanylion a roddwyd ar y ffurflen wedi eu datgan yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred yr hawlydd.

(3)Caiff y ffurflen hawlio wneud y canlynol yn ofynnol—

(a)datganiad o’r swm o dreth ddatganoledig y bydd yn ofynnol ei [F93ollwng] neu ei ad-dalu er mwyn rhoi effaith i’r hawliad;

(b)unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol at ddiben penderfynu a yw’r hawliad yn gywir, ac os felly, i ba raddau y mae’n gywir;

(c)darparu gyda’r hawliad unrhyw ddatganiadau a dogfennau, sy’n ymwneud â’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr hawliad, sy’n rhesymol ofynnol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (b).

(4)Ni chaniateir hawlio ad-daliad o dreth ddatganoledig oni bai bod gan yr hawlydd dystiolaeth ddogfennol bod y dreth ddatganoledig wedi ei thalu.

(5)Ni chaniateir gwneud hawliad o dan adran 63 drwy ei gynnwys mewn ffurflen dreth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I63A. 68 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

69Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n gwneud hawliad o dan adran 62 [F94, 63 neu 63A]

(a)bod wedi cadw unrhyw gofnodion y mae eu hangen er mwyn galluogi’r person i wneud hawliad cywir a chyflawn, a

(b)storio’r cofnodion hynny yn ddiogel yn unol â’r adran hon.

(2)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd yr olaf o’r canlynol—

(a)(ac eithrio pan fo paragraff (b) neu (c) yn gymwys) diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr hawliad;

(b)pan fo ymholiad i’r hawliad, neu i ddiwygiad i’r hawliad, y diwrnod y cwblheir yr ymholiad;

(c)pan fo’r hawliad wedi ei ddiwygio ac nad oes ymholiad i’r diwygiad, y diwrnod pan fo pŵer ACC i gynnal ymholiad i’r diwygiad yn dod i ben.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)darparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan yr adran hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath;

(b)rhagnodi disgrifiadau o ddogfennau ategol y mae’n ofynnol eu cadw o dan yr adran hon.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddir gan ACC yn unol â’r rheoliadau (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan hysbysiad dilynol).

(5)Mae “dogfennau ategol” yn cynnwys cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I65A. 69(1)(2)(5) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

I66A. 69(3)(4) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

70Storio gwybodaeth etc. yn ddiogelLL+C

Caiff y ddyletswydd o dan adran 69 i storio cofnodion yn ddiogel ei bodloni—

(a)drwy eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, neu

(b)drwy storio’r wybodaeth sydd ynddynt yn ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I68A. 70 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

71Hawlydd yn diwygio hawliadLL+C

(1)Caiff person sydd wedi gwneud hawliad o dan adran 62 [F95, 63 neu 63A] ddiwygio’r hawliad drwy roi hysbysiad i ACC.

(2)Ni chaniateir gwneud diwygiad o’r fath—

(a)dros 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu

(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I70A. 71 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

72ACC yn cywiro hawliadLL+C

(1)Caiff ACC ddiwygio hawliad drwy ddyroddi hysbysiad i’r hawlydd er mwyn cywiro gwallau neu hepgoriadau amlwg yn yr hawliad (boed wallau o ran egwyddor, camgymeriadau rhifyddol neu fel arall).

(2)Ni chaniateir gwneud cywiriad o’r fath—

(a)dros 9 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu

(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad, a

(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.

(3)Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r hawlydd, o fewn y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad, yn rhoi hysbysiad i ACC yn gwrthod y cywiriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I72A. 72 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

73Rhoi effaith i hawliadau a diwygiadauLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i hawliad gael ei wneud, ei ddiwygio neu ei gywiro⁠—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r hawlydd, a

(b)pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad (boed yn rhannol neu’n llawn), rhaid iddo wneud hynny drwy [F96ollwng y swm o dreth ddatganoledig neu ei ad-dalu i’r hawlydd].

(2)Pan fo ACC yn gwneud ymholiad ynghylch hawliad neu ddiwygiad—

(a)nid yw is-adran (1) yn gymwys hyd oni ddyroddir hysbysiad cau o dan adran 75, ac yna mae’n gymwys yn ddarostyngedig i adran 77, ond

(b)caiff ACC roi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad unrhyw bryd cyn hynny, ar sail dros dro, i unrhyw raddau y mae’n eu hystyried yn briodol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I74A. 73 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

74Hysbysiad ymholiadLL+C

(1)Caiff ACC wneud ymholiad i hawliad person neu i’w ddiwygiad o hawliad os yw’n dyroddi hysbysiad i’r hawlydd o’i fwriad i wneud hynny (“hysbysiad ymholiad”) cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad neu’r diwygiad.

(2)Ni chaiff hawliad neu ddiwygiad a fu’n destun un hysbysiad ymholiad fod yn destun un arall.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I76A. 74 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

75Cwblhau ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r hawlydd yn datgan—

(a)bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a

(b)casgliadau’r ymholiad.

(2)Rhaid i hysbysiad cau naill ai—

(a)datgan nad oes angen diwygio’r hawliad ym marn ACC, neu

(b)os yw’r hawliad yn annigonol neu’n ormodol ym marn ACC, diwygio’r hawliad er mwyn gwneud iawn am y diffyg neu’r gormodedd, neu ddileu’r diffyg neu’r gormodedd.

(3)Yn achos ymholiad i ddiwygiad o hawliad, nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r diffyg neu’r gormodedd i’r diwygiad.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I78A. 75 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

76Cyfarwyddyd i gwblhau ymholiadLL+C

(1)Caiff yr hawlydd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi o fewn cyfnod penodedig.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon bod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â dyroddi hysbysiad cau o fewn y cyfnod penodedig.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I80A. 76 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

77Rhoi effaith i ddiwygiadau o dan adran 75LL+C

(1)Rhaid i ACC, o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad o dan adran 75(2)(b) roi effaith i’r diwygiad drwy wneud unrhyw addasiad a all fod yn angenrheidiol, boed—

(a)ar ffurf asesiad o’r hawlydd, neu

(b)drwy ad-dalu treth ddatganoledig neu [F97ei gollwng].

(2)Nid yw asesiad a wneir o dan is-adran (1) oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod a grybwyllir yn yr is-adran honno.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I82A. 77 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

78Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadauLL+C

Rhaid i hawliad o dan adran 62 neu 63 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r taliad ar ffurf treth ddatganoledig, neu’r asesiad neu’r dyfarniad, yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I84A. 78 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

79Yr hawlydd: partneriaethauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn ymwneud â chymhwyso adran 63 mewn achos pan fo naill ai—

(a)(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(a)) y person wedi talu’r swm o dan sylw yn rhinwedd y ffaith ei fod yn bartner mewn partneriaeth, neu

(b)(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) yr asesiad wedi ei wneud o’r person yn y rhinwedd honno, neu’r dyfarniad yn ymwneud â’i rwymedigaeth yn y rhinwedd honno.

(2)Mewn achos o’r fath, dim ond person perthnasol sydd wedi ei enwebu i wneud hynny gan yr holl bersonau perthnasol a gaiff wneud hawliad o dan adran 63 mewn perthynas â’r swm o dan sylw.

(3)Y personau perthnasol yw’r personau a fyddai wedi bod yn agored fel partneriaid i dalu’r swm o dan sylw pe byddai’r taliad wedi bod yn ddyledus neu (mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) pe byddai’r asesiad neu’r dyfarniad wedi ei wneud yn gywir.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I86A. 79 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

80Asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan wneir hawliad o dan adran 63,

(b)pan fo’r seiliau ar gyfer rhoi effaith i’r hawliad hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r hawlydd mewn perthynas â’r dreth ddatganoledig, ac

(c)pe gellid gwneud asesiad o’r fath oni bai am gyfyngiad perthnasol.

(2)Mewn achos sy’n dod o fewn adran 79(1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad at yr hawlydd yn is-adran (1)(b) o’r adran hon yn cynnwys unrhyw berson perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 79(3)).

(3)Mae’r canlynol yn gyfyngiadau perthnasol—

(a)adran 58;

(b)terfyn amser ar gyfer gwneud asesiad ACC yn dod i ben.

(4)Pan fo’r adran hon yn gymwys—

(a)mae’r cyfyngiadau perthnasol i’w diystyru, a

(b)nid yw asesiad ACC oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud cyn dyfarnu’n derfynol ar yr hawliad.

(5)Nid yw hawliad wedi ei ddyfarnu’n derfynol—

(a)hyd na ellir amrywio’r hawliad mwyach, neu

(b)hyd na ellir amrywio’r swm y mae’n berthnasol iddo mwyach,

(boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I88A. 80 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

81Setliadau contractLL+C

(1)Mae’r cyfeiriad yn adran 63(1)(a) at swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson yn cynnwys swm a dalwyd gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â threth ddatganoledig y credwyd ei bod yn daladwy.

[F98(1A)Yn adran 63A(1), mae’r cyfeiriad at ad-dalu swm o dreth trafodiadau tir yn cynnwys ad-dalu swm a delir gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â’r swm hwnnw o dreth trafodiadau tir.]

(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys os nad yr un person yw’r person a dalodd y swm o dan y setliad contract (“y talwr”) a’r person yr oedd y dreth ddatganoledig yn daladwy ganddo (“y trethdalwr”).

(3)Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 mewn cysylltiad â’r swm hwnnw—

(a)mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adran 67(5), (6) ac (8) yn cael effaith fel pe baent yn cynnwys y trethdalwr, a

(b)mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adrannau 67(9) a 80(1)(b) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y trethdalwr.

(4)Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 [F99neu 63A] mewn cysylltiad â’r swm hwnnw, mae cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn adrannau 68, 73 a 77 yn cynnwys y swm a dalwyd o dan y setliad contract.

(5)Pan fo’r seiliau dros roi effaith i hawliad gan y talwr mewn cysylltiad â’r swm hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r trethdalwr mewn cysylltiad â’r dreth ddatganoledig⁠—

(a)caiff ACC osod unrhyw swm sydd i’w ad-dalu i’r talwr o ganlyniad i’r hawliad yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan y trethdalwr o ganlyniad i’r asesiad, a

(b)mae rhwymedigaethau ACC a’r trethdalwr wedi eu cyflawni i raddau’r gwrthgyfrif.