RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 6ASESIADAU ACC

Asesu treth a gollir neu ad-daliad gormodol

I5I1154Asesu treth a gollir

Os daw ACC i’r casgliad—

a

nad aseswyd swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu fel treth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson,

b

bod asesiad o’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, neu

c

bod F16rhyddhad mewn perthynas â threth ddatganoledig wedi ei hawlio neu wedi ei roi, sy’n ormodol neu wedi dod yn ormodol,

caiff ACC asesu’r swm neu’r swm pellach y dylid ei godi yn ei farn ef er mwyn gwneud iawn am y dreth ddatganoledig a gollir.

I12I955Asesiad i adennill ad-daliad treth gormodol

1

Os ad-dalwyd swm o dreth ddatganoledig i berson, ond na ddylid bod wedi ei ad-dalu iddo, caniateir asesu ac adennill y swm hwnnw fel pe bai’n dreth ddatganoledig nas talwyd.

2

Os gwnaed yr ad-daliad gyda llog, caiff y swm a asesir ac a adenillir gynnwys swm y llog na ddylid bod wedi ei dalu.

55AF12Asesiad mewn perthynas â chredyd treth

Os yw ACC yn dod i’r casgliad—

a

mewn perthynas â swm o gredyd treth sydd wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i berson ei dalu—

i

na ddylid fod wedi ei osod yn erbyn y swm o dreth, neu

ii

ei fod wedi mynd yn ormodol,

b

mewn perthynas â swm a dalwyd i berson mewn cysylltiad â chredyd treth—

i

na ddylid fod wedi ei dalu, neu

ii

ei fod wedi mynd yn ormodol, neu

c

nad yw swm y mae’n ofynnol i berson ei dalu i ACC mewn cysylltiad â chredyd treth wedi ei dalu,

caiff ACC wneud asesiad o’r swm y dylid bod wedi ei dalu i ACC, ym marn ACC, er mwyn unioni’r mater.

I14I1056Cyfeiriadau at “asesiad ACC

Yn y Ddeddf hon, ystyr “asesiad ACC” yw asesiad o dan adran 54 F15, 55 neu 55A.

Gwneud asesiadau ACC

I13I1657Cyfeiriadau at y “trethdalwr”

Yn adrannau 58 i 61, ystyr “trethdalwr” yw—

a

mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 54, y person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno,

b

mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 55 F11neu 55A, y person a grybwyllir yno.

I7I6C158Amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC

1

O ran asesiad ACC

a

caniateir ei wneud yn y F8pedwar achos a bennir yn is-adrannau F6(2), (3) F18, (3A) a (3B) yn unig, a

b

ni chaniateir ei wneud yn yr amgylchiadau a bennir yn is-adran (4).

2

Yr achos cyntaf yw pan fo’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 wedi ei pheri’n ddiofal neu’n fwriadol gan—

a

y trethdalwr,

b

person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

c

person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

F103

Yr ail achos yw—

a

pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,

b

pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac

c

ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.

F173A

Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).

F43B

Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.

4

Ni chaniateir gwneud asesiad ACC F20yn yr achos cyntaf na’r ail achos

a

os gellir priodoli’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 i gamgymeriad F14mewn ffurflen dreth o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig, a

b

os gwnaed y camgymeriad oherwydd bod y ffurflen dreth wedi ei dychwelyd ar y sail a oedd yn bodoli ar yr adeg y’i dychwelwyd, neu yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol bryd hynny.

I1I15C259Terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC

1

Ni chaniateir gwneud asesiad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol F3mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b) .

2

Ond caniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 6 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 F2, 55 neu 55A(a) neu (b) sydd wedi ei pheri’n ddiofal gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

3

A chaniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 20 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 F7, 55 neu 55A(a) neu (b) sydd wedi ei pheri’n fwriadol gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

4

Nid yw asesiad ACC o dan adran 55 oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr ad-daliad o dan sylw.

F194A

Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—

a

os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a

b

fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.

5

Os yw’r trethdalwr wedi marw—

a

rhaid gwneud unrhyw asesiad ACC o’r cynrychiolwyr personol cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â dyddiad y farwolaeth, a

b

ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn perthynas â dyddiad perthnasol dros 6 mlynedd cyn y dyddiad hwnnw.

6

Ni ellir gwrthwynebu gwneud asesiad ACC ar y sail fod y terfyn amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio ond fel rhan o adolygiad o’r asesiad neu apêl yn ei erbyn.

7

Yn yr adran hon—

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) F5, mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55, yw—

    1. za

      F9os na ddychwelwyd ffurflen dreth, y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth,

    2. a

      os dychwelwyd F1ffurflen dreth ar ôl y dyddiad ffeilio, y diwrnod y dychwelwyd y ffurflen dreth, neu

    3. b

      fel arall, y dyddiad ffeilio;

  • F21ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), yw—

    1. a

      pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, y dyddiad ffeilio;

    2. b

      pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth;

    3. c

      pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod y gwnaed yr hawliad.

  • ystyr “person cysylltiedig” (“related person”), mewn perthynas â’r trethdalwr, yw⁠—

    1. a

      person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

    2. b

      person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

I3I460Sefyllfaoedd sydd wedi eu peri’n ddiofal neu’n fwriadol

1

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 58 a 59.

2

Caiff sefyllfa ei pheri’n ddiofal gan berson os yw’r person yn methu â chymryd gofal rhesymol i osgoi peri’r sefyllfa honno.

3

Pan fo—

a

gwybodaeth yn cael ei darparu i ACC,

b

y person a ddarparodd yr wybodaeth, neu’r person y’i darparwyd ar ei ran, yn darganfod yn nes ymlaen bod yr wybodaeth yn anghywir, ac

c

y person hwnnw yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC,

mae unrhyw sefyllfa sy’n cael ei pheri gan yr anghywirdeb i’w thrin fel pe bai wedi ei pheri’n ddiofal gan y person hwnnw.

4

Mae cyfeiriadau at sefyllfa sy’n cael ei pheri’n fwriadol gan berson yn cynnwys sefyllfa sy’n cael ei pheri o ganlyniad i anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC.

I2I861Y weithdrefn asesu

1

Rhaid dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr am asesiad ACC.

2

Rhaid talu’r swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad.

F133

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .