xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 6LL+CASESIADAU ACC

Asesu treth a gollir neu ad-daliad gormodolLL+C

54Asesu treth a gollirLL+C

Os daw ACC i’r casgliad—

(a)nad aseswyd swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu fel treth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson,

(b)bod asesiad o’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, neu

(c)bod [F1rhyddhad] mewn perthynas â threth ddatganoledig wedi ei hawlio neu wedi ei roi, sy’n ormodol neu wedi dod yn ormodol,

caiff ACC asesu’r swm neu’r swm pellach y dylid ei godi yn ei farn ef er mwyn gwneud iawn am y dreth ddatganoledig a gollir.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 54 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

55Asesiad i adennill ad-daliad treth gormodolLL+C

(1)Os ad-dalwyd swm o dreth ddatganoledig i berson, ond na ddylid bod wedi ei ad-dalu iddo, caniateir asesu ac adennill y swm hwnnw fel pe bai’n dreth ddatganoledig nas talwyd.

(2)Os gwnaed yr ad-daliad gyda llog, caiff y swm a asesir ac a adenillir gynnwys swm y llog na ddylid bod wedi ei dalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 55 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F255A.Asesiad mewn perthynas â chredyd trethLL+C

Os yw ACC yn dod i’r casgliad—

(a)mewn perthynas â swm o gredyd treth sydd wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i berson ei dalu—

(i)na ddylid fod wedi ei osod yn erbyn y swm o dreth, neu

(ii)ei fod wedi mynd yn ormodol,

(b)mewn perthynas â swm a dalwyd i berson mewn cysylltiad â chredyd treth—

(i)na ddylid fod wedi ei dalu, neu

(ii)ei fod wedi mynd yn ormodol, neu

(c)nad yw swm y mae’n ofynnol i berson ei dalu i ACC mewn cysylltiad â chredyd treth wedi ei dalu,

caiff ACC wneud asesiad o’r swm y dylid bod wedi ei dalu i ACC, ym marn ACC, er mwyn unioni’r mater.]

56Cyfeiriadau at “asesiad ACC”LL+C

Yn y Ddeddf hon, ystyr “asesiad ACC” yw asesiad o dan adran 54 [F3, 55 neu 55A].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 56 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Gwneud asesiadau ACCLL+C

57Cyfeiriadau at y “trethdalwr”LL+C

Yn adrannau 58 i 61, ystyr “trethdalwr” yw—

(a)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 54, y person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno,

(b)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 55 [F4neu 55A], y person a grybwyllir yno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 57 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

58Amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACCLL+C

(1)O ran asesiad ACC—

(a)caniateir ei wneud yn y [F5pedwar] achos a bennir yn is-adrannau [F6(2), (3) [F7, (3A) a (3B)]] yn unig, a

(b)ni chaniateir ei wneud yn yr amgylchiadau a bennir yn is-adran (4).

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 wedi ei pheri’n ddiofal neu’n fwriadol gan—

(a)y trethdalwr,

(b)person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

(c)person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

[F8(3)Yr ail achos yw—

(a)pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,

(b)pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac

(c)ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.]

[F9(3A)Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).]

[F10(3B)Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.]

(4)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC [F11yn yr achos cyntaf na’r ail achos]

(a)os gellir priodoli’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 i gamgymeriad [F12mewn ffurflen dreth] o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig, a

(b)os gwnaed y camgymeriad oherwydd bod y ffurflen dreth wedi ei dychwelyd ar y sail a oedd yn bodoli ar yr adeg y’i dychwelwyd, neu yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol bryd hynny.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I10A. 58 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

59Terfynau amser ar gyfer asesiadau ACCLL+C

(1)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol [F13mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b)] .

(2)Ond caniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 6 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F14, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n ddiofal gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

(3)A chaniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 20 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F15, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n fwriadol gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

(4)Nid yw asesiad ACC o dan adran 55 oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr ad-daliad o dan sylw.

[F16(4A)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—

(a)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a

(b)fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.]

(5)Os yw’r trethdalwr wedi marw—

(a)rhaid gwneud unrhyw asesiad ACC o’r cynrychiolwyr personol cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â dyddiad y farwolaeth, a

(b)ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn perthynas â dyddiad perthnasol dros 6 mlynedd cyn y dyddiad hwnnw.

(6)Ni ellir gwrthwynebu gwneud asesiad ACC ar y sail fod y terfyn amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio ond fel rhan o adolygiad o’r asesiad neu apêl yn ei erbyn.

(7)Yn yr adran hon—

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I12A. 59 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

60Sefyllfaoedd sydd wedi eu peri’n ddiofal neu’n fwriadolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 58 a 59.

(2)Caiff sefyllfa ei pheri’n ddiofal gan berson os yw’r person yn methu â chymryd gofal rhesymol i osgoi peri’r sefyllfa honno.

(3)Pan fo—

(a)gwybodaeth yn cael ei darparu i ACC,

(b)y person a ddarparodd yr wybodaeth, neu’r person y’i darparwyd ar ei ran, yn darganfod yn nes ymlaen bod yr wybodaeth yn anghywir, ac

(c)y person hwnnw yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC,

mae unrhyw sefyllfa sy’n cael ei pheri gan yr anghywirdeb i’w thrin fel pe bai wedi ei pheri’n ddiofal gan y person hwnnw.

(4)Mae cyfeiriadau at sefyllfa sy’n cael ei pheri’n fwriadol gan berson yn cynnwys sefyllfa sy’n cael ei pheri o ganlyniad i anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I14A. 60 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

61Y weithdrefn asesuLL+C

(1)Rhaid dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr am asesiad ACC.

(2)Rhaid talu’r swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad.

F21(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I16A. 61 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3