xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 4LL+CYMHOLIADAU ACC

Hysbysiad a chwmpas ymholiadLL+C

43Hysbysiad ymholiadLL+C

(1)Caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth os yw’n dyroddi hysbysiad am y bwriad i wneud hynny (“hysbysiad ymholiad”) i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth cyn diwedd y cyfnod [F1ymholiad (ond gweler is-adran (1B)).]

[F2(1A)Y cyfnod ymholiad ar gyfer ffurflen dreth yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(1B)Ond caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth ar ôl i’r cyfnod ymholiad ddod i ben—

(a)os dychwelir y ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad tir,

(b)ar ôl dychwelyd y ffurflen dreth, os dychwelir ffurflen dreth bellach mewn cysylltiad â’r un trafodiad tir,

(c)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth bellach, a

(d)os yw ACC yn credu bod angen gwneud ymholiad i’r ffurflen dreth a grybwyllir ym mharagraff (a).]

(2)[F3At ddibenion is-adran (1A),] y dyddiad perthnasol yw—

(a)os dychwelwyd y ffurflen dreth ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth, neu

(b)fel arall, y dyddiad ffeilio,

ond os diwygir y ffurflen dreth o dan adran 41, y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod y gwnaed y diwygiad.

(3)Ni chaiff ffurflen dreth a fu’n destun un hysbysiad o dan yr adran hon fod yn destun un arall, ac eithrio hysbysiad a ddyroddir—

[F4(a)o ganlyniad i ddiwygio’r ffurflen dreth o dan adran 41, neu

(b)yn rhinwedd is-adran (1B)]

[F5(4)Yn is-adran (1B), ystyr “ffurflen dreth bellach” yw ffurflen dreth bellach a ddychwelir o dan DTTT.]

44Cwmpas ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad i ffurflen dreth yn cwmpasu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys yn y ffurflen dreth, neu y mae’n ofynnol ei gynnwys yn y ffurflen dreth—

(a)sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a yw’r dreth ddatganoledig y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud â hi i’w chodi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth, F6...

(b)sy’n ymwneud â swm y dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth,

[F7(c)sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a oes gan y person a ddychwelodd y ffurflen dreth hawlogaeth i gredyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth, neu

(d)sy’n ymwneud â’r swm o gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo.]

(2)Ond os dyroddir hysbysiad ymholiad o ganlyniad i ddiwygio ffurflen dreth o dan adran 41 ar ôl cwblhau ymholiad i’r ffurflen dreth, mae’r ymholiad wedi ei gyfyngu—

(a)i faterion y mae’r diwygiad yn ymwneud â hwy, a

(b)i faterion y mae’r diwygiad yn effeithio arnynt.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiadLL+C

45Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli trethLL+C

(1)Os yw ACC yn dod i’r casgliad, yn ystod y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo—

(a)bod y swm a nodir ar y ffurflen dreth fel swm y dreth ddatganoledig [F8sydd i’w godi] yn annigonol, a

(b)ei bod yn debygol, oni bai y diwygir y ffurflen ar unwaith, y bydd treth ddatganoledig yn cael ei cholli,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth er mwyn gwneud iawn am yr annigonolrwydd drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd.

[F9(1A)Os yw ACC, yn ystod y cyfnod pan fo ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, yn dod i’r casgliad—

(a)bod swm y credyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth yn ormodol, a

(b)ei bod yn debygol, oni chaiff y ffurflen dreth ei diwygio ar unwaith, y collir treth ddatganoledig,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd fel nad yw’r swm a hawlir yn ormodol mwyach.]

(2)Os yw’r ymholiad yn un sydd wedi ei gyfyngu gan adran 44(2) i faterion sy’n deillio o ddiwygiad i’r ffurflen dreth,

[F10(a)]nid yw is-adran (1) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r annigonolrwydd i’r diwygiad [F11, a

(b)nid yw is-adran (1A) yn gymwys ond i’r graddau y mae’r swm gormodol i’w briodoli i’r diwygiad.]

(3)Os dyroddir hysbysiad o dan [F12neu (1A)], ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan 41.

(4)Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu unrhyw swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y diwygiad.

(5)At ddibenion yr adran hon ac [F13adrannau 45A a 46] y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo yw’r cyfnod cyfan—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad ymholiad ynghylch y ffurflen dreth, a

(b)sy’n dod i ben â’r diwrnod y cwblheir yr ymholiad (gweler adran 50).

[F1445ATrethdalwr yn diwygio ffurflen dreth pan fydd ymholiad yn mynd rhagddoLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn ei diwygio yn ystod y cyfnod pan fydd ymholiad i’r ffurflen dreth yn mynd rhagddo.

(2)At ddibenion adran 44 (cwmpas ymholiad), mae’r diwygiad i’w drin fel rhywbeth a gynhwysir ar y ffurflen dreth.

(3)Mae’r diwygiad yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r ymholiad yn cael ei gwblhau oni bai bod ACC yn datgan yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50—

(a)bod y diwygiad wedi ei ystyried wrth lunio’r diwygiadau sy’n ofynnol i roi effaith i gasgliadau ACC, neu

(b)mai casgliad ACC yw bod y diwygiad yn anghywir.]

Atgyfeirio yn ystod ymholiadLL+C

46Atgyfeirio cwestiynau at dribiwnlys yn ystod ymholiadLL+C

(1)Ar unrhyw adeg pan fo ymholiad yn mynd rhagddo caniateir i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth ac ACC, ar y cyd, atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â chynnwys y ffurflen dreth at y tribiwnlys.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys ddyfarnu ynghylch unrhyw gwestiwn a atgyfeirir iddo.

(3)Caniateir gwneud mwy nag un atgyfeiriad o dan yr adran hon mewn perthynas ag ymholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 46 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

47Tynnu atgyfeiriad yn ôlLL+C

Caiff ACC neu’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dynnu atgyfeiriad a wnaed o dan adran 46 yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I10A. 47 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

48Effaith atgyfeirio ar ymholiadLL+C

(1)Tra bo achos ynghylch atgyfeiriad o dan adran 46 yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ymholiad—

(a)ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mewn perthynas â’r ymholiad (gweler adran 50), a

(b)ni chaniateir gwneud cais am gyfarwyddyd i ddyroddi hysbysiad cau (gweler adran 51).

(2)Mae achos ynghylch atgyfeiriad yn mynd rhagddo—

(a)pan fo atgyfeiriad wedi ei wneud a heb ei dynnu’n ôl, a

(b)pan na fo dyfarniad terfynol wedi ei wneud ynghylch y cwestiwn a atgyfeiriwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I12A. 48 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

49Effaith dyfarniadLL+C

(1)Mae dyfarniad o dan adran 46 yn rhwymo’r partïon i’r atgyfeiriad yn yr un ffordd, ac i’r un graddau, â phenderfyniad ar fater rhagarweiniol mewn apêl.

(2)Rhaid i ACC roi ystyriaeth i’r dyfarniad—

(a)wrth ddod i gasgliadau ynghylch yr ymholiad, a

(b)wrth lunio unrhyw ddiwygiadau i’r ffurflen dreth a all fod yn ofynnol er mwyn rhoi effaith i’r casgliadau hynny.

(3)Ni chaniateir ailedrych yn ystod apêl ar y cwestiwn y dyfarnwyd yn ei gylch, ac eithrio i’r graddau y gellid ailedrych arno os dyfarnwyd yn ei gylch fel mater rhagarweiniol mewn apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I14A. 49 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Cwblhau ymholiadLL+C

50Cwblhau ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth yn datgan—

(a)bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a

(b)casgliadau’r ymholiad.

(2)Rhaid i hysbysiad cau naill ai—

(a)datgan nad yw’n ofynnol diwygio’r ffurflen dreth ym marn ACC, neu

(b)gwneud y diwygiadau i’r ffurflen dreth sy’n ofynnol er mwyn rhoi effaith i gasgliadau ACC.

(3)Pan ddyroddir hysbysiad cau sy’n gwneud diwygiadau i ffurflen dreth, ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan adran 41.

(4)Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig [F15sy’n daladwy] o ganlyniad i ddiwygiad a wnaed gan hysbysiad cau cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I16A. 50 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

51Cyfarwyddyd i gwblhau ymholiadLL+C

(1)Caiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi o fewn cyfnod penodedig.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon fod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad cau o fewn y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I18A. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3