xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CAWDURDOD CYLLID CYMRU

ArianLL+C

23CyllidLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru dalu i ACC unrhyw symiau sy’n briodol yn eu barn hwy mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau ACC.

(2)Mae’r taliadau i’w gwneud ar yr adegau, ac yn ddarostyngedig i’r amodau, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 23 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

24GwobrauLL+C

Caiff ACC roi gwobr i berson yn dâl am wasanaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 24 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

25Talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol CymruLL+C

(1)Rhaid i ACC dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.

(2)Ond caiff ACC wneud hynny ar ôl didynnu alldaliadau ar ffurf ad-daliadau o drethi datganoledig (gan gynnwys llog ar ad-daliadau o’r fath) a chredydau mewn cysylltiad â threthi datganoledig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 25 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(a)