2Cychwyn

(1)

Daw’r Ddeddf hon i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol ac eithrio adran 1 sy’n dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(2)

Caiff gorchymyn o dan is-adran (1)—

(a)

pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)

gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.