Cefndir a Chrynodeb
3.Mae gwybodaeth gefndir fanwl ynghylch y rhesymeg dros y Ddeddf hon ar gael yn y Memorandwm Esboniadol (a gyhoeddwyd yn 2014) a’r Memorandwm Esboniadol diwygiedig (a gyhoeddwyd yn 2015) a oedd yn mynd gyda’r Bil yn ystod ei hynt drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Maent ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
4.Ysgogwyd y Bil gan bryderon a oedd yn deillio o fethiannau mewn gofal nyrsio yn y DU. Yn Lloegr fe’u hamlygwyd mewn cyfres o adroddiadau:
Report of the Mid Staffordshire NHS Foundation Trust public inquiry (a adwaenir yn gyffredin fel adroddiad Francis);
Review into the quality of care and treatment provided by 14 hospital trusts in England: overview report (a adwaenir yn gyffredin fel adolygiad Keogh);
ac
A promise to learn – a commitment to act (a adwaenir yn gyffredin fel adolygiad Berwick).
5.Yng Nghymru, nododd yr adroddiad Ymddiried mewn Gofal bryderon ynghylch y ffordd y penderfynwyd ar lefelau staffio yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
6.Mae’r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd hollgyffredinol ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru, wrth ystyried faint o nyrsys y mae eu hangen i fodloni’r holl ofynion rhesymol, i roi sylw i’r pwysigrwydd o ddarparu digon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif. Mae’r ddyletswydd hollgyffredinol hon yn gymwys pan fydd Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yn darparu gwasanaethau nyrsio eu hunain a phan fyddant yn sicrhau bod gwasanaethau nyrsio yn cael eu darparu gan drydydd partïon.
7.Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i gyfrifo lefelau staff nyrsio ar wardiau meddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion ac ar wardiau llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion; i gymryd pob cam rhesymol i gynnal y lefel staffio sydd wedi ei chyfrifo ar y wardiau hyn ac i wneud trefniadau ar gyfer hysbysu cleifion am y lefel staff nyrsio. Mae’r Ddeddf yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn estyn y ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio i leoliadau ychwanegol. Mae rheoliadau o’r fath yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Mae’r Ddeddf hefyd yn pennu’r dull y mae rhaid ei ddefnyddio i gyfrifo lefelau staff nyrsio.
8.Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau statudol ynghylch y ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio a’r dull o gyfrifo’r lefelau hynny. Mae’n gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i roi sylw i’r canllawiau hynny. Yn ychwanegol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG y mae’r ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio yn gymwys iddynt gyflwyno adroddiad ar lefelau staff nyrsio i Weinidogion Cymru bob tair blynedd.
9.Dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf yw:
dyroddi canllawiau ynghylch y ddyletswydd i gyfrifo a’r dull o gyfrifo lefelau staff nyrsio;
llunio a chyhoeddi crynodeb o adroddiadau ar lefelau staff nyrsio a ddarperir gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG ar gyfer cyfnod adrodd penodol; ac
gosod yr adroddiadau ar lefelau staff nyrsio a gyflwynir iddynt gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
10.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn estyn y dyletswyddau i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio, ac i adrodd wrth Weinidogion Cymru, i leoliadau clinigol ychwanegol.
11.Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru:
wrth benderfynu ar rychwant y gwasanaethau nyrsio y mae eu hangen er mwyn bodloni’r holl ofynion rhesymol, roi sylw i’r pwysigrwydd o ddarparu digon o nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif;
cyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio ar wardiau llawfeddygol a meddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion, gan ddefnyddio dulliau rhagnodedig;
rhoi sylw i ganllawiau ynghylch y ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio a’r dull o gyfrifo lefelau staff nyrsio a ddyroddir gan Weinidogion Cymru; a
darparu adroddiadau ar eu lefelau staff nyrsio.
12.Mae geirfa ar ddiwedd y Nodiadau hyn sy’n esbonio rhai o’r termau arbenigol a ddefnyddir yn y Nodiadau hyn.