RHAN 4AMRYWIOL

Y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru

39Cyfansoddiad etc

(1)

Mae aelodau’r Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru i’w penodi ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

(2)

Ni chaniateir i aelodaeth y Panel fod yn fwy na 15 o bersonau.

(3)

Nid yw’r Panel i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(4)

Nid yw swydd wag ymhlith aelodau’r Panel yn effeithio ar ddilysrwydd gweithred ganddo.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru dalu i aelod o’r Panel unrhyw ffioedd, lwfansau neu dreuliau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw staff, llety neu gyfleusterau eraill sy’n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn galluogi’r Panel i gyflawni ei swyddogaethau.

(7)

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Panel os yw’r person—

(a)

yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)

yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi,

(c)

yn aelod o Senedd yr Alban,

(d)

yn aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,

(e)

yn aelod o Senedd Ewrop,

(f)

yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(g)

yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu

(h)

yn aelod o staff sefydliad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(8)

Yn unol â hynny, ni chaniateir i berson sydd wedi ei anghymhwyso gael ei benodi’n aelod o’r Panel; ac mae person a benodir felly ac sy’n cael ei anghymhwyso yn peidio â bod yn aelod.

(9)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o’r Panel os ydynt wedi eu bodloni—

(a)

bod yr aelod yn anaddas i barhau fel aelod,

(b)

nad yw’r aelod yn gallu neu’n fodlon gweithredu fel aelod, neu

(c)

bod yr aelod wedi dwyn anfri ar y Panel.

(10)

Caiff aelod o’r Panel ymddiswyddo drwy roi dim llai na thri mis o rybudd ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.