RHAN 4AMRYWIOL

Y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru

38Sefydlu Panel a rhaglen waith

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu panel o bersonau, a elwir y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru (“y Panel”).

(2)Diben y Panel yw rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud â llunio, datblygu a gweithredu polisi a strategaeth mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru; ac at y diben hwn mae i “Cymru” yr un ystyr â “Wales” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (gweler adran 158(1) o’r Ddeddf honno).

(3)Rhaid i’r Panel, cyn pob blwyddyn ariannol berthnasol, gyhoeddi dogfen (y “rhaglen waith”) sy’n nodi’r materion y mae’n bwriadu rhoi cyngor i Weinidogion Cymru arnynt yn ystod cyfnod o dair blynedd, sef y flwyddyn ariannol honno a’r ddwy flwyddyn ariannol ddilynol.

(4)Ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth; ac ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” yw—

(a)y flwyddyn ariannol gyntaf i ddechrau ar ôl cychwyn is-adran (3), a

(b)pob trydedd flwyddyn ariannol ar ôl hynny.

(5)Rhaid i’r Panel gadw’r rhaglen waith o dan adolygiad a chaiff ei diwygio yn sgil gwneud hynny; a phan fo’r Panel yn diwygio’r rhaglen waith, rhaid iddo ei chyhoeddi fel y’i diwygiwyd.

(6)Cyn cyhoeddi’r rhaglen waith o dan is-adran (3) neu (5), rhaid i’r Panel gyflwyno drafft ohoni i Weinidogion Cymru; ond nid yw’r gofyniad i gyflwyno drafft sydd wedi ei ddiwygio o dan is-adran (5) ond yn gymwys i’r graddau y mae’r Panel yn ystyried bod y diwygiadau yn sylweddol.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl cael drafft o dan is-adran (6), gymeradwyo’r drafft gydag addasiadau neu hebddynt.

(8)Rhaid i’r Panel, ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi dogfen sy’n nodi’r materion yn y rhaglen waith y mae wedi rhoi cyngor i Weinidogion Cymru arnynt yn ystod y flwyddyn ariannol honno.