RHAN 4AMRYWIOL

Cofnodion amgylchedd hanesyddol

37Canllawiau

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cyrff a restrir yn is-adran (2) ar—

(a)

y modd y caiff y cyrff gyfrannu at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol a chynorthwyo i’w cadw’n gyfredol, a

(b)

y defnydd o gofnodion amgylchedd hanesyddol wrth arfer swyddogaethau’r cyrff.

(2)

Y cyrff yw—

(a)

awdurdodau lleol yng Nghymru;

(b)

awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru;

(c)

Cyfoeth Naturiol Cymru.

(3)

Rhaid i’r cyrff a restrir yn is-adran (2) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

(4)

Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)

â’r cyrff a restrir yn is-adran (2), a

(b)

ag unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.