RHAN 3ADEILADAU RHESTREDIG

Amrywiol

33Penderfynu ar apelau gan berson a benodir: darpariaeth atodol

(1)

Yn Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) (penderfynu ar apelau penodol gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru), ym mharagraff 7, yn is-baragraff (2)—

(a)

yn y geiriau agoriadol, hepgorer “or the Welsh Office”; a

(b)

hepgorer paragraff (b) a’r “and” sydd o’i flaen.

(2)

Yn y paragraff hwnnw o’r Atodlen honno, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

“(3)

Where an appointed person is a member of the staff of the Welsh Government, the functions of determining an appeal and doing anything in connection with it conferred on the person by this Schedule are to be treated for the purposes of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005 as functions of the Welsh Government.”