RHAN 3ADEILADAU RHESTREDIG
Trosolwg
23Trosolwg o’r Rhan hon
Mae’r Rhan hon yn ymwneud â gwarchod adeiladau yng Nghymru sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae’n gwneud darpariaeth—
(a)
i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn cynnwys adeilad mewn rhestr o adeiladau, neu eithrio adeilad o restr o adeiladau, o dan adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) (“Deddf 1990”) (adran 24);
(b)
i roi gwarchodaeth statudol i adeilad wrth i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gynnwys yr adeilad mewn rhestr (adran 24);
(c)
i Weinidogion Cymru adolygu eu penderfyniad i gynnwys adeilad mewn rhestr (adran 24);
(d)
ar gyfer addasu’r trefniadau rhestru dros dro a gychwynnir drwy gyflwyno hysbysiad diogelu adeilad yng ngoleuni’r ddarpariaeth a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) (adran 25);
(e)
i Weinidogion Cymru ardystio nad ydynt yn bwriadu cynnwys adeilad penodol mewn rhestr (adran 27);
(f)
i awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb â pherchennog adeilad rhestredig ynghylch materion megis cydsyniad i waith gael ei wneud i’r adeilad (adran 28);
(g)
i awdurdod cynllunio lleol ddyroddi hysbysiad stop dros dro mewn achos sy’n ymwneud â gwaith penodol i adeilad rhestredig (adran 29);
(h)
i estyn cwmpas y gwaith brys y caiff awdurdod cynllunio lleol ei wneud o dan Ddeddf 1990 ac i ddarparu i gostau’r awdurdod wrth wneud y gwaith hwnnw fod yn adenilladwy fel pridiant tir lleol (adran 30);
(i)
i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch camau pellach y caniateir iddynt gael eu cymryd i sicrhau bod adeiladau rhestredig yng Nghymru sydd wedi mynd i gyflwr gwael yn cael eu diogelu’n briodol (adran 31);
(j)
i alluogi cyflwyno drwy gyfathrebiadau electronig fathau penodol o hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig (adran 32);
(k)
mewn perthynas â phenderfynu ar apelau penodol sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru (adran 33).