RHAN 2HENEBION HYNAFOL ETC
Amrywiol
22Ystyr “monument” yn Neddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979
(1)
Mae adran 61 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p.46) (dehongli) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn is-adran (7)—
(a)
hepgorer yr “and” ar ôl paragraff (b);
(b)
ar ôl paragraff (c) mewnosoder
“and
(d)
any site in Wales (other than one falling within paragraph (b) or (c) above) comprising any thing, or group of things, that evidences previous human activity;”.
(3)
Ar ôl is-adran (7) mewnosoder—
“(7A)
In subsection (7)(d) “Wales” has the meaning given by section 158(1) of the Government of Wales Act 2006.”