RHAN 1TROSOLWG

1Trosolwg

(1)

Mae pum Rhan i’r Ddeddf hon.

(2)

Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o’r Ddeddf hon.

(3)

Mae Rhan 2 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p.46), yn bennaf mewn perthynas â henebion hynafol yng Nghymru. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol.

(4)

Mae Rhan 3 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) mewn perthynas ag adeiladau yng Nghymru sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig (“adeiladau rhestredig”).

(5)

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth arall ynghylch yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth—

(a)

ar gyfer llunio rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru (adran 34),

(b)

ar gyfer llunio cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru (adrannau 35 i 37), a

(c)

ar gyfer sefydlu’r Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru, cyfansoddiad y panel hwnnw a’i swyddogaethau (adrannau 38 a 39).

(6)

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.