Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1: Trosolwg

Adran 1 – Trosolwg

7.Mae adran 1 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn darparu trosolwg o’r darpariaethau yn y Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno darpariaethau annibynnol newydd sy’n ymwneud â rhestr o enwau lleoedd hanesyddol, cofnodion amgylchedd hanesyddol a phanel cynghori ar amgylchedd hanesyddol Cymru.

Rhan 2: Henebion Hynafol Etc

Adran 2 – Trosolwg o’r Rhan hon

8.Mae adran 2 yn darparu trosolwg o’r darpariaethau yn y Rhan hon o’r Ddeddf, sy’n gwneud diwygiadau i Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (“Deddf 1979”).

Adran 3 – Diwygiadau sy’n ymwneud â’r Gofrestr

9.Mae adran 3(1) yn mewnosod adrannau newydd 1AA i 1AE yn Neddf 1979. Mae’r adrannau hyn yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar ddiwygiadau penodol i’r gofrestr o henebion (“y Gofrestr”); yn cyflwyno gwarchodaeth interim ar gyfer henebion wrth aros am benderfyniadau ynghylch diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr; ac yn darparu ar gyfer adolygu penderfyniadau ynghylch diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr.

1AA Dyletswydd i ymgynghori ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr

10.Mae adran newydd 1AA yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar gynigion i gynnwys heneb yn y Gofrestr, i eithrio heneb o’r Gofrestr neu i wneud diwygiad perthnasol sy’n ymwneud â chofnod yn y Gofrestr.

11.Dim ond enw’r heneb sydd mewn cofnod yn y Gofrestr, ond mae map sy’n dangos union hyd a lled yr heneb sy’n cael ei gwarchod yn dod gyda’r cofnod. Mae adran 1AA(5) yn diffinio diwygiad perthnasol (“material amendment”) fel un sy’n ychwanegu at yr ardal a ddangosir, neu sy’n lleihau’r ardal a ddangosir, ar gyfer yr heneb ar fap o’r fath. Os bwriedir cynyddu neu leihau’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar y map, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y newid.

12.Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal yr ymgynghoriad drwy gyflwyno hysbysiad o’r cynnig i’r personau priodol, fel y’u diffinnir yn adran 1AA(3). Mae adran 1AA(6) yn darparu pwerau gwneud rheoliadau i ganiatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu personau priodol pellach at y rhestr yn is-adran (3) a gwneud unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i’r Ddeddf a all fod yn angenrheidiol o ganlyniad i hynny.

13.Mae adran 1AA(4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth benodol, gan gynnwys:

14.Mae adran 56 o Ddeddf 1979 yn nodi sut y caniateir i ddogfennau gael eu cyflwyno o dan y Ddeddf, ac mae ei darpariaethau yn gymwys i ddosbarthu hysbysiadau i’r personau priodol o dan adran newydd 1AA.

1AB Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniadau ynghylch diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr

15.Mae adran newydd 1AB yn gwneud darpariaeth i henebion ac ardaloedd o dir gael gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch gwneud diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr.

16.Tra bo heneb yn cael ei hystyried a thra bo’r ymgynghoriad ynghylch ei chofrestru yn mynd rhagddo, mae angen iddi gael ei gwarchod rhag cael ei dinistrio, ei newid neu ei difrodi mewn modd a fydd yn peryglu ei harwyddocâd o bosibl. Yn yr un modd, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ychwanegu at ardal heneb gofrestredig, bydd angen gwarchod y tir hwnnw fel nad yw arwyddocâd y tir hwnnw yn gallu cael ei beryglu cyn i benderfyniad gael ei wneud.

17.Mae adran 1AB(1) yn pennu y bydd gwarchodaeth interim yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad o gynnig naill ai i gynnwys heneb yn y Gofrestr, neu i wneud diwygiad perthnasol sy’n cynyddu’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar fap sy’n dod gyda chofnod yr heneb yn y Gofrestr.

18.Mae adran 1AB(2) yn nodi o ba ddyddiad y bydd y warchodaeth interim yn gymwys. Mae darpariaethau Deddf 1979 yn cael effaith o’r dyddiad hwnnw fel pe bai’r heneb yn y Gofrestr, neu fel pe bai’r diwygiad i’r map wedi ei wneud.

19.Mae adran 1AB(4) a (5) yn gwneud darpariaeth i warchodaeth interim beidio â bod mwyach pan fydd Gweinidogion Cymru:

20.Mae adran 1AB(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’n electronig restr o’r holl henebion y mae gwarchodaeth interim yn cael effaith mewn perthynas â hwy, a darparu copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 1AA(2) ar gais.

1AC Darpariaethau sy’n gymwys ar ddarfodiad gwarchodaeth interim

21.Mae adran newydd 1AC yn cyflwyno Atodlen A1 i Ddeddf 1979. Mae’r Atodlen yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn peidio â chael effaith mwyach o ganlyniad i benderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â chynnwys heneb yn y Gofrestr neu i beidio â gwneud diwygiad perthnasol sy’n cynyddu’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar fap sy’n dod gyda chofnod yr heneb yn y Gofrestr.

1AD Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim

22.Mae adran newydd 1AD yn gwneud darpariaeth i ddigollediad gael ei dalu am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chynnwys heneb yn y Gofrestr neu beidio â gwneud diwygiad perthnasol sy’n cynyddu’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar fap sy’n dod gyda chofnod yr heneb yn y Gofrestr.

1AE Adolygu penderfyniadau ynghylch diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr

23.Mae adran newydd 1AE yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau Gweinidogion Cymru i wneud diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr. Y diwygiadau o dan sylw yw’r rhai hynny sy’n cynnwys heneb yn y Gofrestr, neu sy’n ychwanegu at yr ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar fap sy’n dod gyda cofnod yr heneb yn y Gofrestr.

24.Pan wneir diwygiad o’r fath, mae adran 1AE(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r perchennog a’r meddiannydd (os nad y perchennog yw’r meddiannydd) sy’n eu hysbysu bod yr heneb wedi ei chynnwys yn y Gofrestr, neu fod diwygiad wedi ei wneud sy’n ychwanegu at yr ardal a ddangosir ar gyfer yr heneb, ac y caniateir i gais gael ei wneud i Weinidogion Cymru i ofyn i’r penderfyniad gael ei adolygu.

25.Mae adran 1AE(3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgymryd ag adolygiad ar gais a rhoi effaith i’w penderfyniad ynghylch yr adolygiad drwy ddiwygio’r Gofrestr neu’r map yn briodol.

26.Mae adran 1AE(4) yn pennu mai dim ond drwy adran 55 o Ddeddf 1979 (achosion ar gyfer cwestiynu dilysrwydd gorchmynion penodol) y caniateir i benderfyniad ynghylch adolygiad gael ei herio yn yr Uchel Lys. Yr unig seiliau a ganiateir ar gyfer herio’r penderfyniad o dan adran 55 yw nad oedd y penderfyniad o fewn pwerau Deddf 1979 neu na chydymffurfiwyd â’r gofynion perthnasol.

27.Mae adran 1AE(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal yr adolygiad drwy ymchwiliad lleol, gwrandawiad neu sylwadau ysgrifenedig. Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu pa weithdrefn sydd fwyaf priodol.

28.Mae adran 1AE(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi: y seiliau y caniateir gofyn am adolygiad arnynt, yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu mewn cysylltiad â chais am adolygiad, ffurf a dull cais am adolygiad, a’r cyfnod y mae rhaid gwneud cais ynddo.

29.Mae adran 1AE(7) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach mewn rheoliadau mewn cysylltiad ag adolygiadau, gan gynnwys darpariaeth ynghylch costau.

30.Mae adran 1AE(9) yn cyflwyno Atodlen A2 i Ddeddf 1979 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru benodi person i wneud penderfyniadau ynghylch adolygiadau.

31.Mae adran 3(2) yn mewnosod adran newydd 2(6A) yn Neddf 1979, sy’n darparu amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o wneud gwaith anawdurdodedig i heneb y rhoddwyd gwarchodaeth interim iddi. Mae’r amddiffyniad yn gymwys pan fo’r cyhuddedig yn gallu profi nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, fod gwarchodaeth interim wedi ei rhoi i’r heneb. Os codir amddiffyniad o’r fath, bydd rhaid i’r erlyniad brofi, pe dylai hysbysiad gwarchod interim fod wedi ei gyflwyno i’r cyhuddedig o dan adran 1AA(2), ei fod wedi ei gyflwyno.

Adran 4 – Diwygiadau sy’n ymwneud â’r Gofrestr: darpariaeth ganlyniadol

32.Mae adran 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1979 o ganlyniad i gyflwyno’r darpariaethau o ran ymgynghori, gwarchodaeth interim ac adolygu.

33.Mae adran 4(1) yn mewnosod is-adran newydd (5A) yn adran 1 o Ddeddf 1979 (cofrestr o henebion), sy’n cyfeirio at y darpariaethau newydd ynghylch ymgynghori gan Weinidogion Cymru ar gynigion i gynnwys heneb yn y Gofrestr, i eithrio heneb o’r Gofrestr neu i wneud diwygiad perthnasol mewn perthynas â’r Gofrestr.

34.Mae adran 4(2) yn mewnosod is-adrannau newydd (6B) a (6C) yn adran 1 o Ddeddf 1979. Mae adran 1(6B) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu perchennog a meddiannydd heneb, a’r awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal, pan fo diwygiad wedi ei wneud i’r ardal a ddangosir ar gyfer yr heneb ar y map cofrestru, ac anfon copi o’r map diwygiedig atynt. Mae adran 1(6C) yn cyfeirio at ddarpariaethau ynghylch yr wybodaeth ychwanegol y mae angen ei darparu i berchenogion a/neu feddianwyr pan wneir diwygiadau penodol mewn perthynas â’r Gofrestr, sef gwybodaeth ynghylch yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad i wneud y diwygiad.

35.Mae adran 4(3) yn cymhwyso adran 27 o Ddeddf 1979, sy’n nodi’r modd y mae digollediad ar gyfer y dibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir i gael ei asesu, i’r digollediad sy’n daladwy o dan adran 1AD am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim.

36.Mae adran 4(4) yn cymhwyso is-adran (3) o adran 51 o Ddeddf 1979 (eiddo eglwysig) i unrhyw ddigollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim ar gyfer heneb ar dir sy’n eiddo eglwysig. Ystyr “eiddo eglwysig”, yn y cyd-destun hwn, yw tir sy’n eiddo i Eglwys Loegr, ac effaith y ddarpariaeth yw ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddigollediad o’r fath gael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr esgobaeth lle y mae’r heneb.

37.Mae adran 4(5) yn cymhwyso adran 55 o Ddeddf 1979 (achosion ar gyfer cwestiynu dilysrwydd gorchmynion penodol) i benderfyniad ynghylch adolygiad o dan adran 1AE, fel mai dim ond ar seiliau penodol y caniateir i benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch adolygiad gael ei gyfeirio at yr Uchel Lys.

Adran 5 – Symleiddio’r broses

38.Mae adran 5(1) yn mewnosod is-adrannau newydd (5A) a (5B) yn adran 2 o Ddeddf 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig) ac mae adran 5(2) yn mewnosod paragraff 1(3) yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig). Mae’r darpariaethau newydd yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud i symleiddio’r broses ar gyfer gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig a’i roi.

39.Mae adran 2 o Ddeddf 1979 yn nodi ei bod yn ofynnol cael cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer:

40.Mae adran newydd 2(5A) a (5B) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar ffurf a chynnwys cydsyniad heneb gofrestredig ac yn dileu’r gofyniad bod rhaid i gydsyniad gael ei roi yn ysgrifenedig.

41.Mae rheoliadau a wneir o dan baragraff 1(1) o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1979 yn nodi’r ffurf a’r dull y mae ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig i gael eu gwneud.

42.Mae paragraff newydd 1(3) o Ran 1 o Atodlen 1 yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru er mwyn caniatáu i geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig gael eu gwneud mewn ffyrdd eraill. Caniateir i’r rheoliadau hynny roi’r disgresiwn i Weinidogion Cymru i benderfynu ar y weithdrefn a all fod yn briodol ar gyfer gwneud cais.

43.Mae cyfran helaeth o geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig yn cynnwys cynigion syml, er enghraifft gosod camfa newydd sy’n cyfateb yn union i’r gamfa wreiddiol, neu wneud gwaith atgyweirio syml i greithiau erydu. Bydd y pwerau hyn i wneud rheoliadau yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno gweithdrefnau symlach ar gyfer cael cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer cynigion syml am fân waith nad yw’n amlwg. Gellid gwneud hyn, er enghraifft, drwy hepgor elfennau o’r broses, megis cyflwyno cais ysgrifenedig neu fod yr ymgeisydd yn derbyn penderfyniad interim, pan fo Gweinidogion Cymru a’r ymgeisydd yn fodlon defnyddio gweithdrefn symlach.

Adran 6 – Rhoi cydsyniad i waith anawdurdodedig

44.Mae adran 6 yn mewnosod is-adrannau newydd (3A) a (3B) yn adran 2 o Ddeddf 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig). Mae’r darpariaethau hyn yn caniatáu i gydsyniad heneb gofrestredig gael ei roi ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei wneud.

45.Mae adran 2 o Ddeddf 1979 yn ei gwneud yn drosedd i wneud gwaith penodedig i heneb gofrestredig oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi’r gwaith o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno, gan gynnwys drwy roi cydsyniad heneb gofrestredig ysgrifenedig.

46.O dan amgylchiadau penodol, gall fod yn well cadw gwaith anawdurdodedig a wnaed i heneb yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i’r gwaith hwnnw gael ei wrthdroi, yn enwedig pe gallai gwrthdroi’r gwaith arwain at wneud rhagor o ddifrod. Er enghraifft, gallai gwaith i ddileu’r sylfeini a godid ar gyfer adeilad neu waith i ailosod trac arwain at aflonyddu’r tir ymhellach. Byddai rhoi cydsyniad heneb gofrestredig i awdurdodi gwaith sydd eisoes wedi ei wneud ac i reoli, drwy amodau, fod y gwaith hwnnw yn cael ei gwblhau yn ateb ansicrwydd ynghylch pa mor gyfreithlon yw cadw’r gwaith ac yn dileu’r posibilrwydd o erlyniad neu sancsiynau eraill yn y dyfodol.

Adran 7 – Y drosedd o roi gwybodaeth anwir ar gais

47.Mae paragraff 2(1) o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1979 (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig oni bai bod tystysgrif benodedig yn dod gyda’r cais. Mae paragraff 2(2) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch ffurf tystysgrifau o’r fath a’r manylion pellach y mae rhaid eu cynnwys arnynt. Mae paragraff 2(4) yn ei gwneud yn drosedd i ddyroddi tystysgrif sy’n honni cydymffurfio â gofynion paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 1, ond sy’n cynnwys datganiad anwir neu gamarweiniol o ran manylyn arwyddocaol.

48.Mae adran 7 yn diwygio paragraff 2(4) er mwyn ei gwneud yn drosedd, yn ogystal, i ddyroddi tystysgrif sy’n honni cydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 1, ond sy’n cynnwys datganiad anwir neu gamarweiniol o ran manylyn arwyddocaol.

Adran 8 – Gwrthod ceisiadau a ailadroddir etc

49.Mae adran 8 yn mewnosod paragraff newydd 2B yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1979 (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig), sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig:

Adran 9 – Y weithdrefn ar gyfer penderfynu ar geisiadau

50.Mae adran 9 yn cyflwyno gweithdrefnau newydd ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig.

51.Mae adran 9(1) yn cyfyngu ar gymhwysiad paragraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 1 o Ddeddf 1979 (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig) i henebion cofrestredig yn Lloegr.

52.Mae adran 9(2) yn mewnosod paragraff 3A yn Rhan 1 o Atodlen 1. Mae’r paragraff hwn yn gymwys i geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig i gwneud gwaith ar henebion cofrestredig yng Nghymru.

53.Mae paragraff 3A yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru, cyn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad heneb gofrestredig ai peidio, gynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus neu roi cyfle i bersonau i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo neu i gyflwyno sylwadau i berson o’r fath.

54.Mae paragraff 3A(4) yn gorfodi Gweinidogion Cymru i roi ystyriaeth i unrhyw sylwadau a gyflwynir mewn cysylltiad â chais ac i ystyried unrhyw adroddiad a wneir gan berson a benodir i gynnal ymchwiliad neu wrandawiad neu i gael sylwadau.

55.Mae paragraff 3A(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’u penderfyniad i’r ymgeisydd ac i bob person sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais am gydsyniad heneb gofrestredig.

Adran 10 – Digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig

56.Mae adran 10 yn diwygio adran 7 o Ddeddf 1979, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd am gydsyniad heneb gofrestredig gael ei ddigolledu o dan amgylchiadau penodol os yw’n dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad i wrthod y cydsyniad hwnnw neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau.

57.Mae’r adran yn cyfyngu cymhwysiad adran 7(4) o Ddeddf 1979 i Loegr ac yn mewnosod is-adran newydd (4A). Mae’r is-adran newydd yn nodi na fydd unrhyw ddigollediad yn daladwy yng Nghymru pe bai’r gwaith y ceisiwyd cydsyniad heneb gofrestredig ar ei gyfer yn arwain, neu y gallai arwain, at ddymchwel heneb yn gyfan gwbl neu’n rhannol, oni bai mai dim ond gweithrediadau a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol, neu a oedd yn gysylltiedig, â’r defnydd o safle’r heneb at ddibenion a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y byddai’r gwaith wedi eu cynnwys.

Adran 11 – Cytundebau partneriaeth dreftadaeth

58.Mae adran 11 yn mewnosod adrannau newydd 9ZA a 9ZB yn Neddf 1979 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cytundebau partneriaeth dreftadaeth yng Nghymru. Yn fras, cytundebau rhwng Gweinidogion Cymru a pherchenogion henebion cofrestredig yw cytundebau partneriaeth dreftadaeth y caniateir iddynt roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer rhaglen o waith, gan gael gwared ar yr angen i wneud cais am gydsyniad ar wahân ar gyfer pob cyfres o waith.

9ZA Cytundeb partneriaeth dreftadaeth

59.Mae adran 9ZA(1) yn nodi bod rhaid i’r partïon i gytundeb gynnwys Gweinidogion Cymru a pherchennog heneb gofrestredig neu dir sy’n cydffinio â heneb gofrestredig neu dir sydd yng nghyffiniau heneb gofrestredig. Mae adran 9ZA(2) yn caniatáu i bersonau ychwanegol fod yn bartïon i gytundeb, gan gynnwys unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr ased, megis grŵp cymunedol, neu unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r ased, megis rheolwr safle.

60.Caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith penodedig at ddiben:

61.Caiff cytundeb hefyd bennu unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad hwnnw.

62.Ni chaiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb gofrestredig neu wneud unrhyw ddifrod iddi (adran 2(2)(a) o Ddeddf 1979) nac ychwaith ar gyfer unrhyw lifogydd neu weithrediadau tipio ar y tir, yn y tir neu o dan y tir lle y mae heneb gofrestredig (adran 2(2)(c) o Ddeddf 1979).

63.Mae adran 9ZA(4) yn nodi’r ystod o faterion ychwanegol y caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth wneud darpariaeth ar eu cyfer, gan gynnwys y fanyleb o waith y mae’r partïon yn cytuno na fyddai cydsyniad heneb gofrestredig yn ofynnol ar ei gyfer.

64.Mae adran 9ZA(6) a (7) yn diffinio perchennog (“owner”) at ddiben cytundebau partneriaeth dreftadaeth ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb ag unrhyw un neu ragor o berchenogion heneb gofrestredig sydd o dan amlberchenogaeth, heb orfod ymrwymo i gytundeb â phob un o’r perchenogion hynny.

9ZB Cytundeb partneriaeth dreftadaeth: atodol

65.Mae adran newydd 9ZB yn gwneud darpariaeth atodol mewn perthynas â chytundebau partneriaeth dreftadaeth. Mae adran 9ZB(1) yn pennu bod rhaid i gytundebau o’r fath fod yn ysgrifenedig a rhaid iddynt wneud darpariaeth ar gyfer adolygu, terfynu ac amrywio’r cytundebau gan y partïon.

66.Mae adran 9ZB(2) yn ei gwneud yn glir y gall mwy nag un heneb gofrestredig fod yn destun cytundeb, ar yr amod bod Gweinidogion Cymru a’r perchennog yn bartïon i’r cytundeb ym mhob achos.

67.Mae adran 9ZB(3) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer: yr ymgynghori a’r cyhoeddusrwydd y mae eu hangen ar gyfer creu neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth; telerau y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth; a therfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth ohono.

68.Mae adran 9ZB(4) a (5) yn pennu’r personau y mae rhaid ymgynghori â hwy o dan y trefniadau ymgynghori ar gyfer creu neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth. Mae’r trefniadau ymgynghori yn wahanol ar gyfer cytundeb partneriaeth dreftadaeth sy’n cynnwys heneb gofrestredig ac ar gyfer cytundeb partneriaeth dreftadaeth sy’n cynnwys tir sy’n cydffinio â heneb gofrestredig neu dir sydd yng nghyffiniau heneb gofrestredig.

69.Mae adran 9ZB(6) yn darparu y gall y rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n galluogi i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gael ei therfynu drwy orchymyn gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

70.Mae adran 9ZB(7) yn caniatáu i’r rheoliadau ddatgymhwyso, cymhwyso neu atgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaethau o Ddeddf 1979 at ddiben cytundebau partneriaeth dreftadaeth.

71.Mae adran 9ZB(8) yn darparu na fydd cytundebau partneriaeth dreftadaeth ond yn rhwymo’r partïon i’r cytundebau hynny. Ni fydd perchenogion yr heneb gofrestredig yn y dyfodol yn cael eu rhwymo gan gytundeb partneriaeth dreftadaeth, nac ychwaith yn gallu manteisio ar unrhyw gydsyniad heneb gofrestredig a roddir gan y cytundeb.

Adran 12 – Hysbysiadau gorfodi

72.Mae adran 12 yn mewnosod adrannau newydd 9ZC i 9ZH yn Neddf 1979, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi hysbysiadau gorfodi heneb gofrestredig.

9ZC Hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig

73.Mae adran 9ZC(1) a (2) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiadau gorfodi mewn cysylltiad â gwaith anawdurdodedig sydd wedi ei wneud, neu sy’n cael ei wneud, i heneb gofrestredig neu ar dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano. Wrth ystyried pa un ai i ddyroddi hysbysiad gorfodi, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i effeithiau’r gwaith ar yr heneb sydd o bwys cenedlaethol.

74.Mae adran 9ZC(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gorfodi bennu’r toriad honedig a’r gwaith sydd i ddod i ben a/neu’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol eu bod yn cael eu cymryd. Gall y camau hyn fod yn gamau i adfer yr heneb i’w chyflwr blaenorol neu’r tir i’w gyflwr blaenorol. Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r gwaith o adfer yr heneb i’w chyflwr blaenorol neu’r tir i’w gyflwr blaenorol yn ymarferol neu’n ddymunol, caiff yr hysbysiad gorfodi bennu’r camau sy’n ofynnol i leddfu effaith y gwaith anawdurdodedig. Os rhoddwyd caniatâd heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith, caiff hysbysiad gorfodi hefyd bennu’r camau sy’n ofynnol er mwyn sicrhau yr adferir yr heneb, neu’r tir, i’r cyflwr y byddai’r heneb neu’r tir wedi bod ynddo pe bai’r gwaith wedi cydymffurfio ag amodau’r cydsyniad heneb gofrestredig.

75.Rhaid i’r hysbysiad gorfodi hefyd nodi’r cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith ddod i ben ynddo a’r cyfnod ar gyfer cymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad. O ystyried y gall fod angen gwneud ystod o waith sy’n amrywio o ran pa mor frys ydyw, mae adran 9ZC(6) yn caniatáu i’r hysbysiad bennu cyfnodau cydymffurfio gwahanol ar gyfer gwaith neu gamau gwahanol. Er enghraifft, caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i ymchwiliad archaeolegol gael ei gynnal ar unwaith gydag adroddiad yn dilyn.

9ZD Hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig: darpariaeth atodol

76.Mae adran 9ZD(1) yn pennu i bwy y mae rhaid cyflwyno copi o’r hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig. Mae adran 56 o Ddeddf 1979 (cyflwyno dogfennau) yn gymwys i gyflwyno’r hysbysiad.

77.Mae adran 9ZD(2) yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad gorfodi yn ôl a dyroddi un arall, os bydd angen. Mae adran 9ZD(3) hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r gofynion a osodir gan hysbysiad gorfodi, er enghraifft drwy estyn y dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio. Fodd bynnag, ni all Gweinidogion Cymru ddiwygio hysbysiad gorfodi er mwyn gosod gofynion mwy beichus; os ydynt yn dymuno gosod gofynion o’r fath, bydd angen iddynt dynnu’r hysbysiad yn ôl a dyroddi hysbysiad newydd.

78.Mae adran 9ZD(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o hysbysiadau gorfodi sydd wedi eu dyroddi ac sy’n parhau i fod mewn effaith, ynghyd â darparu copi o hysbysiad ar gais.

9ZE Hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig: apêl

79.Mae’r adran hon yn nodi’r broses a’r seiliau ar gyfer apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi. Caiff person y mae hysbysiad gorfodi wedi ei gyflwyno iddo o dan adran 9ZD(1), neu unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir o dan sylw, herio’r hysbysiad drwy apelio i lys ynadon. Mae’r seiliau dros apelio wedi eu nodi yn adran 9ZE(3).

80.Rhaid gwneud yr apêl cyn y dyddiad y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith o dan adran 9ZC(3)(a). Unwaith y bydd apêl wedi ei chyflwyno, nid oes gan yr hysbysiad gorfodi unrhyw effaith hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl neu hyd nes y penderfynir arni’n derfynol.

81.Mae adran 9ZE(6) yn caniatáu i hysbysiad gorfodi gael ei gadarnhau hyd yn oed os nad yw wedi ei gyflwyno yn unol ag adran 9ZD, ar yr amod nad yw’r methiant wedi cael effaith andwyol sylweddol ar unrhyw un a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir.

9ZF Hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig: pŵer mynediad

82.Mae adran 9ZF(1) yn rhoi pŵer i berson a awdurdodir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru: i gael mynediad i dir ar adeg resymol i ganfod a ddylid cyflwyno hysbysiad gorfodi; i osod hysbysiad gorfodi ar yr heneb neu ar ryw wrthrych ar safle’r heneb neu ar y tir (os na ellir dod o hyd i fan preswylio hysbys arferol neu ddiwethaf y perchennog neu’r meddiannydd); ac i ganfod a gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi.

83.Mae adran 9ZF(2) yn caniatáu i berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru gael mynediad i’r tir ar adeg resymol i ymgymryd ag unrhyw waith sy’n ofynnol gan yr hysbysiad os na wnaed y gwaith o fewn y cyfnod ar gyfer cydymffurfio a nodir yn yr hysbysiad. Mae hefyd yn darparu ar gyfer adennill treuliau yr aed iddynt wrth wneud gwaith o’r fath oddi wrth berchennog neu lesddeiliad yr heneb neu’r tir.

84.Mae adran 9ZF(3) yn cyfyngu ar adennill costau oddi wrth berchenogion sy’n cael rhent fel ymddiriedolwr i berson arall i’r swm o arian sydd gan yr ymddiriedolwr neu y mae wedi ei gael yn ei ddwylo ar ran y buddiolwr.

85.Os yw meddiannydd heneb yn atal perchennog rhag ymgymryd â’r gwaith sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, mae adran 9ZF(4) yn caniatáu i’r perchennog wneud cais i lys ynadon am warant sy’n ei awdurdodi i gael mynediad i’r tir a chyflawni’r gwaith.

9ZG Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig

86.Mae adran 9ZG yn darparu, pan na chydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi o fewn y cyfnod a bennir, fod perchennog yr heneb neu’r tir wedi torri’r hysbysiad ac yn euog o drosedd. Caniateir i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gorfodi os yw’n parhau i dorri’r hysbysiad.

87.Mae adran 9ZG(5) a (6) yn nodi’r amddiffyniadau ar gyfer y drosedd, ac mae adran 9ZG(7) yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosbau ariannol ar euogfarn ddiannod neu ar euogfarn ar dditiad. Mae adran 9ZG(8) yn datgan bod y llysoedd i roi sylw i unrhyw fudd ariannol y gall y person a euogfarnwyd fod wedi ei gael neu’n debygol o’i gael o ganlyniad i’r drosedd wrth benderfynu ar swm unrhyw ddirwy sydd i gael ei gosod.

9ZH Effaith cydsyniad heneb gofrestredig ar hysbysiad

88.Mae adran 9ZH yn gymwys pan fo hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig wedi ei ddyroddi, ac yna rhoddir cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran newydd 2(3A) o Ddeddf 1979 ar gyfer cadw’r gwaith (gweler adran 6 uchod). O dan yr amgylchiadau hynny, ni fydd yr hysbysiad gorfodi bellach yn cael effaith i’r graddau y mae’n ei gwneud yn ofynnol: i waith o’r fath ddod i ben; i gamau gael eu cymryd pan nad yw’r gwaith a wnaed yn cael ei gadw; neu i gamau gael eu cymryd i gydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth gydsyniad heneb gofrestredig blaenorol.

89.Mae adran 12(2) yn diwygio is-adran 3 o adran 46 o Ddeddf 1979, sy’n darparu ar gyfer digollediad am ddifrod sy’n deillio o arfer pwerau penodol o dan y Ddeddf, fel y bydd yn gymwys mewn achosion o ddifrod sy’n deillio o arfer y pŵer mynediad newydd a roddir gan adran 9ZF.

Adran 13 – Hysbysiadau stop dros dro

90.Mae adran 13 yn mewnosod adrannau newydd 9ZI i 9ZL yn Neddf 1979 er mwyn caniatáu i hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi pan fo’n ymddangos bod gwaith anawdurdodedig wedi ei wneud neu’n cael ei wneud i henebion cofrestredig.

91.Bydd hysbysiad stop dros dro yn caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i waith anawdurdodedig ddod i ben ar unwaith cyn i heneb gofrestredig gael ei dinistrio neu ei difrodi ymhellach. Bydd hefyd yn darparu cyfnod o amser er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru asesu’r sefyllfa a rhoi trefniadau yn eu lle ar gyfer datrys y mater yn anffurfiol, gorfodi neu erlyn.

9ZI Hysbysiad stop dros dro

92.Mae adran 9ZI(1) a (2) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros dro. Caniateir i hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi pan fydd unrhyw waith wedi ei wneud, neu’n cael ei wneud, i heneb gofrestredig neu ar dir y mae heneb arno, ynddo neu odano, os ymddengys i Weinidogion Cymru nad yw’r gwaith wedi ei awdurdodi neu fod y gwaith yn methu â chydymffurfio ag amod sydd ynghlwm wrth gydsyniad heneb gofrestredig a bod Gweinidogion Cymru o’r farn bod rhoi terfyn ar y gwaith ar unwaith yn hwylus, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb sydd o bwys cenedlaethol.

93.Mae adran 9ZI(3) yn datgan bod rhaid i hysbysiad stop dros dro: bod yn ysgrifenedig, pennu’r gwaith sydd i ddod i ben, esbonio pam y dyroddwyd yr hysbysiad, a datgan bod torri’r hysbysiad yn drosedd.

94.Mae adran 9ZI(4) a (5) yn nodi’r trefniadau ar gyfer dwyn hysbysiad stop dros dro i sylw’r cyhoedd. Rhaid iddo gael ei arddangos ar yr heneb, neu gerllaw’r heneb pe gallai arddangos yr hysbysiad ar yr heneb achosi difrod i’r heneb a phennu’r dyddiad y caiff yr hysbysiad ei arddangos am y tro cyntaf. Mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith ar y dyddiad hwnnw. Yn ogystal, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno’r hysbysiad stop dros dro i unrhyw berson sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn gwneud y gwaith neu’n peri i’r gwaith gael ei wneud, neu i unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir. Mae adran 56 o Ddeddf 1979 (cyflwyno dogfennau) yn gymwys i gyflwyno’r hysbysiad.

95.Mae adran 9ZI(7) yn datgan bod yr hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith ar ôl cyfnod o 28 o ddiwrnodau, neu unrhyw gyfnod byrrach a bennir yn yr hysbysiad. Mae adran 9ZI(8) yn caniatáu i Weinidogion Cymru dynnu’r hysbysiad stop dros dro yn ôl cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau (neu unrhyw gyfnod byrrach a bennir). Mae adran 9ZI(9) yn gwahardd dyroddi hysbysiad stop dros dro arall mewn perthynas â’r un gwaith oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi cymryd rhyw gamau gorfodi eraill mewn perthynas â thorri’r hysbysiad, megis cyflwyno hysbysiad gorfodi neu gael gwaharddeb o dan adran 9ZM.

9ZJ Hysbysiad stop dros dro: pŵer mynediad

96.Mae adran 9ZJ yn caniatáu i Weinidogion Cymru awdurdodi person yn ysgrifenedig i gael mynediad i dir i ganfod a ddylid cyflwyno hysbysiad stop dros dro, i arddangos hysbysiad, i benderfynu a gydymffurfiwyd â hysbysiad, ac i ystyried hawliad am ddigollediad. Dim ond ar adeg resymol y caiff person awdurdodedig gael mynediad i’r tir ac nid oes angen caniatâd penodol y perchennog i wneud hynny.

9ZK Hysbysiad stop dros dro: trosedd

97.Mae adran 9ZK(1) a (2) yn nodi’r amgylchiadau pan fydd person yn euog o drosedd am dorri hysbysiad stop dros dro ac yn caniatáu i berson gael ei euogfarnu o droseddau gwahanol drwy gyfeirio at ddiwrnodau neu gyfnodau gwahanol. Felly, bydd yn bosibl i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â hysbysiad stop dros dro os ceir sawl achos o dorri’r hysbysiad.

98.Mae adran 9ZK(3) a (4) yn nodi’r amddiffyniadau i drosedd o dan yr adran hon.

99.Mae adran 9ZK(5) yn darparu mai’r gosb am y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro yw dirwy ddiderfyn. Gan fod difrodi heneb yn fwriadol yn gallu cael ei ysgogi gan y posibilrwydd o gael mantais ariannol, mae’r llysoedd i roi sylw i unrhyw fudd ariannol y gall y person a euogfarnir fod wedi ei gael neu’n debygol o’i gael o ganlyniad i’r drosedd wrth benderfynu ar swm unrhyw ddirwy sydd i gael ei gosod.

9ZL Hysbysiad stop dros dro: digollediad

100.Mae adran 9ZL(1) a (2) yn nodi’r hawl i ddigollediad mewn cysylltiad ag unrhyw golled neu ddifrod y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i effaith hysbysiad stop dros dro. Dim ond o dan amgylchiadau penodol y mae digollediad ar gael. Caniateir ei hawlio os nad yw’r gwaith a bennir mewn hysbysiad stop dros dro yn mynd yn groes i is-adrannau (1) neu (6) o adran 2 o Ddeddf 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig) oherwydd nad yw cydsyniad heneb gofrestredig yn ofynnol neu oherwydd bod cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei roi ar y dyddiad, neu cyn y dyddiad, y caiff yr hysbysiad ei arddangos am y tro cyntaf. Caniateir iddo hefyd gael ei hawlio os yw Gweinidogion Cymru yn tynnu’r hysbysiad stop dros dro yn ôl ac eithrio ar ôl rhoi cydsyniad heneb gofrestredig sy’n awdurdodi’r gwaith, oherwydd, er enghraifft, y canfyddir nad oedd y gwaith wedi ei awdurdodi ac na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei arddangos.

101.Mae adran 9ZL(4) yn pennu na fydd unrhyw ddigollediad yn daladwy am golled neu ddifrod os oedd yn ofynnol i’r hawlydd ddarparu gwybodaeth ynghylch perchenogaeth buddiannau yn y tir o dan sylw o dan adran 57 o Ddeddf 1979 a gellid bod wedi osgoi’r golled neu’r difrod pe bai’r hawlydd wedi darparu’r wybodaeth honno neu pe bai wedi cydweithredu fel arall â Gweinidogion Cymru wrth ymateb i’r hysbysiad stop dros dro.

102.Mae adran 13(2) yn cymhwyso adran 27 o Ddeddf 1979, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch digollediad sy’n daladwy mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n cynnwys dibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir, i’r digollediad sy’n daladwy o dan adran 9ZL am golled neu ddifrod y gellir ei briodoli i effaith hysbysiad stop dros dro.

103.Mae adran 13(3) yn diwygio adran 44 o Ddeddf 1979, sy’n cynnwys darpariaethau atodol mewn cysylltiad â phwerau mynediad, er mwyn dileu’r gofyniad i roi rhybudd o 24 awr cyn defnyddio’r pŵer mynediad i ganfod a ddylid cyflwyno hysbysiad stop dros dro, i arddangos hysbysiad neu i ganfod a gydymffurfiwyd â hysbysiad.

104.Mae adran 13(4) yn diwygio is-adran (3) o adran 46 o Ddeddf 1979, sy’n darparu ar gyfer digollediad am ddifrod sy’n deillio o arfer pwerau penodol o dan y Ddeddf, fel y bydd yn gymwys mewn achosion o ddifrod sy’n deillio o arfer y pŵer mynediad newydd a roddir gan adran 9ZJ.

105.Mae adran 13(5) yn cymhwyso adran 51 o Ddeddf 1979 (eiddo eglwysig) i unrhyw ddigollediad a delir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop dros dro sy’n ymwneud â heneb gofrestredig ar dir sy’n eiddo eglwysig.

Adran 14 – Gwaharddebau

106.Mae adran 14 yn mewnosod adran newydd 9ZM yn Neddf 1979, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu i’r llys sirol am waharddeb os ydynt o’r farn ei bod yn briodol neu’n hwylus atal toriad gwirioneddol neu doriad dealledig o is-adrannau (1) neu (6) o adran 2 o Ddeddf 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig).

Adran 15 – Rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig

107.Mae adran 15 yn mewnosod adran newydd 2(8A) yn Neddf 1979 i addasu un o’r amddiffyniadau i’r drosedd o wneud gwaith anawdurdodedig i heneb gofrestredig.

108.Mae adran 2 o Ddeddf 1979 yn darparu ar gyfer rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig drwy ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad heneb gofrestredig a chefnogir hynny, yn is-adrannau (1) a (6), gan droseddau. O dan adran 2(8), mae’n amddiffyniad i rai o’r troseddau hynny i’r cyhuddedig brofi, yn ôl pwysau tebygolrwydd, nad oedd yn gwybod ac nad oedd ganddo reswm dros gredu bod yr heneb yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni, neu fod yr heneb wedi ei chofrestru.

109.Mae adran 15 yn datgymhwyso amddiffyniad adran 2(8) o ran Cymru ac yn rhoi yn ei le yr amddiffyniad newydd yn adran 2(8A). Mae’r amddiffyniad newydd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gyhuddo o wneud gwaith anawdurdodedig, neu achosi neu ganiatáu gwaith o’r fath, mewn perthynas â heneb gofrestredig yng Nghymru brofi, hefyd, iddo gymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd heneb gofrestredig yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni. Gallai camau o’r fath gynnwys, er enghraifft, edrych ar wybodaeth sydd ar gael ar-lein ar gyfer y cyhoedd gan Cadw ynghylch lleoliad a rhychwant heneb gofrestredig.

Adran 16 – Difrodi henebion hynafol penodol

110.Mae adran 16 yn diwygio adran 28 o Ddeddf 1979 (y drosedd o ddifrodi henebion hynafol penodol) drwy fewnosod is-adran newydd (1A), sy’n addasu’r drosedd o ddinistrio neu ddifrodi heneb warchodedig. Mae heneb warchodedig (“protected monument”):

i.

yn heneb gofrestredig, neu

ii.

yn heneb o dan berchenogaeth neu warchodaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd Deddf 1979.

111.O dan adran 28(1), mae person sy’n dinistrio neu’n difrodi unrhyw heneb warchodedig heb esgus cyfreithlon, gan wybod ei bod yn heneb warchodedig ac sy’n bwriadu dinistrio neu ddifrodi’r heneb, neu sy’n ddi-hid o ran a fyddai’r heneb yn cael ei dinistrio neu ei difrodi, yn euog o drosedd. Ni fydd person yn troseddu os nad oedd yn gwybod bod yr heneb yn heneb warchodedig.

112.Mae adran 16 yn datgymhwyso trosedd adran 28(1) o ran Cymru ac yn rhoi yn ei lle y drosedd newydd yn adran 28(1A). O dan y drosedd newydd, mae person sy’n dinistrio neu’n difrodi heneb warchodedig heb esgus cyfreithlon yn euog o drosedd os oedd y person yn gwybod neu os yw’n rhesymol y dylai’r person fod wedi gwybod bod yr heneb yn heneb warchodedig ac yn bwriadu difrodi’r heneb neu’n ddi-hid o ran a fyddai’r heneb yn cael ei difrodi neu ei dinistrio.

Adran 17 – Cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel

113.O dan adran 42 o Ddeddf 1979 (cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel) mae’n drosedd i ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yng Nghymru heb gydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru. Mae man gwarchodedig (“protected place”) yn fan:

i.

sy’n safle heneb gofrestredig neu heneb sydd o dan berchenogaeth neu warchodaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd Deddf 1979, neu

ii.

sydd mewn ardal o bwys archaeolegol.

114.O dan adran 42(7), mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig brofi ei fod wedi cymryd yr holl ragofalon rhesymol i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig a’i fod yn credu nad oedd y man hwnnw yn fan gwarchodedig. Mae’r amddiffyniad hwn yn gosod cyfrifoldeb ar y cyhuddedig i ddangos bod y rhagofalon priodol wedi eu cymryd, ond nid yw’n profi a oedd cred y cyhuddedig, sef nad oedd y safle yn safle gwarchodedig, yn gred resymol.

115.Mae adran 17 yn datgymhwyso amddiffyniad adran 42(7) o ran Cymru ac yn rhoi yn ei le yr amddiffyniad newydd yn adran 42(8), sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyhuddedig brofi bod pob cam rhesymol wedi ei gymryd i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig, ac nad oedd yn gwybod bod y man yn fan gwarchodedig, ac nad oedd reswm ganddo dros gredu hynny.

Adran 18 – Cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol

116.Mae adran 18(1) yn mewnosod adran newydd 41A yn Rhan 3 o Ddeddf 1979, sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Mae’r gofrestr hon yn cymryd lle’r gofrestr anstatudol o barciau a gerddi hanesyddol a luniwyd o’r blaen gan Lywodraeth Cymru.

41A Cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru

117.Mae’r diffiniad o barciau a gerddi hanesyddol wedi ei gynnwys yn adran 41A(1) a (2). Mae’n cynnwys parciau, gerddi, tirweddau addurnol sydd wedi eu dylunio, mannau hamdden a thiroedd eraill sydd wedi eu dylunio, a allai gynnwys, er enghraifft, mynwentydd. Wrth nodi parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gynnwys tir sy’n gyfagos i’r tiroedd sy’n cael eu cofrestru neu’n gyffiniol â hwy, neu unrhyw adeilad neu ddŵr ar y tiroedd hynny neu’n gyfagos iddynt neu’n gyffiniol â hwy. Bydd hyn yn caniatáu i farn broffesiynol gael ei harfer wrth ddiffinio’r ffin sydd fwyaf rhesymegol. Er enghraifft, gellid cynnwys mewn cofnod yn y gofrestr fynedfa eang a chrand i dramwyfa, sydd y tu allan i furiau ystad ond sy’n amlwg yn rhan o’r dyluniad. Fel arall, gellid eithrio bloc o stablau neu dŷ gwydr modern o gofnod.

118.Mae adran 41A(3) a (4) yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i ychwanegu, dileu neu ddiwygio cofnodion yn y gofrestr, ond wrth wneud hynny rhaid iddynt hysbysu’r perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod lleol neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol. Mae adran 56 o Ddeddf 1979 (cyflwyno dogfennau) yn gymwys i unrhyw hysbysiad o dan is-adran (4).

119.Mae adran 41A(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr gyfredol. Cefnogir y gofrestr gan gofnod ar-lein ar gyfer y cyhoedd sy’n seiliedig ar fapiau, lle y caiff yr holl asedau hanesyddol sydd wedi eu dynodi a’u cofrestru’n genedlaethol eu dangos.

120.Mae adran 18(2) yn diwygio adran 50 o Ddeddf 1979 (cymhwyso i dir y Goron) er mwyn caniatáu i barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig ar dir y Goron gael eu cynnwys ar y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru.

Adran 19 – Tir y credir bod heneb hynafol arno: pŵer mynediad

121.Mae adran 19 yn mewnosod adran newydd 26(4) yn Neddf 1979 er mwyn llacio’r gofyniad ar berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gael cydsyniad cyn arfer y pŵer mynediad i gynnal cloddiadau.

122.Mae adran 26(1) o Ddeddf 1979 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i awdurdodi mynediad i unrhyw dir lle y maent yn gwybod, neu y mae ganddynt reswm dros gredu, fod heneb hynafol (a all fod, ond nid oes rhaid iddi fod, yn heneb gofrestredig) at ddiben arolygu’r tir i gofnodi materion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol. Mae adran 26(2) yn caniatáu i berson sy’n arfer y pŵer mynediad i gynnal cloddiadau yn y tir at ddibenion ymchwiliad archaeolegol. Ond mae’r pŵer i gynnal cloddiadau wedi ei gyfyngu yn adran 26(3) gan y gofyniad i gael cydsyniad y perchennog cyn unrhyw gloddiad.

123.Mae adran newydd 26(4) yn cyfyngu ar gymhwysiad adran 26(3) ac yn galluogi person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gael mynediad i dir i ymgymryd â chloddiadau archaeolegol heb gydsyniad y tirfeddiannwr os gwyddys, neu os credir, bod heneb hynafol mewn perygl o ddifrod neu ddinistr sydd ar fin digwydd. Gallai amgylchiadau o’r fath godi o ganlyniad i waith anawdurdodedig, neu ddifrod naturiol, er enghraifft, difrod a achosir gan erydiad arfordirol sy’n datguddio olion archaeolegol neu’n eu gwneud yn fregus.

Adran 20 – Henebion mewn dyfroedd tiriogaethol

124.Mae adran 20 yn diwygio adran 53 o Ddeddf 1979 (henebion mewn dyfroedd tiriogaethol) i egluro’r amgylchiadau pan fydd heneb mewn dyfroedd tiriogaethol i gael ei thrin fel pe bai yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf. Mae is-adran newydd (2B) yn datgan nad yw heneb mewn dyfroedd tiriogaethol i gael ei thrin fel pe bai yng Nghymru oni bai ei bod yng Nghymru fel y diffinnir “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r diffiniad hwn o Gymru yn cynnwys y môr sy’n gyfagos i Gymru mor bell â ffin tua’r môr y môr tiriogaethol.

Adran 21 – Cyflwyno dogfennau drwy gyfathrebiadau electronig

125.Mae adran 56 o Ddeddf 1979 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno dogfen drwy:

126.Mae adran 21 yn diwygio adran 56 o Ddeddf 1979 drwy wneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig.

127.Mae adran 21(1) yn mewnosod adran newydd 56(1)(ca) yn Neddf 1979, sy’n caniatáu i unrhyw ddogfennau neu hysbysiadau o dan y Ddeddf gael eu cyflwyno drwy ddulliau electronig o dan amgylchiadau penodedig.

128.Mae adran 21(2) yn mewnosod adran newydd 56(1A) yn Neddf 1979, sy’n nodi gofynion penodol y mae rhaid i ddogfennau a gyflwynir yn electronig gydymffurfio â hwy.

Adran 22 – Ystyr “monument” yn Neddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979

129.Mae adran 22 yn diwygio’r diffiniad o heneb (“monument”) yn is-adran (7) o adran 61 o Ddeddf 1979 (dehongli) er mwyn cynnwys safleoedd sy’n darparu tystiolaeth o weithgarwch dynol yn y gorffennol ond lle nad oes adeileddau neu waith.

130.Nid yw llawer o’r safleoedd archaeolegol pwysig yng Nghymru, yn enwedig y rhai hynny o gyfnodau Palaeolithig a Mesolithig pell, yn cynnwys dim byd mwy na gwasgariad arteffactau neu olion disylwedd eraill o weithgarwch dynol.

131.Bydd adran newydd 61(7)(d) yn galluogi i safleoedd o bwys cenedlaethol sy’n darparu tystiolaeth o weithgarwch dynol yn y gorffennol gael eu dynodi’n henebion cofrestredig gan Weinidogion Cymru.

132.Mae adran 22(3) yn cymhwyso diffiniad Deddf Llywodraeth Cymru 2006 o Gymru (“Wales”) i ganiatáu cofrestru safleoedd lle nad oes adeileddau sydd mor bell â ffin tua’r môr y môr tiriogaethol.

Rhan 3: Adeiladau Rhestredig

Adran 23 – Trosolwg o’r Rhan hon

133.Mae adran 23 yn darparu trosolwg o’r darpariaethau yn y Rhan hon o’r Ddeddf sy’n gwneud diwygiadau i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”).

Adran 24 – Diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru adeiladau

134.Mae adran 24 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf 1990 sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar newidiadau penodol i restrau, i wneud trefniadau ar gyfer gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniadau o ran pa un ai i restru adeiladau, ac i ddarparu ar gyfer yr adolygiad o benderfyniadau rhestru penodol.

135.Mae adran 1 o Ddeddf 1990 yn rhoi Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i lunio rhestr o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

136.Mae adran 24(1) yn mewnosod adrannau newydd 2A i 2D yn Neddf 1990 i wneud darpariaeth ynghylch y camau y mae rhaid eu cymryd mewn cysylltiad â rhestru adeiladau.

2A Dyletswydd i ymgynghori ar newidiadau penodol i restrau

137.Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cynnwys adeilad ar y rhestr neu ddileu adeilad o’r rhestr, mae adran newydd 2A yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori â’r personau priodol, gan gynnwys perchennog a meddiannydd yr adeilad, fel y’u rhestrir yn is-adran (3). Mae adran 2A(5) yn darparu pwerau gwneud rheoliadau i ganiatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu personau priodol pellach at y rhestr yn is-adran (3) a gwneud unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i’r Ddeddf a all fod yn angenrheidiol o ganlyniad i hynny.

138.Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau priodol drwy gyflwyno hysbysiad iddynt. Rhaid i’r hysbysiad roi o leiaf 28 o ddiwrnodau i’r personau priodol ymateb. Os cynnwys adeilad yn y rhestr yw’r cynnig, rhaid i’r hysbysiad esbonio bod gwarchodaeth interim yn gymwys i’r adeilad hyd nes yr hysbysir fel arall ac y bydd unrhyw waith anawdurdodedig a wneir i’r adeilad yn y cyfamser yn drosedd.

139.Mae adran 329 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (cyflwyno hysbysiadau) yn gymwys (yn rhinwedd adran 89 o Ddeddf 1990) i gyflwyno hysbysiadau o dan adran newydd 2A.

2B Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniadau rhestru penodol

140.Mae adran newydd 2B yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi gwarchodaeth interim i adeiladau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cynnwys yn y rhestr o dan adran 1 o Ddeddf 1990.

141.Mae adran 2B(2) yn nodi bod gwarchodaeth interim yn gymwys o ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad a gyflwynir o dan adran 2A, a bod holl ddarpariaethau Deddf 1990 (ac eithrio adrannau 47 i 51 a 59 — darpariaethau sy’n ymwneud â chaffael adeiladau rhestredig yn orfodol a gweithredoedd penodol sy’n achosi difrod i adeiladau rhestredig neu sy’n debygol o arwain at ddifrod i adeiladau rhestredig) yn cael effaith o’r dyddiad hwnnw fel pe bai’r adeilad yn adeilad rhestredig.

142.Mae adran 2B(4) yn gwneud darpariaeth ar gyfer dod â’r warchodaeth interim i ben yn dilyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru i restru’r adeilad neu i beidio â rhestru’r adeilad.

143.Mae adran 2B(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’n electronig restr o’r holl adeiladau y rhoddwyd gwarchodaeth interim iddynt, a darparu copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 2A ar gais.

2C Darpariaethau sy’n gymwys ar ddarfodiad gwarchodaeth interim

144.Mae adran newydd 2C yn cyflwyno Atodlen 1A i Ddeddf 1990. Mae’r Atodlen yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn peidio â chael effaith o ganlyniad i benderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â rhestru adeilad.

2D Adolygu penderfyniadau rhestru penodol

145.Mae adran newydd 2D yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau rhestru penodol.

146.Mae adran 2D yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnwys adeilad ar y rhestr. Mae adran 2D(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i berchennog a meddiannydd yr adeilad sy’n eu hysbysu bod yr adeilad wedi ei gynnwys yn y rhestr ac y caniateir iddynt wneud cais i Weinidogion Cymru gan ofyn iddynt adolygu eu penderfyniad.

147.Mae adran 2D(3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad os gofynnir iddynt wneud hynny, a gwneud penderfyniad ynghylch yr adolygiad. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddiwygio’r rhestr os yw’n angenrheidiol iddynt wneud hynny er mwyn rhoi effaith i’r penderfyniad terfynol.

148.Mae adran 2D(4) yn gwahardd unrhyw her gyfreithiol i ddilysrwydd penderfyniad a wneir ynghylch adolygiad, oni bai bod yr her wedi ei dwyn drwy achos yn yr Uchel Lys o dan adrannau 62 a 63 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd offerynnau, penderfyniadau ac achosion). Ni chaiff y penderfyniad ond gael ei herio o dan adrannau 62 a 63 ar y sail nad oedd y penderfyniad o fewn pwerau’r Ddeddf, neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad.

149.Mae adran 2D(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal yr adolygiad drwy ymchwiliad lleol, gwrandawiad neu sylwadau ysgrifenedig. Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu pa weithdrefn sydd fwyaf priodol.

150.Mae adran 2D(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch: y seiliau y caniateir gwneud cais am adolygiad arnynt, ffurf a dull cais o’r fath, yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu mewn cysylltiad â chais, a’r cyfnod y mae rhaid gwneud cais ynddo.

151.Mae adran 2D(7) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar faterion gweithdrefnol eraill sy’n ymwneud ag adolygiadau.

152.Mae adran 2D(8) yn cyflwyno Atodlen 1B i Ddeddf 1990 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru benodi person i wneud penderfyniadau ynghylch adolygiadau.

153.Mae adran 24(2) yn mewnosod is-adran newydd (3A) yn adran 9 o Ddeddf 1990 (troseddau). Mae’r is-adran newydd hon yn darparu amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o wneud gwaith anawdurdodedig i adeilad y rhoddwyd gwarchodaeth interim iddo. Mae’r amddiffyniad yn gymwys pan fo’r person yn gallu profi nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, fod gwarchodaeth interim wedi ei rhoi i’r adeilad. Os codir amddiffyniad o’r fath gan berson y dylai hysbysiad fod wedi ei gyflwyno iddo o dan adran 2A(2), bydd rhaid i’r erlyniad brofi bod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno.

154.Mae adran 24(3) yn mewnosod adran newydd 28B yn Neddf 1990 sy’n gwneud darpariaeth am ddigollediad ar gyfer colled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chynnwys adeilad ar y rhestr.

Adran 25 – Diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru dros dro

155.Mae adran 25 yn mewnosod adran newydd 3A yn Neddf 1990 i ddarparu gwarchodaeth interim i adeiladau sydd heb eu rhestru mewn modd sy’n ystyried y ddarpariaeth newydd ar gyfer gwarchodaeth interim y mae’r Ddeddf hon yn ei mewnosod yn Neddf 1990.

156.Mae is-adran (1) yn cyfyngu ar gymhwysiad adran 3 o Ddeddf 1990 (rhestru dros dro: hysbysiadau diogelu adeiladau) i Loegr yn unig.

157.Mae is-adran (3) yn mewnosod adran newydd 3A yn Neddf 1990. Mae’r adran newydd hon yn gymwys i adeiladau yng Nghymru.

158.Mae adran 3A(1) yn datgan os yw awdurdod cynllunio lleol yn credu bod adeilad a all haeddu gael ei restru oherwydd ei ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig mewn perygl sydd ar fin digwydd o gael ei ddinistrio neu ei newid mewn modd sy’n bygwth ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb, caiff gyflwyno hysbysiad diogelu adeilad. Mae adran 3A(3) yn pennu bod hysbysiad diogelu adeilad yn cymryd effaith cyn gynted ag y caiff ei gyflwyno i’r perchennog a’r meddiannydd a’i fod yn parhau mewn grym am hyd at chwe mis, yn ddarostyngedig i adran 3A(4).

159.Mae adran 3A(4) yn darparu y bydd hysbysiad diogelu adeilad yn peidio â chael effaith os yw Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad ymgynghori o dan adran 2A(2) sy’n sbarduno gwarchodaeth interim neu os ydynt yn hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig nad ydynt yn bwriadu ymgynghori o dan adran newydd 2A ar gynnig i gynnwys yr adeilad mewn rhestr.

160.Mae adran 3A(5) yn pennu, tra bo’r hysbysiad diogelu adeilad mewn grym, fod y darpariaethau yn Neddf 1990, ac eithrio adrannau 47 i 51 ac adran 59 (caffael yn orfodol adeiladau rhestredig y mae angen eu hatgyweirio a gweithredoedd penodol sy’n achosi difrod i adeiladau rhestredig neu sy’n debygol o arwain at ddifrod i adeiladau rhestredig), yn gymwys.

161.Mae adran 3A(6) yn gymwys mewn sefyllfaoedd pan fo gwarchodaeth interim yn cymryd lle hysbysiad diogelu adeilad. Mae unrhyw beth a wneir o dan adran 3A(5) tra bo’r hysbysiad diogelu adeilad mewn grym — megis rhoi cydsyniad adeilad rhestredig neu gyflwyno hysbysiad stop dros dro ar adeilad rhestredig — i gael ei drin fel pe bai wedi ei wneud o dan warchodaeth interim yn rhinwedd adran newydd 2B(2).

162.Mae adran 3A(7) ac (8) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol hysbysu perchennog a meddiannydd yr adeilad ar unwaith os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i’r awdurdod nad ydynt yn bwriadu ymgynghori o dan adran newydd 2A ar gynnig i gynnwys yr adeilad mewn rhestr. Os rhoddir hysbysiad o’r fath, ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol gyflwyno hysbysiad diogelu adeilad arall ar yr adeilad am gyfnod o 12 mis.

163.Mae adran 25(4) yn addasu’r modd y cyfrifir digollediad am warchodaeth interim mewn achosion pan oedd hysbysiad diogelu adeilad mewn grym yn union cyn i warchodaeth interim ddechrau. Mae’n ychwanegu is-adrannau (4) a (5) i adran newydd 28B o Ddeddf 1990 (digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim), sy’n darparu, at ddibenion digollediad, fod gwarchodaeth interim i gael ei thrin fel pe bai’n dechrau ar yr adeg y daeth yr hysbysiad diogelu adeilad i rym.

164.Mae adran 25(5) yn mewnosod is-adran newydd (1A) yn adran 29 o Ddeddf 1990 (digollediad am golled neu ddifrod a achosir drwy gyflwyno hysbysiad diogelu adeilad). Mae’n pennu bod hawl gan unrhyw un a chanddo fuddiant mewn adeilad ar yr adeg y cyflwynwyd hysbysiad diogelu adeilad i gael digollediad oddi wrth yr awdurdod cynllunio lleol am unrhyw golled neu ddifrod y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad os yw’r hysbysiad diogelu adeilad yn peidio â bod yn rhinwedd y ffaith ei fod yn dod i ben ar ddiwedd chwe mis (adran 3A(3)(b)) neu os yw Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol nad ydynt yn bwriadu ymgynghori o dan adran newydd 2A ar gynnig i gynnwys yr adeilad mewn rhestr (adran 3A(4)(b)).

Adran 26 – Diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru adeiladau: darpariaeth ganlyniadol

165.Mae adran 26 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1990 o ganlyniad i gyflwyno gofynion newydd ar gyfer ymgynghori, gwarchodaeth interim, adolygu penderfyniadau rhestru a rhestru adeiladau dros dro.

166.Mae adran 26(3) yn mewnosod is-adrannau newydd (3A) a (3B) yn adran 2 o Ddeddf 1990 (cyhoeddi rhestrau). Mae adran newydd 2(3A) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol am eu penderfyniad i gynnwys adeilad ar y rhestr neu i dynnu adeilad oddi arni. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu’r perchennog a’r meddiannydd os yw adeilad wedi ei dynnu oddi ar y rhestr. Mae’r camau pellach y mae rhaid i Weinidogion Cymru eu cymryd pan fyddant yn cynnwys adeilad mewn rhestr wedi eu cynnwys yn adran newydd 2D, ac mae adran newydd 2(3B) yn cyfeirio at y ddarpariaeth hon.

167.Mae adran 21(4) o Ddeddf 1990 yn caniatáu i ymgeisydd sy’n gwneud apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y ffordd y mae awdurdod cynllunio lleol wedi trin cais am gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer adeilad y mae hysbysiad diogelu adeilad mewn grym mewn cysylltiad ag ef gynnwys honiad na ddylai’r adeilad gael ei restru. Mae adran 26(7) o’r Ddeddf hon yn diwygio’r adran honno o Ddeddf 1990 fel y caiff ymgeisydd sy’n gwneud apêl yn erbyn y ffordd y mae awdurdod cynllunio lleol wedi trin cais am gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer adeilad y mae gwarchodaeth adeilad mewn grym mewn cysylltiad ag ef yn yr un modd gynnwys honiad na ddylai’r adeilad gael ei restru.

168.Mae adran 26(8) yn cymhwyso adran 31 o Ddeddf 1990, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch digollediad sy’n daladwy mewn cysylltiad â dibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir, i’r digollediad sy’n daladwy o dan adran 28B o Ddeddf 1990 (a gaiff ei mewnosod gan adran 24(3) o’r Ddeddf hon) am golled neu ddifrod y gellir ei briodoli i effaith gwarchodaeth interim.

169.Mae adran 26(10) yn ychwanegu adrannau 2B (gwarchodaeth interim hyd nes y gwneir penderfyniadau rhestru penodol) a 3A (rhestru dros dro yng Nghymru: hysbysiadau diogelu adeiladau) at y rhestr o ddarpariaethau nad ydynt yn gymwys i adeiladau sy’n henebion cofrestredig o dan Ddeddf 1979.

170.Mae adran 26(11) yn cymhwyso adran 62 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd gorchmynion a phenderfyniadau penodol) i benderfyniad ynghylch adolygiad o dan adran 2D o’r Ddeddf honno (a gaiff ei mewnosod gan adran 24(1) o’r Ddeddf hon), fel mai dim ond ar seiliau penodol y caniateir i benderfyniad o’r math hwnnw gael ei gyfeirio at yr Uchel Lys.

171.Mae adran 26(12) yn diwygio adran 82 o Ddeddf 1990 fel bod y darpariaethau newydd a gyflwynir gan y Ddeddf hon sy’n ymwneud ag ymgynghori, gwarchodaeth interim ac adolygu mewn cysylltiad â dynodi adeiladau rhestredig yn gymwys i dir awdurdodau cynllunio lleol.

172.Mae adran 26(13) yn rhoi hawl i’r Swyddfa Brisio i gael mynediad i dir i arolygu neu amcangyfrif ei werth mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad am golled neu ddifrod sy’n deillio o warchodaeth interim.

Adran 27 – Dyroddi tystysgrif na fwriedir rhestru adeilad: Cymru

173.Mae adran 27 yn mewnosod adran newydd 6A yn Neddf 1990 ac yn diwygio adran 6 o’r Ddeddf honno (dyroddi tystysgrif na fwriedir rhestru adeilad) fel nad yw’n gymwys ond i adeiladau yn Lloegr.

174.Mae adran newydd 6A yn caniatáu i berson wneud cais i Weinidogion Cymru i dystysgrif imiwnedd rhag rhestru gael ei dyroddi. Mae dyroddi tystysgrif imiwnedd rhag rhestru yn gwarantu na fydd adeilad yn cael ei restru am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad dyroddi’r dystysgrif ac yn atal awdurdod cynllunio lleol rhag cyflwyno hysbysiad diogelu adeilad mewn perthynas â’r adeilad yn ystod yr un cyfnod.

175.Caniateir i gais am dystysgrif imiwnedd rhag rhestru gael ei wneud o dan adran 6A ar unrhyw adeg. Mae hyn yn galluogi perchenogion a datblygwyr i geisio cael gwarantau y bydd gan adeiladau imiwnedd rhag cael eu rhestru heb orfod mynd i’r gost sy’n gysylltiedig â chais am ganiatâd cynllunio, sy’n hanfodol ar gyfer cais am dystysgrif imiwnedd rhag rhestru o dan adran 6.

Adran 28 – Cytundebau partneriaeth dreftadaeth

176.Mae adran 28 yn mewnosod adrannau newydd 26L a 26M yn Neddf 1990, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cytundebau partneriaeth dreftadaeth sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig. Gall fod rhaid i berchenogion asedau hanesyddol cymhleth neu sy’n berchen ar fwy nag un ased hanesyddol wneud cais am ystod o gydsyniadau ar wahân os ydynt yn dymuno cyflawni rhaglenni rheoli ar gyfer eu heiddo. Mewn achosion o’r fath, caiff cytundebau partneriaeth dreftadaeth ddarparu dull mwy cadarnhaol o weithredu o ran rheoli adeiladau rhestredig yn gynaliadwy a lleihau nifer y ceisiadau am gydsyniad sy’n ofynnol.

26L Cytundebau partneriaeth dreftadaeth

177.Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol perthnasol wneud cytundeb partneriaeth dreftadaeth gyda pherchennog adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig yng Nghymru, a chaiff unrhyw bersonau a grybwyllir yn adran 26L(2) neu (4) fod yn barti ychwanegol i’r cytundeb.

178.Mae adran 26L(6) a (7) yn nodi y caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith penodedig o dan adran 8(1) o Ddeddf 1990 ac atodi amodau wrth y cydsyniad hwnnw. Ni chaiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth, fodd bynnag, roi cydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig neu unrhyw ganiatâd arall, megis caniatâd cynllunio.

179.Mae adran 26L(8) yn nodi’r ystod o faterion ychwanegol y caniateir i gytundeb partneriaeth dreftadaeth wneud darpariaeth yn eu cylch, gan gynnwys manyleb o’r gwaith y mae’r partïon yn cytuno nad oes angen cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer oherwydd na fyddai’n effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig.

180.Mae adran 26L(10) yn diffinio perchennog (“owner”) ac awdurdod cynllunio lleol perthnasol (“relevant local planning authority”) at ddiben cytundebau partneriaeth treftadaeth.

26M Cytundebau partneriaeth dreftadaeth: atodol

181.Mae adran newydd 26M yn gwneud darpariaeth atodol mewn perthynas â chytundebau partneriaeth treftadaeth. Mae adran 26M(1) yn darparu bod rhaid i gytundebau o’r fath fod yn ysgrifenedig a rhaid iddynt wneud darpariaeth ar gyfer adolygu, terfynu ac amrywio’r cytundebau gan y partïon.

182.Mae adran 26M(2) yn caniatáu i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gwmpasu mwy nag un adeilad rhestredig, ar yr amod bod awdurdod cynllunio lleol perthnasol (neu Weinidogion Cymru) a pherchennog yn bartïon i’r cytundeb ym mhob achos. Er enghraifft, gallai cytundeb partneriaeth dreftadaeth gynnwys pob un o’r pontydd rhestredig y mae awdurdod lleol yn berchen arnynt.

183.Mae adran 26M(3) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch: yr ymgynghori a’r cyhoeddusrwydd y mae eu hangen mewn cysylltiad â chreu neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth; unrhyw delerau penodol y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb; a darpariaethau ar gyfer terfynu cytundeb neu unrhyw ddarpariaeth ohono.

184.Mae adran 26M(5) yn caniatáu i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ddatgymhwyso, cymhwyso neu atgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, ddarpariaethau penodol o Ddeddf 1990 at ddiben cytundebau partneriaeth dreftadaeth.

185.Mae adran 26M(6) yn darparu na fydd cytundebau partneriaeth dreftadaeth ond yn rhwymo’r partïon i’r cytundebau hynny. Ni fydd perchenogion a meddianwyr yr adeiladau hynny yn y dyfodol yn cael eu rhwymo gan y cytundebau hynny, ac ni fyddant ychwaith yn gallu manteisio ar unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig a ddarperir gan y cytundeb.

Adran 29 – Hysbysiadau stop dros dro

186.Mae adran 29 yn mewnosod adrannau newydd 44B i 44D yn Neddf 1990 sy’n gwneud darpariaeth i ganiatáu i hysbysiadau stop dros dro gael eu dyroddi mewn perthynas ag adeiladau rhestredig.

44B Hysbysiadau stop dros dro

187.Yn aml mae gwaith anawdurdodedig yn dinistrio adeiladwaith hanesyddol adeiladau rhestredig, ynghyd â difrodi eu diddordeb arbennig. Mae Deddf 1990 yn ei gwneud yn drosedd i wneud gwaith anawdurdodedig i adeilad rhestredig neu i fethu â chydymffurfio ag amodau cydsyniad adeilad rhestredig. Mae’r un Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig i’w gwneud yn ofynnol i adeilad rhestredig gael ei adfer ar ôl i waith anawdurdodedig gael ei wneud arno, neu i gamau gael eu cymryd i leddfu effeithiau gwaith o’r fath. Ni chaiff hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig ddod yn effeithiol yn gynharach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl ei gyflwyno. Os gwneir apêl yn ei erbyn, ni fydd hysbysiad gorfodi yn cymryd effaith hyd nes y penderfynir ar yr apêl neu hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl, oni bai bod llys yn dyfarnu fel arall. Mewn cyferbyniad, gall hysbysiad stop dros dro ddod â gwaith anawdurdodedig i ben ar unwaith, gan osgoi’r risg o ddifrod pellach i adeiladwaith hanesyddol yr adeilad.

188.Mae adrannau 44B i 44D yn darparu pŵer i awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno hysbysiad stop dros dro i’w gwneud yn ofynnol i’r gwaith anawdurdodedig ddod i ben ar unwaith am gyfnod o 28 o ddiwrnodau er mwyn ceisio datrys y sefyllfa.

189.Caiff awdurdod cynllunio lleol gyflwyno hysbysiad stop dros dro os ymddengys i’r awdurdod fod gwaith yn cael ei wneud neu wedi ei wneud i adeilad rhestredig heb gydsyniad neu sy’n torri amod sydd ynghlwm wrth gydsyniad ac y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn hwylus bod y gwaith hwnnw yn dod i ben ar unwaith, o ganlyniad i’w effaith ar gymeriad yr adeilad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig (adran 44B(1) a (2)).

190.Mae adran 44B(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad fod yn ysgrifenedig a’i fod yn pennu’r gwaith sydd i ddod i ben, esbonio pam y dyroddwyd yr hysbysiad a datgan bod torri’r hysbysiad yn drosedd. Nid oes angen i’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad stop dros dro gynnwys yr holl waith sydd ar y gweill. Er enghraifft, efallai y bydd awdurdod cynllunio lleol yn dymuno bod y gwaith o newid neu o ddileu un nodwedd benodol yn dod i ben, megis ffenestr, sy’n rhan o raglen ehangach o waith, ond efallai y bydd wedi ei fodloni bod gweddill y rhaglen waith wedi ei awdurdodi gan gydsyniad adeilad rhestredig neu’n waith atgyweirio syml na fydd yn effeithio ar gymeriad yr adeilad.

191.Mae adran 44B(5) a (6) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol arddangos copi o’r hysbysiad stop dros dro ar yr adeilad a phennu, ar y copi, y dyddiad y mae’n gwneud hynny am y tro cyntaf. Mae’r hysbysiad yn cymryd effaith cyn gynted ag y bo’r copi yn cael ei arddangos am y tro cyntaf ar yr adeilad.

192.Mae adran 44B(7) yn datgan bod hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith ar ôl cyfnod o 28 o ddiwrnodau, neu unrhyw gyfnod byrrach sydd wedi ei bennu yn yr hysbysiad. Mae adran 44B(8) i (10) yn datgan y caiff awdurdod cynllunio lleol dynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau (neu unrhyw gyfnod byrrach a bennir). Ni ellir dyroddi hysbysiad stop dros dro pellach ar gyfer yr un gwaith oni bai y cymerwyd camau gorfodi eraill mewn perthynas â’r achos o dorri’r hysbysiad, er enghraifft, cyflwyno hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu gael gwaharddeb o dan adran 44A o Ddeddf 1990. Nid oes unrhyw ofyniad i hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu unrhyw gam gorfodi arall ddod gyda hysbysiad stop dros dro neu ddilyn hysbysiad stop dros dro.

193.Mae adran 44B(11) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n esemptio gwneud gwaith penodol, neu waith o dan amgylchiadau penodol, o effeithiau hysbysiad stop dros dro. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i Weinidogion Cymru i addasu’r defnydd o hysbysiadau stop dros dro yng ngoleuni’r profiad o’u defnyddio.

44C Hysbysiadau stop dros dro: trosedd

194.Mae adran newydd 44C yn nodi’r amgylchiadau pan fydd person yn euog o drosedd am dorri hysbysiad stop dros dro ac yn caniatáu i berson gael ei euogfarnu o droseddau gwahanol drwy gyfeirio at ddiwrnodau neu gyfnodau gwahanol. Felly, bydd yn bosibl i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd os ceir sawl achos o dorri hysbysiad.

195.Mae adran 44C(3) a (4) yn nodi’r amddiffyniadau i drosedd o dan yr adran hon.

196.Mae adran 44C(5) a (6) yn darparu mai’r gosb ar gyfer y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro yw dirwy ddiderfyn. Gan fod gwaith anawdurdodedig i adeilad rhestredig yn gallu cael ei ysgogi gan y posibilrwydd o gael mantais ariannol, mae’r llysoedd i roi sylw i unrhyw fudd ariannol y gall y person a euogfarnir fod wedi ei gael neu’n debygol o’i gael o ganlyniad i’r drosedd wrth benderfynu ar swm unrhyw ddirwy sydd i gael ei gosod.

44D Hysbysiadau stop dros dro: digollediad

197.Mae adran 44D(1) i (3) yn nodi’r hawl i ddigollediad mewn cysylltiad ag unrhyw golled neu ddifrod y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i effaith hysbysiad stop dros dro. Ni fydd digollediad ar gael ond o dan amgylchiadau penodol. Caniateir ei hawlio os nad yw’r gwaith a bennir mewn hysbysiad stop dros dro yn mynd yn groes i is-adrannau (1) neu (2) o adran 9 o Ddeddf 1990 (troseddau) oherwydd nad yw cydsyniad adeilad rhestredig yn ofynnol neu oherwydd bod cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi ar y dyddiad neu cyn y dyddiad y caiff yr hysbysiad ei arddangos am y tro cyntaf. Caniateir iddo gael ei hawlio hefyd os yw’r awdurdod cynllunio lleol yn tynnu’r hysbysiad stop dros dro yn ôl ac eithrio ar ôl rhoi cydsyniad adeilad rhestredig sy’n awdurdodi’r gwaith oherwydd, er enghraifft, y canfyddir nad oedd y gwaith wedi ei awdurdodi ac na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei arddangos.

198.Mae adran 44D(4) yn pennu na fydd unrhyw ddigollediad yn daladwy am golled neu ddifrod y gellid bod wedi ei osgoi pe bai’r hawlydd wedi darparu’r wybodaeth a oedd yn ofynnol o dan y darpariaethau a grybwyllir yn adran 44D(5) neu pe bai wedi cydweithredu fel arall â’r awdurdod cynllunio lleol wrth ymateb i’r hysbysiad stop dros dro.

199.Y darpariaethau a grybwyllir yn adran 44D(5) yw adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, sy’n rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gael manylion personau a chanddynt fuddiant mewn tir, ac adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, sy’n caniatáu i’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o ran buddiannau mewn tir.

200.Mae adran 29(2) yn cymhwyso adran 31 o Ddeddf 1990, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch digollediad sy’n daladwy mewn cysylltiad â dibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir, i’r digollediad sy’n daladwy o dan adran 44D am golled neu ddifrod y gellir ei briodoli i hysbysiad stop dros dro.

201.Mae adran 29(3) yn diwygio adran 82A(2) o Ddeddf 1990 (cymhwyso i’r Goron) fel bod y darpariaethau sy’n delio â hysbysiadau stop dros dro yn rhwymo’r Goron, ac eithrio’r rhai hynny yn adran 44C sy’n ei gwneud yn drosedd i dorri hysbysiad stop dros dro.

202.Mae adran 29(4) yn diwygio adran 88 o Ddeddf 1990 (hawliau mynediad) er mwyn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol awdurdodi person yn ysgrifenedig i gael mynediad i dir at ddiben arddangos hysbysiad stop dros dro, canfod a gydymffurfiwyd â hysbysiad ac ystyried cais am ddigollediad.

203.Mae adran 29(5) yn rhoi hawl i’r Swyddfa Brisio i gael mynediad i dir i arolygu neu amcangyfrif ei werth mewn cysylltiad â chais am ddigollediad sy’n deillio o gyflwyno hysbysiad stop dros dro.

204.Mae adran 29(6) yn diwygio adran 88B o Ddeddf 1990 drwy dileu’r gofyniad i roi rhybudd o 24 awr cyn defnyddio pwerau mynediad i arddangos hysbysiad stop dros dro neu i ganfod a gydymffurfiwyd â hysbysiad.

205.Mae adran 29(7) yn diwygio Atodlen 2 i Ddeddf 1990 (darfodiad hysbysiadau diogelu adeiladau) fel bod unrhyw hysbysiad stop dros dro a gyflwynwyd ar yr adeilad yn peidio â chael effaith unwaith y bydd hysbysiad diogelu adeilad yn darfod.

206.Mae adran 29(8) yn diwygio Atodlen 4 i Ddeddf 1990 (arfer swyddogaethau gan awdurdodau gwahanol). O bryd i’w gilydd caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol gyflwyno i’w cymeradwyo ei drefniadau arfaethedig i gael cyngor arbenigol mewn cysylltiad â thalu digollediad sy’n deillio o gyflwyno hysbysiad stop dros dro.

Adran 30 – Gwaith brys: estyn y cwmpas ac adennill costau

207.Mae adran 30 yn mewnosod adrannau newydd 54(4A), 54(5A) a 55(5A) i (5G) yn Neddf 1990. Mae’r darpariaethau hyn yn estyn yr ystod o amgylchiadau y caiff awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru wneud gwaith brys oddi tanynt i ddiogelu adeilad rhestredig, yn darparu hawl i apelio yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru o ran y treuliau y caniateir eu hadennill mewn cysylltiad â gwaith o’r fath, ac yn caniatáu i bridiannau tir gael eu creu i sicrhau bod y treuliau hynny yn cael eu talu.

208.Mae adran 54 o Ddeddf 1990 yn darparu ar gyfer gwneud gwaith brys gan awdurdodau lleol i adeiladau rhestredig nad ydynt wedi eu meddiannu. Caniateir i’r pwerau yn adran 54 gael eu harfer gan Weinidogion Cymru hefyd.

209.Mae cyfyngiadau ar yr amgylchiadau y caniateir i waith brys gael ei wneud oddi tanynt o dan adran 54. Mae adran 54(4) o Ddeddf 1990 yn darparu, pan fo adeilad wedi ei feddiannu, mai dim ond i’r rhannau hynny o’r adeilad nad ydynt yn cael eu defnyddio y caniateir i waith brys gael ei wneud. Mae adran 30(1) o’r Ddeddf hon yn diwygio’r cyfyngiad hwn fel ei fod yn gymwys i adeiladau yn Lloegr yn unig.

210.Mae adran newydd 54(4A) yn ehangu’r amgylchiadau y caiff gwaith brys gael ei wneud oddi tanynt er mwyn diogelu adeiladau rhestredig yng Nghymru. Mae’n galluogi i waith brys gael ei wneud ar unrhyw adeilad rhestredig yng Nghymru ar yr amod nad yw’n amharu’n afresymol â’r defnydd preswyl a wneir ohono.

211.Mae adran 30(3) yn mewnosod is-adran newydd (5A) yn adran 54 o Ddeddf 1990, sy’n ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd adeilad sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben preswyl gael dim llai na saith niwrnod o rybudd o’r bwriad i ymgymryd â gwaith brys i’r eiddo. Rhaid rhoi o leiaf saith niwrnod o rybudd o’r gwaith hwnnw i berchennog yr adeilad hefyd, yn unol ag adran 54(5) o Ddeddf 1990.

212.Os yw awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru yn mynd i gostau wrth ymgymryd â gwaith brys i adeilad rhestredig, cânt adennill y costau hynny yn unol ag adran 55 o Ddeddf 1990. Mae adran 55 yn darparu mai drwy gyflwyno hysbysiad i’r perchennog y cychwynnir y broses adennill. Caiff y perchennog herio’r bwriad i adennill costau drwy gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ar y seiliau a nodir yn adran 55(4). Gweinidogion Cymru sy’n penderfynu ar y swm y gellir ei adennill.

213.Mae adran 30(6) yn mewnosod is-adran newydd (5A) yn adran 55 o Ddeddf 1990 sy’n caniatáu i berchennog adeilad rhestredig, o fewn 28 o ddiwrnodau i gael penderfyniad Gweinidogion Cymru o ran y swm y gellir ei adennill, apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i’r llys sirol. Caiff awdurdod lleol hefyd apelio yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru yn yr un modd.

214.Mae adran 30(6) hefyd yn mewnosod is-adrannau newydd (5B) i (5G) yn adran 55 o Ddeddf 1990 sy’n darparu mai pridiant ar y tir lle y mae’r adeilad rhestredig yw’r costau yr aed iddynt wrth wneud gwaith brys. Mae’r is-adrannau newydd hefyd yn darparu: i log gael ei osod ar y swm sy’n ddyledus ar gyfradd sydd i’w rhagnodi drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru, y modd y mae pridiant tir yn cymryd effaith, a’r pwerau a’r rhwymedïau sydd ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 i orfodi’r pridiant, gan gynnwys pŵer i benodi derbynnydd.

Adran 31 – Diogelu adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael

215.Mae adran 31(1) yn mewnosod adran newydd 56A yn Neddf 1990, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru gymryd camau pellach ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael yn briodol. Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad diogelu i berchennog adeilad rhestredig. Caiff hysbysiad o’r fath bennu’r gwaith sy’n ofynnol i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddiogelu’n briodol a dyddiad cau ar gyfer gwneud y gwaith. Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth am apelau yn erbyn hysbysiadau diogelu, troseddau am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiadau ac apelau mewn cysylltiad â throseddau o’r fath.

216.Mae adran newydd 56A(3) a (4) yn caniatáu i’r rheoliadau o dan yr adran hon ddatgymhwyso, cymhwyso neu atgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaethau yn Neddf 1990, ynghyd â diwygio Deddf 1990, at ddiben diogelu adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael.

217.Mae adran 31(2) yn diwygio adran 82A o Ddeddf 1990 (cymhwyso i’r Goron) fel nad yw’r ddarpariaeth a wneir o dan adran 56A yn gallu rhwymo’r Goron.

218.Mae adran 31(3) yn diwygio adran 88 o Ddeddf 1990 (hawliau mynediad) er mwyn caniatáu i hysbysiadau diogelu gael eu cyflwyno.

219.Mae adran 31(4) yn diwygio Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 er mwyn galluogi i sancsiynau sifil gael eu gosod mewn cysylltiad â throseddau mewn rheoliadau a wneir o dan adran newydd 56A. Y mathau o sancsiynau sifil y caniateir iddynt gael eu gosod yw’r rhai sydd wedi eu cynnwys yn Rhan 3 o Ddeddf 2008, er enghraifft, cosbau ariannol penodedig, gofynion i gymryd camau penodedig, neu hysbysiadau stop.

Adran 32 – Cyflwyno dogfennau drwy gyfathrebiadau electronig

220.Mae adran 32 yn diwygio adran 89(1A) o Ddeddf 1990, er mwyn dileu’r cyfyngiad ar gyflwyno dogfennau drwy gyfathrebiadau electronig mewn perthynas ag adeiladau yng Nghymru, gan ganiatáu i bob dogfen gael ei chyflwyno drwy gyfathrebiadau electronig.

Adran 33 – Penderfynu ar apelau gan berson a benodir: darpariaeth atodol

221.Mae adran 33 yn mewnosod paragraff newydd 7(3) yn Atodlen 3 i Ddeddf 1990 (penderfynu ar apelau penodol gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru). Mae’r paragraff newydd yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi aelod o staff Llywodraeth Cymru i benderfynu ar apêl o dan Atodlen 3, fod y swyddogaethau o benderfynu ar yr apêl a’r swyddogaethau o wneud unrhyw beth mewn cysylltiad â’r apêl i gael eu trin fel swyddogaethau Llywodraeth Cymru at ddibenion Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae hyn yn galluogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i unrhyw honiadau o gamweinyddu a wneir mewn perthynas â’r ffordd y mae’r person a benodir yn cyflawni’r swyddogaethau hynny.

Rhan 4: Amrywiol

Adran 34 – Rhestr o enwau lleoedd hanesyddol

222.Mae adran 34 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.

Adran 35 – Cofnodion amgylchedd hanesyddol

223.Mae adran 35 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru a’i gadw’n gyfredol.

224.Mae cofnodion amgylchedd hanesyddol yn ffynonellau gwybodaeth hollbwysig ar gyfer y rhai hynny sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch rheoli’r amgylchedd hanesyddol yn gynaliadwy. Mae’r wybodaeth honno yn fan cychwyn pwysig ar gyfer prosesau rheoli, cadwraeth, gwaith maes ac ymchwil, ac ymgysylltu â’r cyhoedd ac allgymorth sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol. Mae’n sail i’r cyngor archaeolegol a’r cyngor rheoli treftadaeth arall a ddarperir i awdurdodau cynllunio lleol. Heb wybodaeth o’r fath, byddai amheuaeth ynghylch y cyngor hanfodol sy’n llywio, er enghraifft, yr asesiad o effaith cynigion datblygu ar yr amgylchedd hanesyddol.

225.Mae is-adran (2) yn nodi’r ystod o wybodaeth y mae rhaid ei darparu mewn cofnod amgylchedd hanesyddol. Mae paragraffau (a) i (d) yn ei gwneud yn ofynnol i fanylion yr asedau hanesyddol hynny a warchodir neu a gofrestrir yn statudol o dan Ddeddfau 1979 neu 1990 gael eu cynnwys. Mae paragraffau (e), (f) ac (g) yn ei gwneud yn ofynnol i fanylion safleoedd gwrthdaro, tirweddau hanesyddol a safleoedd treftadaeth y byd gael eu cynnwys.

226.Mae paragraff (h) yn ei gwneud yn ofynnol i fanylion pob ardal, safle neu fan arall yr ystyrir eu bod o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol lleol ym marn yr awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru gael eu cynnwys. Caiff y rhain gynnwys manylion am asedau hanesyddol y mae cymunedau lleol wedi eu nodi fel rhai sydd o arwyddocâd lleol.

227.Mae paragraff (i) yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth ynghylch y ffordd y mae datblygiad hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol ardal wedi cyfrannu at gymeriad presennol yr ardal gael ei chynnwys. Gellir cael yr wybodaeth hon oddi wrth brosesau a rhaglenni pennu nodweddion ardaloedd trefol a gwledig parhaus megis arfarniadau ardaloedd cadwraeth. Mae’r astudiaethau hyn sy’n seiliedig ar ardal yn esbonio sut y mae’r amgylchedd hanesyddol yn cyfrannu at gymeriad lleol/rhanbarthol nodweddiadol ardal a sut y gellir cadw’r cymeriad hwn at y dyfodol.

228.Mae paragraff (k) yn ei gwneud yn ofynnol i gofnodion amgylchedd hanesyddol ddarparu dull o gael mynediad i fanylion pob enw lle hanesyddol mewn ardal awdurdod cynllunio lleol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a lunnir ac a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34.

229.Mae is-adrannau (3) i (8) yn diffinio’r termau gwahanol a ddefnyddir yn is-adran (2) i ddisgrifio’r hyn y mae rhaid ei gynnwys mewn cofnod amgylchedd hanesyddol.

230.Mae is-adrannau (9) a (10) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio, drwy reoliadau, y categorïau o wybodaeth y mae rhaid eu cynnwys mewn cofnod amgylchedd hanesyddol. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdodau lleol ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy cyn gwneud y rheoliadau.

Adran 36 – Mynediad i gofnodion amgylchedd hanesyddol

231.Mae adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i gofnod amgylchedd hanesyddol fod yn adnodd sydd ar gael i’r cyhoedd, a hynny’n ddi-dâl. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd roi cyngor a chynhorthwy proffesiynol er mwyn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth sydd wedi ei darparu mewn cofnod amgylchedd hanesyddol neu y ceir mynediad iddi drwy gofnod amgylchedd hanesyddol a dehongli’r wybodaeth honno.

232.Mae is-adran (3) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i godi ffioedd er mwyn adennill y costau o ddarparu gwasanaethau penodol sy’n gysylltiedig â chofnodion amgylchedd hanesyddol, er enghraifft, llunio adroddiadau sy’n seiliedig ar ddadansoddi cynnwys cofnod amgylchedd hanesyddol. Ni wneir unrhyw elw o ganlyniad i godi ffioedd o’r fath, a bydd y ffioedd yn gyfyngedig i’r costau o ddarparu’r gwasanaeth.

Adran 37 – Canllawiau

233.Mae adran 37 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru o ran sut y cânt gyfrannu at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol a’u cynnal, ac ar y defnydd o’r cofnodion amgylchedd hanesyddol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau. Cyn dyroddi’r canllawiau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyrff ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru. Yn ogystal, rhaid i Weinidogion Cymru osod y canllawiau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 38 – Sefydlu Panel a rhaglen waith

234.Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru (“y Panel”). Diben y Panel yw darparu arbenigedd ac amrywiaeth o safbwyntiau ar ystod eang o ddatblygiadau a gweithgareddau polisi a strategaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol ehangach. Caiff y gweithgareddau hyn gynnwys: casglu, cofnodi a dehongli gwybodaeth megis gwaith ymchwil, gweithgareddau arolygu a chloddiadau; cadw’r amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys adnabod asedau sydd o arwyddocâd cenedlaethol a chymhwyso’r warchodaeth ddeddfwriaethol briodol; ac ymgysylltiad y cyhoedd â’r amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys cyfranogiad gweithredol a sicrhau bod asedau hanesyddol a gwybodaeth o fewn eu cyrraedd.

235.Caiff y Panel hefyd roi cyngor arbenigol ar effeithiolrwydd a gweithrediad y fframwaith gwarchod a rheoli statudol presennol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, gan gynnwys cyngor cyfnodol ar welliannau posibl yn y dyfodol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.

236.Bydd yn ofynnol i’r Panel lunio rhaglen waith tair blynedd a chyflwyno drafft ohoni er mwyn i Weinidogion Cymru ei chymeradwyo. Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r rhaglen waith gydag addasiadau neu hebddynt. Rhaid i’r Panel gyhoeddi’r rhaglen waith a gymeradwywyd.

237.Caniateir i’r rhaglen waith gael ei hadolygu a’i diwygio yn ystod y cyfnod o dair blynedd er mwyn ymateb i faterion newydd wrth iddynt godi. Os bydd y diwygiadau yn rhai sylweddol, bydd angen i Weinidogion Cymru gytuno arnynt. Rhaid cyhoeddi’r rhaglen waith fel y’i diwygiwyd.

238.Rhaid i’r Panel, ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi dogfen sy’n nodi’r materion y mae wedi rhoi cyngor i Weinidogion Cymru arnynt.

Adran 39 – Cyfansoddiad etc

239.Mae adran 39 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth y Panel ac ynghylch ei statws cyfreithiol.

Rhan 5: Cyffredinol

Adran 40 – Rheoliadau a gorchmynion

240.Mae adran 40 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf 1979 a Deddf 1990 er mwyn egluro pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a gorchmynion o dan y Deddfau hynny a’r gweithdrefnau sy’n gymwys i wneud y rheoliadau a’r gorchmynion hynny. Bydd y ddarpariaeth ddiwygiedig yn adran 60 o Ddeddf 1979 (rheoliadau a gorchmynion) ac adran 93 o Ddeddf 1990 (rheoliadau a gorchmynion) yn gymwys i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau newydd a fewnosodir yn y Deddfau hynny gan y Ddeddf hon.

241.Mae is-adran (2) yn diwygio adran 60 o Ddeddf 1979. Mae’n cadarnhau bod pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf neu orchymyn o dan adrannau 3 (rhoi cydsyniad heneb gofrestredig), 37 (esemptiadau rhag trosedd o dan adran 35) neu 61 (dehongli) o’r Ddeddf yn arferadwy drwy offeryn statudol.

242.Mae is-adran (2) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adrannau newydd 1AA (dyletswydd i ymgynghori ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr) neu 9ZB (cytundeb partneriaeth dreftadaeth) o Ddeddf 1979 gael ei osod ar ffurf ddrafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad. Rhaid i unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan Ddeddf 1979 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol hefyd fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn honno. Mae’r is-adran yn darparu ymhellach y bydd unrhyw offerynnau statudol eraill sy’n cynnwys rheoliadau neu orchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf 1979, ac eithrio rheoliadau a wneir o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (mynediad cyhoeddus i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus), yn ddarostyngedig i gael eu diddymu drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

243.Mae is-adran (3) yn diwygio is-adran (1) o adran 93 o Ddeddf 1990 (rheoliadau a gorchmynion) er mwyn ei gwneud yn glir y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan y Ddeddf honno o ran Cymru.

244.Mae is-adrannau (4) a (5) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adrannau newydd 2A (dyletswydd i ymgynghori ar newidiadau penodol i restrau) neu 26M (cytundebau partneriaeth dreftadaeth) neu 56A (diogelu adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael) o Ddeddf 1990 gael ei osod ar ffurf ddrafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad. Bydd unrhyw reoliadau eraill o dan y Ddeddf yn ddarostyngedig i gael eu diddymu drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

245.Mae is-adrannau (6) a (7) yn cadarnhau bod gorchymyn o dan adran 55(5B) o Ddeddf 1990 (llog ar y costau sy’n weddill ar gyfer gwaith brys) i gael ei wneud drwy offeryn statudol ac y bydd yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

246.Mae is-adran (12) yn ei gwneud yn ofynnol i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 35(9) (pŵer i amrywio ystyr “cofnod amgylchedd hanesyddol”) neu adran 39(7)(h) (Y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru: anghymhwyso staff sefydliadau penodedig rhag bod yn aelodau) gael ei osod ar ffurf ddrafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Adran 41 – Dod i rym

247.Mae adran 41 yn nodi’r darpariaethau a fydd yn dod i rym ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol; y rhai a fydd yn dod i rym ddau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol; a’r rhai a fydd yn cael eu dwyn i rym drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Adran 42 – Enw byr

248.Mae’r adran hon yn nodi enw byr y Ddeddf.

Atodlen 1

249.Cyflwynir Atodlen 1 gan adran 3(3) o’r Ddeddf, ac mae’n mewnosod Atodlen A1 ac Atodlen A2 yn Neddf 1979.

Atodlen A1 Darfodiad gwarchodaeth interim

250.Mae Atodlen A1 yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn peidio â chael effaith o ganlyniad i benderfyniad gan Weinidogion Cymru:

251.Hyd yn oed ar ôl i warchodaeth interim ddarfod, gall person barhau gael ei erlyn am droseddau penodol a wnaed pan oedd ganddi effaith. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd adennill costau yr aed iddynt wrth gyflawni gwaith o dan adran 9ZF(2) o Ddeddf 1979 yn dilyn methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd pan oedd gan y warchodaeth interim effaith. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o faterion eraill a wneir o dan Ddeddf 1979 yn peidio â chael effaith wrth i warchodaeth interim ddarfod: er enghraifft, cydsyniad heneb gofrestredig, hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau stop dros dro.

Atodlen A2 Penderfyniadau ynghylch adolygiadau gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru

252.Mae paragraff 1 o Atodlen A2 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi’r dosbarthau ar adolygiadau y mae person a benodir gan Weinidogion Cymru i wneud penderfyniadau arnynt.

253.Mae paragraff 2 yn nodi pwerau a dyletswyddau person a benodir. Mae gan y person a benodir yr un pwerau a dyletswyddau â Gweinidogion Cymru i wneud yr adolygiad, i wneud penderfyniad ynghylch yr adolygiad ac i benderfynu ar weithdrefnau’r adolygiad a’r broses o’i gynnal a’r costau sy’n gysylltiedig ag ef.

254.Ni ellir herio penderfyniad person a benodir ac eithrio drwy adran 55 o Ddeddf 1979 (achosion ar gyfer cwestiynu dilysrwydd gorchmynion penodol). Yn ogystal, ni ellir gwneud cais i’r Uchel Lys o dan adran 55 ar y sail mai Gweinidogion Cymru a ddylai fod wedi gwneud y penderfyniad yn lle’r person a benodir, oni bai bod pŵer y person a benodir i wneud y penderfyniad wedi ei herio cyn y gwnaed y penderfyniad ynghylch yr adolygiad.

255.Mae paragraff 3 yn gwneud darpariaethau i Weinidogion Cymru ddirymu awdurdod person a benodir a phenodi person arall i ymgymryd â’r adolygiad.

256.Mae paragraff 4 yn caniatáu i berson a benodir benodi asesydd i roi cyngor ar unrhyw faterion sy’n codi mewn ymchwiliad lleol neu wrandawiad, neu mewn sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir mewn cysylltiad â’r adolygiad. Mae is-baragraff (2) yn cymhwyso darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n caniatáu i berson a benodir alw person i fod yn bresennol a darparu tystiolaeth mewn ymchwiliad. Bydd gwrthod cais i fod yn bresennol yn gwneud person yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol, cyfnod nad yw’n hwy na chwe mis yn y carchar, neu’r ddau.

257.Mae paragraff 5 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y dylai’r person a benodir fod wedi ei wneud, ac eithrio gwneud penderfyniad ynghylch adolygiad. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo mai hwy sydd i ymgymryd â materion megis rhoi hysbysiad am adolygiad, cylchredeg sylwadau neu dystiolaeth a rhoi hysbysiad ynghylch penderfyniad.

258.Mae paragraff 6 yn caniatáu i berson a benodir ddirprwyo i berson arall unrhyw beth y byddai’r person a benodir yn ei wneud ac eithrio cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad neu wneud penderfyniad ynghylch yr adolygiad. Mae hyn yn galluogi’r person a benodir i ddirprwyo tasgau gweinyddol, megis rhoi hysbysiad ynghylch cais am adolygiad, hysbysu ynghylch amserlenni a manylion gwrandawiad/ymchwiliad, a chylchredeg datganiadau a sylwadau.

259.Mae paragraff 7 yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi aelod o staff Llywodraeth Cymru i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag adolygiad, fod y swyddogaethau hynny i gael eu trin fel swyddogaethau Llywodraeth Cymru at ddibenion Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Bydd hyn yn galluogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i unrhyw honiadau o gamweinyddu a wneir mewn perthynas â’r ffordd y mae’r person a benodir yn cyflawni’r swyddogaethau hynny.

Atodlen 2

260.Cyflwynir Atodlen 2 gan adran 24(4) o’r Ddeddf, ac mae’n mewnosod Atodlen 1A ac Atodlen 1B yn Neddf 1990.

Atodlen 1A Darfodiad gwarchodaeth interim

261.Mae Atodlen 1A yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn peidio â chael effaith o ganlyniad i benderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â rhestru adeilad. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd unrhyw achosion sy’n deillio o gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu unrhyw gydsyniad a roddir yn darfod, a bydd unrhyw hysbysiadau gorfodi neu hysbysiadau stop dros dro a gyflwynir ar yr adeilad yn peidio â chael effaith. Fodd bynnag, bydd atebolrwydd troseddol unrhyw berson am drosedd a gyflawnir yn ystod y cyfnod gwarchodaeth interim yn parhau.

Atodlen 1B Penderfyniadau ynghylch adolygiadau gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru

262.Mae paragraff 1 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhagnodi’r dosbarthau ar adolygiadau y mae person a benodir gan Weinidogion Cymru i wneud penderfyniadau arnynt.

263.Mae paragraff 2 yn nodi pwerau a dyletswyddau person a benodir. Mae gan y person a benodir yr un pwerau a dyletswyddau â Gweinidogion Cymru i wneud yr adolygiad, i wneud penderfyniad ynghylch yr adolygiad ac i benderfynu ar y weithdrefn briodol a dyfarnu costau.

264.Mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddirymu awdurdod person a benodir a phenodi person arall i ymgymryd â’r adolygiad.

265.Mae paragraff 4 yn caniatáu i berson a benodir benodi asesydd i roi cyngor ar unrhyw faterion sy’n codi mewn ymchwiliad lleol neu wrandawiad, neu mewn sylwadau ysgrifenedig. Mae is-baragraff (2) yn cymhwyso darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n caniatáu i berson a benodir alw person i fod yn bresennol a darparu tystiolaeth mewn ymchwiliad. Bydd gwrthod cais i fod yn bresennol yn gwneud person yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol, cyfnod nad yw’n hwy na chwe mis yn y carchar, neu’r ddau.

266.Mae paragraff 5 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y dylai’r person a benodir fod wedi ei wneud, ac eithrio gwneud penderfyniad ynghylch adolygiad. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo mai hwy sydd i ymgymryd â materion megis rhoi hysbysiad am adolygiad, cylchredeg sylwadau a thystiolaeth a rhoi hysbysiad ynghylch penderfyniad.

267.Mae paragraff 6 yn caniatáu i berson a benodir ddirprwyo i berson arall unrhyw beth y byddai’r person a benodir yn ei wneud ac eithrio cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad neu wneud penderfyniad ynghylch yr adolygiad. Mae hyn yn galluogi’r person a benodir i ddirprwyo tasgau gweinyddol, megis hysbysu ynghylch amserlenni a manylion gwrandawiad/ymchwiliad a chylchredeg datganiadau a sylwadau.

268.Mae paragraff 7 yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi aelod o staff Llywodraeth Cymru i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag adolygiad, fod y swyddogaethau hynny i gael eu trin fel swyddogaethau Llywodraeth Cymru at ddibenion Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Bydd hyn yn galluogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i unrhyw honiadau o gamweinyddu a wneir mewn perthynas â’r ffordd y mae’r person a benodir yn cyflawni’r swyddogaethau hynny.