Adran 10 – Digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig
56.Mae adran 10 yn diwygio adran 7 o Ddeddf 1979, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd am gydsyniad heneb gofrestredig gael ei ddigolledu o dan amgylchiadau penodol os yw’n dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad i wrthod y cydsyniad hwnnw neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau.
57.Mae’r adran yn cyfyngu cymhwysiad adran 7(4) o Ddeddf 1979 i Loegr ac yn mewnosod is-adran newydd (4A). Mae’r is-adran newydd yn nodi na fydd unrhyw ddigollediad yn daladwy yng Nghymru pe bai’r gwaith y ceisiwyd cydsyniad heneb gofrestredig ar ei gyfer yn arwain, neu y gallai arwain, at ddymchwel heneb yn gyfan gwbl neu’n rhannol, oni bai mai dim ond gweithrediadau a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol, neu a oedd yn gysylltiedig, â’r defnydd o safle’r heneb at ddibenion a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y byddai’r gwaith wedi eu cynnwys.