Adran 22 – Ystyr “monument” yn Neddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979
129.Mae adran 22 yn diwygio’r diffiniad o heneb (“monument”) yn is-adran (7) o adran 61 o Ddeddf 1979 (dehongli) er mwyn cynnwys safleoedd sy’n darparu tystiolaeth o weithgarwch dynol yn y gorffennol ond lle nad oes adeileddau neu waith.
130.Nid yw llawer o’r safleoedd archaeolegol pwysig yng Nghymru, yn enwedig y rhai hynny o gyfnodau Palaeolithig a Mesolithig pell, yn cynnwys dim byd mwy na gwasgariad arteffactau neu olion disylwedd eraill o weithgarwch dynol.
131.Bydd adran newydd 61(7)(d) yn galluogi i safleoedd o bwys cenedlaethol sy’n darparu tystiolaeth o weithgarwch dynol yn y gorffennol gael eu dynodi’n henebion cofrestredig gan Weinidogion Cymru.
132.Mae adran 22(3) yn cymhwyso diffiniad Deddf Llywodraeth Cymru 2006 o Gymru (“Wales”) i ganiatáu cofrestru safleoedd lle nad oes adeileddau sydd mor bell â ffin tua’r môr y môr tiriogaethol.