Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2: Henebion Hynafol Etc

Adran 11 – Cytundebau partneriaeth dreftadaeth
9ZA Cytundeb partneriaeth dreftadaeth

59.Mae adran 9ZA(1) yn nodi bod rhaid i’r partïon i gytundeb gynnwys Gweinidogion Cymru a pherchennog heneb gofrestredig neu dir sy’n cydffinio â heneb gofrestredig neu dir sydd yng nghyffiniau heneb gofrestredig. Mae adran 9ZA(2) yn caniatáu i bersonau ychwanegol fod yn bartïon i gytundeb, gan gynnwys unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr ased, megis grŵp cymunedol, neu unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r ased, megis rheolwr safle.

60.Caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith penodedig at ddiben:

61.Caiff cytundeb hefyd bennu unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad hwnnw.

62.Ni chaiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb gofrestredig neu wneud unrhyw ddifrod iddi (adran 2(2)(a) o Ddeddf 1979) nac ychwaith ar gyfer unrhyw lifogydd neu weithrediadau tipio ar y tir, yn y tir neu o dan y tir lle y mae heneb gofrestredig (adran 2(2)(c) o Ddeddf 1979).

63.Mae adran 9ZA(4) yn nodi’r ystod o faterion ychwanegol y caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth wneud darpariaeth ar eu cyfer, gan gynnwys y fanyleb o waith y mae’r partïon yn cytuno na fyddai cydsyniad heneb gofrestredig yn ofynnol ar ei gyfer.

64.Mae adran 9ZA(6) a (7) yn diffinio perchennog (“owner”) at ddiben cytundebau partneriaeth dreftadaeth ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb ag unrhyw un neu ragor o berchenogion heneb gofrestredig sydd o dan amlberchenogaeth, heb orfod ymrwymo i gytundeb â phob un o’r perchenogion hynny.