2.Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn ehangu’r systemau presennol ar gyfer gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru a’i reoli’n gynaliadwy. Yn fras, mae’r Ddeddf: yn creu mesurau newydd ar gyfer gwarchod adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig; yn gwella’r mecanweithiau presennol ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol yn gynaliadwy; ac yn cyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd o ran y penderfyniadau a wneir ynghylch yr amgylchedd hanesyddol.
3.Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n:
ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â pherchenogion cyn dynodi asedau hanesyddol drwy gofrestru a rhestru, a sefydlu mecanwaith i adolygu penderfyniadau dynodi;
caniatáu i Weinidogion Cymru roi terfyn ar unwaith ar waith anawdurdodedig i henebion cofrestredig a’i gwneud yn haws i gamau gael eu cymryd yn erbyn y rhai hynny sydd wedi difrodi neu ddinistrio henebion;
galluogi awdurdodau i weithredu’n gyflym os yw adeilad rhestredig o dan fygythiad o waith anawdurdodedig ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt o ran delio ag adeiladau rhestredig y mae angen gwneud gwaith ar frys arnynt er mwyn eu gwarchod rhag dirywio ymhellach;
caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch camau pellach y caniateir i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru eu cymryd i sicrhau bod adeiladau rhestredig yng Nghymru sydd wedi mynd i gyflwr gwael yn cael eu diogelu’n briodol;
ei gwneud yn haws i berchenogion neu ddatblygwyr greu defnydd newydd cynaliadwy o adeiladau hanesyddol sydd heb eu rhestru drwy lacio’r amodau i geisiadau am dystysgrifau imiwnedd rhag rhestru;
caniatáu i berchenogion asedau hanesyddol drafod cytundebau partneriaeth dreftadaeth ag awdurdodau cydsynio am gyfnod o flynyddoedd, gan gael gwared ar yr angen i ymgeisio am gydsyniad i wneud gwaith tebyg dro ar ôl tro ac annog rheolaeth fwy cyson a chydlynol o’r adeiladau neu’r henebion;
ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol;
ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol ar gyfer Cymru gyfan, sy’n darparu gwybodaeth a chyngor manwl i awdurdodau lleol a’r cyhoedd ar yr amgylchedd hanesyddol, a chadw’r cofnodion hynny yn gyfredol;
ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru; a
sefydlu panel annibynnol i gynghori ar bolisi a strategaeth yr amgylchedd hanesyddol yn genedlaethol yng Nghymru.