1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 9 Chwefror 2016 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016. Fe’u lluniwyd gan Wasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw), er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.