Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

2016 dccc 4

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth sy’n diwygio agweddau penodol ar y gyfraith sy’n ymwneud â henebion hynafol ac adeiladau rhestredig; i sefydlu cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol a rhestr o enwau lleoedd hanesyddol; i sefydlu cofnodion amgylchedd hanesyddol ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol; i sefydlu Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru; ac at ddibenion cysylltiedig.

[21 Mawrth 2016]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn: