RHAN 8CYFFREDINOL

88Dod i rym

1

Mae’r Rhan hon yn dod i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

2

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

a

Rhan 1 (rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol);

b

Rhan 2 (newid yn yr hinsawdd);

c

Rhan 5 (pysgodfeydd ar gyfer pysgod cregyn);

d

adran 82 (diddymu gofynion i gyhoeddi);

e

adran 84 (apelau yn erbyn ardollau draenio arbennig);

f

adran 85 (pŵer mynediad);

g

adran 86 (is-ddeddfau).

3

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol—

a

Rhan 3 (codi taliadau am fagiau siopa);

b

Rhan 4 (casglu a gwaredu gwastraff);

c

Rhan 6 (trwyddedu morol);

d

adran 81 (pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol);

e

adran 83 (prisio tir anamaethyddol).

4

Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

a

pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol;

b

gwneud y ddarpariaeth drosiannol neu’r ddarpariaeth arbed honno mewn cysylltiad â dod i rym ddarpariaeth o fewn y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.