RHAN 8CYFFREDINOL
87Dehongli
Yn y Ddeddf hon—
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad a gynhwysir yn unrhyw un o’r canlynol (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir)—
(a)
Deddf Seneddol;
(b)
Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)
is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p. 30) (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).