RHAN 4CASGLU A GWAREDU GWASTRAFF
Gwaredu gwastraff
67Pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi
“9ARheoliadau sy’n gwahardd llosgi gwastraff
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o losgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â’i wahardd neu ei reoleiddio.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)—
(a)
diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy’n ymwneud â gweithrediad peiriannau llosgi gwastraff neu beiriannau cydlosgi gwastraff;
(b)
darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;
(c)
darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â’r tramgwyddau hynny;
(d)
darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau’r awdurdodau hynny.
(3)
Yn yr adran hon—
mae i “peiriant cydlosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste co-incineration plant” yn Erthygl 3(41) o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio);
mae i “peiriant llosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste incineration plant” yn Erthygl 3(40) o’r Gyfarwyddeb honno;
ystyr “llosgi” (“incineration”) mewn perthynas â gwastraff, yw—
(a)
llosgi gwastraff mewn peiriant llosgi gwastraff neu beiriant cydlosgi gwastraff, a
(b)
unrhyw driniaethau thermol eraill i’r gwastraff cyn ei losgi.”