RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA

Cyffredinol

63Dehongliad cyffredinol o’r Rhan hon

Yn y Rhan hon—

mae i “bag siopa” (“carrier bag”) yr ystyr a roddir gan adran 54;

mae “diben elusennol” (“charitable purpose”) i’w ddehongli yn unol ag adran 57(8);

ystyr “enillion gros o’r tâl” (“gross proceeds of the charge”) yw’r swm a dderbynnir gan werthwr nwyddau ar ffurf tâl;

ystyr “enillion net o’r tâl” (“net proceeds of the charge”) yw enillion gros gwerthwr o’r tâl wedi eu gostwng yn ôl y symiau hynny y caniateir eu pennu;

mae “gwerthwr nwyddau” (“seller of goods”) i’w ddehongli yn unol ag adran 56;

ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau bagiau siopa;

mae i “rheoliadau bagiau siopa” (“carrier bag regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 55;

mae i “y tâl” (“the charge”) yr ystyr a roddir gan adran 55.