RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA
Cyffredinol
62Rheoliadau o dan y Rhan hon
(1)
Mae’r pŵer i wneud rheoliadau bagiau siopa i’w arfer drwy offeryn statudol.
(2)
Mae’r pŵer i wneud rheoliadau bagiau siopa yn cynnwys pŵer—
(a)
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer dibenion neu achosion gwahanol;
(b)
i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(3)
Caiff darpariaeth o dan is-adran (2)(b) ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfiad.
(4)
Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau bagiau siopa gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.