RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA

Gweinyddu a gorfodi

60Gorfodi

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa roi pwerau neu ddyletswyddau i weinyddwr neu osod pwerau neu ddyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan y rheoliadau.

2

Caiff y rheoliadau (er enghraifft) roi pwerau i weinyddwr—

a

i’w gwneud yn ofynnol dangos dogfennau neu ddarparu gwybodaeth, neu

b

i holi gwerthwr nwyddau neu swyddogion neu gyflogeion gwerthwr.

3

Caiff y rheoliadau hefyd roi pwerau i weinyddwr holi person y mae’r gweinyddwr yn credu’n rhesymol ei fod wedi derbyn unrhyw enillion net o’r tâl neu swyddogion neu gyflogeion person o’r fath.

4

Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n rhoi pŵer o fewn is-adran (2) gynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau nad yw’r pŵer yn cael ei arfer gan weinyddwr ond pan fo’r gweinyddwr yn credu’n rhesymol bod methiant wedi bod i gydymffurfio â gofyniad yn y rheoliadau.