6Dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.
(2)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus ystyried cydnerthedd ecosystemau, a’r agweddau a ganlyn yn benodol—
(a)amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;
(b)y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;
(c)graddfa ecosystemau;
(d)cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);
(e)gallu ecosystemau i addasu.
(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—
(a)arfer swyddogaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu
(b)arfer un neu ragor o swyddogaethau barnwrol llys neu dribiwnlys.
(4)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1)—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron ac unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth roi sylw i Gonfensiwn Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol 1992, a
(b)rhaid i unrhyw awdurdod cyhoeddus arall roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
(5)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus ac eithrio unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron neu unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth roi sylw i—
(a)y rhestr a gyhoeddir o dan adran 7;
(b)yr adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8;
(c)unrhyw ddatganiad ardal a gyhoeddir o dan adran 11 ar gyfer ardal sy’n cynnwys ardal gyfan neu ran o ardal y mae’r awdurdod yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi.
(6)Rhaid i awdurdod cyhoeddus ac eithrio unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron neu unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud er mwyn cydymffurfio ag is-adran (1).
(7)Rhaid i awdurdod cyhoeddus, cyn diwedd 2019 a chyn diwedd pob trydedd flwyddyn ar ôl 2019, gyhoeddi adroddiad ar yr hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio ag is-adran (1).
(8)O ran awdurdod cyhoeddus sydd wedi cyhoeddi cynllun o dan is-adran (6)—
(a)rhaid iddo adolygu’r cynllun yng ngoleuni pob adroddiad a gyhoeddir ganddo o dan is-adran (7), a
(b)caiff adolygu’r cynllun unrhyw bryd.
(9)Yn yr adran hon—
(10)Yn is-adran (9)—
mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru;
ystyr “panel cynllunio strategol” (“strategic planning panel”) yw panel cynllunio strategol a sefydlwyd o dan adran 60D o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5);
ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)
person sydd wedi ei awdurdodi gan unrhyw ddeddfiad i weithredu unrhyw ymgymeriad rheilffordd, rheilffordd ysgafn, tramffordd, cludiant ar ffyrdd, cludiant ar ddŵr, camlas, mordwyo mewndirol, doc, harbwr, pier neu oleudy neu unrhyw ymgymeriad ar gyfer cyflenwi pŵer hydrolig;
(f)
ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth;
(g)
yr Awdurdod Hedfan Sifil neu ddeiliad trwydded o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38), i’r graddau y bo’r person sy’n dal y drwydded yn cynnal gweithgareddau a awdurdodir ganddi;