Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

6Dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.

(2)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus ystyried cydnerthedd ecosystemau, a’r agweddau a ganlyn yn benodol—

(a)amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(b)y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(c)graddfa ecosystemau;

(d)cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);

(e)gallu ecosystemau i addasu.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—

(a)arfer swyddogaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu

(b)arfer un neu ragor o swyddogaethau barnwrol llys neu dribiwnlys.

(4)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1)—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron ac unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth roi sylw i Gonfensiwn Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol 1992, a

(b)rhaid i unrhyw awdurdod cyhoeddus arall roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus ac eithrio unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron neu unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth roi sylw i—

(a)y rhestr a gyhoeddir o dan adran 7;

(b)yr adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8;

(c)unrhyw ddatganiad ardal a gyhoeddir o dan adran 11 ar gyfer ardal sy’n cynnwys ardal gyfan neu ran o ardal y mae’r awdurdod yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi.

(6)Rhaid i awdurdod cyhoeddus ac eithrio unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron neu unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud er mwyn cydymffurfio ag is-adran (1).

(7)Rhaid i awdurdod cyhoeddus, cyn diwedd 2019 a chyn diwedd pob trydedd flwyddyn ar ôl 2019, gyhoeddi adroddiad ar yr hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio ag is-adran (1).

(8)O ran awdurdod cyhoeddus sydd wedi cyhoeddi cynllun o dan is-adran (6)—

(a)rhaid iddo adolygu’r cynllun yng ngoleuni pob adroddiad a gyhoeddir ganddo o dan is-adran (7), a

(b)caiff adolygu’r cynllun unrhyw bryd.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod cyhoeddus”(“public authority”) yw—

    (a)

    Gweinidogion Cymru;

    (b)

    Prif Weinidog Cymru;

    (c)

    Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;

    (d)

    unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron;

    (e)

    corff cyhoeddus (gan gynnwys un neu ragor o adrannau’r llywodraeth, awdurdod lleol, awdurdod cynllunio lleol a phanel cynllunio strategol);

    (f)

    person sy’n dal swydd—

    (i)

    o dan y Goron,

    (ii)

    a grëwyd neu sy’n parhau mewn bodolaeth o ganlyniad i Ddeddf gyffredinol gyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd y DU, neu

    (iii)

    y telir tâl cydnabyddiaeth mewn perthynas â hi allan o arian a ddarperir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd y DU;

    (g)

    ymgymerwr statudol;

(10)Yn is-adran (9)—

  • mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru;

  • ystyr “panel cynllunio strategol” (“strategic planning panel”) yw panel cynllunio strategol a sefydlwyd o dan adran 60D o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5);

  • ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    (a)

    person sydd wedi ei awdurdodi gan unrhyw ddeddfiad i weithredu unrhyw ymgymeriad rheilffordd, rheilffordd ysgafn, tramffordd, cludiant ar ffyrdd, cludiant ar ddŵr, camlas, mordwyo mewndirol, doc, harbwr, pier neu oleudy neu unrhyw ymgymeriad ar gyfer cyflenwi pŵer hydrolig;

    (b)

    gweithredydd un o rwydweithiau’r cod cyfathrebu electronig (o fewn ystyr paragraff 1(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21));

    (c)

    gweithredydd maes awyr (o fewn ystyr Deddf Meysydd Awyr 1986 (p. 31)) sy’n gweithredu maes awyr y mae Rhan 5 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

    (d)

    trawsgludwr nwy (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Nwy 1986 (p. 44));

    (e)

    deiliad trwydded o dan adran 6(1) o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29);

    (f)

    ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth;

    (g)

    yr Awdurdod Hedfan Sifil neu ddeiliad trwydded o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38), i’r graddau y bo’r person sy’n dal y drwydded yn cynnal gweithgareddau a awdurdodir ganddi;

    (h)

    darparwr gwasanaeth cyffredinol o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011 (p. 5).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)