RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA
Gweinyddu a gorfodi
59Cadw a chyhoeddi cofnodion
(1)
Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw mewn perthynas â thaliadau a godir gan werthwyr nwyddau am fagiau siopa (pa un a yw’r taliadau’n ofynnol o dan y rheoliadau ai peidio).
(2)
Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol—
(a)
i’r cofnodion gael eu cyhoeddi, neu i’r wybodaeth arall honno y gellir ei phennu gael ei chyhoeddi, ar yr adegau hynny y gellir eu pennu ac yn y modd hwnnw y gellir ei bennu;
(b)
i’r cofnodion gael eu cyflenwi, neu i’r wybodaeth arall honno y gellir ei phennu gael ei chyflenwi, ar gais ac yn y modd hwnnw y gellir ei bennu—
(i)
i Weinidogion Cymru,
(ii)
i weinyddwr, neu
(iii)
i aelodau o’r cyhoedd.
(3)
Caiff y rheoliadau (er enghraifft) ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)
y swm a dderbynnir gan werthwr nwyddau ar ffurf taliadau am fagiau siopa (pa un a yw hynny’n unol â’r rheoliadau neu fel arall);
(b)
enillion gros neu net y gwerthwr o’r tâl;
(c)
at ba ddibenion y defnyddiwyd yr enillion net o’r tâl.
(4)
Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol hefyd gyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r swm y mae person wedi ei dderbyn gan werthwr ar ffurf enillion net o’r tâl sydd i’w gymhwyso at ddibenion elusennol.