RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA
Gweinyddu a gorfodi
58Gweinyddu
(1)
Caiff rheoliadau bagiau siopa benodi person (“gweinyddwr”) i weinyddu darpariaeth a wneir gan y rheoliadau.
(2)
Caniateir penodi mwy nag un person i fod yn weinyddwr.
(3)
Caiff y rheoliadau roi pwerau i weinyddwr, neu osod dyletswyddau arno.
(4)
Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (3) yn cynnwys darpariaeth—
(a)
sy’n gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r gweinyddwr, neu
(b)
i unrhyw ddeddfiad o’r fath fod yn gymwys, gydag addasiadau neu hebddynt, at ddibenion y rheoliadau.
(5)
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at weinyddwr yn cynnwys person a benodir gan weinyddwr.