RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA

Rheoliadau ynghylch codi taliadau am fagiau siopa

57Cymhwyso’r enillion

(1)

Rhaid i reoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i’r enillion net o’r tâl gael eu cymhwyso at ddibenion elusennol sydd—

(a)

yn ymwneud â diogelu neu wella’r amgylchedd, a

(b)

o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i Gymru gyfan neu unrhyw ran ohoni (pa un a ydynt o fudd hefyd i unrhyw ardal arall ai peidio).

(2)

Ond rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer eithriad sy’n galluogi gwerthwr nwyddau i gymhwyso’r enillion net o’r tâl at ddibenion elusennol eraill pan fo’r gwerthwr—

(a)

o fewn cyfnod penodedig cyn i’r ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ddod i rym am y tro cyntaf, wedi cymhwyso symiau a dderbyniwyd ar ffurf taliadau am fagiau siopa at y dibenion hynny, a

(b)

wedi rhoi hysbysiad ei fod wedi cymhwyso symiau at y dibenion hynny fel y crybwyllir ym mharagraff (a) ac am ddymuniad y gwerthwr i allu cymhwyso’r holl enillion net o’r tâl, neu ran ohonynt, at y dibenion hynny.

(3)

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)

ynghylch sut, pa bryd ac i bwy y mae’n rhaid rhoi hysbysiad;

(b)

ynghylch gwybodaeth y mae’n rhaid ei darparu wrth roi hysbysiad;

(c)

i’r eithriad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau.

(4)

Caiff y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i werthwr nwyddau gymhwyso’r enillion net o’r tâl—

(a)

at y dibenion elusennol hynny o fewn yr is-adran honno y bydd y gwerthwr yn penderfynu arnynt, neu

(b)

pan fo’r rheoliadau’n pennu un diben elusennol neu ragor, at y dibenion penodedig hynny neu at y rhai hynny o’u plith y bydd y gwerthwr yn penderfynu arnynt.

(5)

Caiff rheoliadau bagiau siopa (ymhlith pethau eraill)—

(a)

darparu bod yr enillion net o’r tâl i’w trin fel petaent wedi eu cymhwyso yn unol â darpariaeth a wneir o dan yr adran hon os cânt eu derbyn gan bersonau penodedig neu bersonau o ddisgrifiad penodedig (neu’r ddau);

(b)

gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau i’r enillion net o’r tâl gael eu rhoi gan werthwyr i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu i unrhyw berson arall;

(c)

ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n derbyn unrhyw enillion net o’r tâl gymhwyso’r enillion at ddibenion elusennol yn unol â darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) neu (2).

(6)

Caiff y rheoliadau—

(a)

darparu i Weinidogion Cymru adennill symiau sy’n gyfwerth â’r enillion o’r tâl a dderbyniwyd neu a gymhwyswyd heb fod yn unol â darpariaeth a wneir o dan yr adran hon;

(b)

darparu ar gyfer cymhwyso symiau a adenillir gan Weinidogion Cymru at ddibenion elusennol o fewn is-adran (1) (gan gynnwys y dibenion elusennol hynny o fewn yr is-adran honno y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arnynt);

(c)

darparu nad yw symiau a adenillir gan Weinidogion Cymru i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru.

(7)

Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth sy’n gymwys i bersonau ar wahân i werthwyr nwyddau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod darpariaeth o’r fath yn briodol er mwyn gorfodi darpariaeth a wneir o dan yr adran hon neu ar gyfer gwneud darpariaeth o’r fath yn effeithiol fel arall.

(8)

Yn y Rhan hon, mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” yn Neddf Elusennau 2011 (p. 25) (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno); ond caiff rheoliadau bagiau siopa ddarparu i’r diffiniad fod y gymwys at ddibenion y Rhan hon gyda’r addasiadau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn sicrhau bod yr enillion net o’r tâl yn cael eu cymhwyso’n briodol.